Home CY

  • Benthychiad gwerth £35m i barhau i gynyddu ein buddsoddiad mewn cartrefi

    Mae ein Tîm Cyllid wedi sicrhau benthyciad gwerth £35 miliwn gan bLend Funding CCC – bydd y cyllid cost isel hwn yn ailariannu'r ddyled ddrud bresennol. Yn ei dro, bydd hyn yn helpu Cymoedd i'r Arfordir i gyflawni amcanion 10 mlynedd ei Gynllun Corfforaethol trwy sicrhau ei fod yn cael ei ariannu'n gynaliadwy, a'i fod yn cynyddu ei fuddsoddiad mewn cartrefi a chymunedau 

     

    Bydd cyfran o ‘fond cymdeithasol’ cyntaf erioed y benthyciwr yn cael ei defnyddio i dalu hen ddyled etifeddol sydd â chyfradd llog llawer yn uwch ar hyn o bryd. Bydd hyn yn lleihau taliadau llog y benthyciad, gan ryddhau mwy o arian ar gyfer rhaglen ddatblygu'r sefydliad, a fydd wedyn yn gallu adeiladu mwy o gartrefi newydd.

     

    Mae Arweinydd Tîm Cyllid Cymoedd i'r Arfordir, Claire Marshall, yn Gyfarwyddwr Cyllid, Llywodraethu, Strategaeth a Pherfformiad Corfforaethol, ac esboniodd sut fydd y benthyciad 34 blynedd gyda chost llog sefydlog isel o 2.45% yn helpu i gynnal proffil ariannol cryf y sefydliad, a hefyd i gyflawni ei weledigaeth o ddiwallu'r angen am dai cymdeithasol gwirioneddol fforddiadwy.

     

    “Wrth i Gymru ymadfer ar ôl y pandemig, bydd cymdeithasau tai yn dod yn bwysicach nag erioed i gymunedau lleol. A dyna pam mae'r cyllid hwn mor hanfodol, gan ei fod yn ein galluogi i barhau i ddarparu cartrefi a lleoedd lle mae ein cwsmeriaid yn teimlo'n hapus ac yn ddiogel.”

     

    Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol, Joanne Oak, bod y benthyciad gan y Tîm Cyllid yn llwyddiant mawr a gefnogir gan Centrus. “Trwy bartneriaethau strategol, rydym wedi sicrhau cyllid cynaliadwy tymor hir i gefnogi a chyflawni’r uchelgeisiau 10 mlynedd a nodir yn ein Cynllun Corfforaethol. Bydd hyn yn ein galluogi i barhau i ddarparu gwasanaeth o safon uchel sy'n canolbwyntio'n llwyr ar ein cwsmeriaid.”

     

    Nododd Paul Stevens, Cyfarwyddwr Gweithredol a Phennaeth Tai Fforddiadwy Centrus, bod Cymoedd i'r Arfordir wedi ymuno â ‘chlwb dethol’ o Gymdeithasau Tai yng Nghymru sydd wedi llwyddo i gael at bLEND.

     

    “Mae hwn yn ganlyniad ariannu ardderchog, ond rhaid cofio hefyd bod hyn yn gadarnhad allanol ychwanegol o gryfder ac ansawdd Cymoedd i'r Arfordir. Roedd Centrus yn falch iawn o ddarparu sicrwydd a chyngor ariannol annibynnol, a dylai'r tîm yng Nghymoedd i'r Arfordir ymfalchïo yn eu llwyddiant”.

     

    Ychwanegodd Piers Williamson, Prif Swyddog Gweithredol bLEND, bod trosi bondiau yn fondiau cymdeithasol yn atgyfnerthu'r ffocws ar effaith cymdeithasol. “Mae'n wych gweld yr effaith gynyddol ar brisiau, sy'n ein galluogi i sicrhau cyfradd dda iawn i gymdeithasau fel Cymoedd i'r Arfordir sy'n gwneud gwaith mor bwysig dros eu cymunedau.”

    Darllen mwy
  • Cymoedd i'r Arfordir yn cefnogi menter bocsys nythu i ddenu Gwenoliaid Duon yn ôl i Ben-y-bont ar Ogwr

    Y mis hwn, bydd croeso cynnes yng Ngogledd Corneli, Pen-y-bont ar Ogwr, i ymwelwyr haf pluog tra arbennig: Y Gwenoliaid Duon. Ac mae cefnogwyr y fenter bocsys nythu (Cymoedd i'r Arfordir, Clwb Adar Morgannwg a Phartneriaeth Natur Leol Pen-y-bont ar Ogwr) yn gobeithio y bydd yr adar yn sefydlu cartref haf parhaol yma a chynyddu eu niferoedd.

     

    Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Amrywiaeth Fiolegol eleni, mae'r thema 'rydyn ni'n rhan o'r ateb' yn gofyn i ni ystyried sut gallwn fyw mewn cytgord â natur a helpu i atal colli bioamrywiaeth. Mae Cymoedd i'r Arfordir yn ymrwymedig i hyrwyddo bioamrywiaeth ar draws ein stadau ac yn cydnabod y gallwn ni, fel sefydliad, fod yn rhan o'r ateb drwy gefnogi mentrau fel hyn.

     

     

    Howard Driver (ar y chwith), a Strinda Davies (ar y dde)

     

    Mae Gwenoliaid Duon yn gwneud taith ddwyffordd anhygoel 14,000 o filltiroedd o Affrica i'r un ardal fridio bob blwyddyn ar yr adeg hon, ac maent yn aros yn ffyddlon i'w partneriaid. Ond maent yn prinhau'n ddifrifol oherwydd colli eu safleoedd nythu traddodiadol. Dyna pam y cafodd partneriaeth newydd ei ffurfio i ymchwilio i leoliadau newydd ar gyfer y safleoedd nythu a gollwyd. Mae chwe safle nythu addas wedi cael eu gosod bellach ar Stad Marlas. 

     

    “Yn anffodus, mae Gwenoliaid Duon yn rhywogaeth sy'n diflannu,” esboniodd Strinda Davies, Ymddiriedolwr Clwb Adar Morgannwg. “Fel elusen sy'n ymrwymedig i ddiogelu a mwynhau'r adar yn ein hardal ni yn Ne Cymru, rydym wrth ein bodd o gael gweithio gyda Chymoedd i'r Arfordir er lles yr ymfudwyr haf mawreddog hyn.”

     

    Crëwyd y prosiect yn sgil monitro diwyd gan aelodau'r clwb adar ar y poblogaethau o Wenoliaid Duon sy'n bridio yng nghymunedau Mynyddcynffig, Y Pîl a Gogledd Corneli dros y blynyddoedd diwethaf, fel rhan o brosiect mapio Gwenoliaid Duon yr RSPB ledled y DU.

     

    Llun gan Tim Collier

     

    Bydd y Gwenoliaid Duon sy'n cyrraedd nawr yn ymadael ym mis Awst am eu tiroedd gaeafu yn y Congo Affricanaidd. Maent yn treulio'r rhan fwyaf o'u hoes yn hedfan, gan lanio pan fyddant yn cyrraedd safle nythu yn unig. Maent yn byw am tua phum mlynedd, ond nid ydynt yn cyrraedd oed bridio nes byddant yn dair neu bedair oed.

     

    “Mae niferoedd y Gwenoliaid Duon yn prinhau'n ddifrifol oherwydd colli eu safleoedd nythu traddodiadol,” meddai Jess Hartley, Cydlynydd Partneriaeth Natur Leol Pen-y-bont ar Ogwr, yn drist. “Ond rydym yn falch iawn o allu cefnogi'r fenter hon yn ariannol i sicrhau bod y bocsys nythu wedi cael eu gosod yn ddiogel gan wirfoddolwyr Clwb Adar Morgannwg, yn defnyddio'u harbenigedd a'u gwybodaeth arbenigol.”

     

    Meddai Andy Jones, Arweinydd y Tîm Tai Cymunedol yng Nghymoedd i'r Arfordir: “Fel rheolwr meddiannau ar Stad Marlas, mae Cymoedd i'r Arfordir yn falch o gefnogi'r fenter hon fel rhan o'n hymrwymiad i gefnogi bioamrywiaeth, a galluogi ein preswylwyr i weld amrywiaeth o fywyd gwyllt ar garreg eu drws.

     

    “Mae'r flwyddyn ddiwethaf hon wedi amlygu pwysigrwydd a buddion prosiectau cadwraeth fel y rhain. Ac yng Nghymoedd i'r Arfordir rydym yn gwybod y gall y fath bartneriaethau ein galluogi i gyflawni mwy fyth yn ein cymuned, gan greu lleoedd diogel a hapus i bobl a natur fel ei gilydd. Edrychwn ymlaen at fentrau newydd yn y dyfodol.”   

     

    Darllen mwy
  • Yn Fyw yn Wildmill

    Roedd yn wych cael siarad â'r preswylwyr a ddaeth i ddigwyddiad Wildmill Live a rhannu eu syniadau ar gyfer gwella'r mannau agored ar y stad. 



    Cafwyd llawer o syniadau anhygoel, yn cynnwys: 



    • Darparu mwy o seddau o gwmpas y stad lle gall preswylwyr gwrdd
    • Hongian basgedi o flodau ar y polion lampau
    • Dolydd blodau gwyllt
    • Mannau gwefru trydan i geir
    • Gweithgareddau sy’n cynnwys plant a phobl ifanc 
    • Gwella'r parc chwarae 
    • Gwneud y ffordd fawr yn fwy deniadol
    • Plannu mwy o goed ar draws y stad
    • Gwneud rhywbeth ar safle'r hen barc ym Maes y Felin
    • Gwella'r arwyddion ar y stad
    • Gosod mwy o finiau baw cŵn 
    • Gwella'r mannau ailgylchu i'w gwneud yn gliriach



    Rydyn ni'n dechrau drwy ystyried sut gallwn wneud y mannau ailgylchu a sbwriel yn haws eu deall a'u defnyddio i'r holl breswylwyr, a byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth cyn hir. 



    Rydym eisiau parhau i siarad, felly os oes gennych syniadau – yn rhai mawr neu fach –rhannwch nhw gyda ni. Gallwch gysylltu â ni drwy



    01656 762487 neu marie.kiff@v2c.org.uk

    …...



    Wrth i'r cyfyngiadau leihau, byddwn yn cynllunio sut gallwn ddod i'r stad yn ddiogel i sgwrsio â'r preswylwyr am feysydd a syniadau allweddol. Wedyn, gallwn weithio gyda'n gilydd i ddatblygu'r syniadau hyn ymhellach, yn cynnwys chwilio am unrhyw gyllid sydd ar gael a nodi partneriaid ac asiantaethau eraill y gallwn weithio gyda nhw.



    Cedwch lygad am fwy o wybodaeth am ba ddyddiad byddwn yn yr ardal.

     

    Darllen mwy