Gallech ennill £50 o dalebau siopa am ddim ond rhoi eich barn!
Oes diddordeb gennych chi mewn newid hinsawdd ac arbed ynni?
Ydych chi'n gwybod faint o ynni mae eich cartref yn ei ddefnyddio? Ydych chi'n ei wresogi ar y tymheredd cywir i gael gwerth eich arian?
Bwriwch olwg ar y prosiect newydd cyffrous hwn ‒ rydym yn chwilio am gwsmeriaid i ymuno â ni yn:
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd angen i ni sicrhau bod gan ein holl gartrefi Dystysgrif Perfformiad Ynni gyda dosbarthiad Band A erbyn 2030. Ynghyd â sefydliadau tai eraill ar draws Cymru, rydym yn rhan o brosiect cyffrous sy’n dysgu am y mesurau mae angen i ni eu rhoi ar waith i wneud eich cartref yn lle cynnes, clyd a rhatach i'w redeg. Ond allwn ni ddim gwneud hyn ar ein pen ein hun, mae angen eich cymorth chi arnom.
Rydym yn chwilio am gwsmeriaid a fyddai'n fodlon i ni osod System Ynni Ddeallus yn eu cartref i gofnodi eu defnydd o ynni. Bydd y data a ddefnyddir yn ein helpu i ddeall pa mor effeithlon yw eich cartref a pha fesurau y gellid eu rhoi ar waith i redeg pethau'n rhatach, a’i wneud yn fwy clyd i fyw ynddo. Bydd hefyd yn ein helpu i ddeall pa gyllid fydd ei angen arnom dros y blynyddoedd nesaf a sut ddylen ni wario ein harian fel y byddwch yn arbed cymaint o ynni â phosibl.
Ar hyn o bryd yr unig waith i’w wneud yw gosod y System Ynni Ddeallus ond byddwn yn parhau i gysylltu â chi ynglŷn ag unrhyw weithiau eraill a allai fod yn fuddiol i'ch cartref.
I gymryd rhan...
2- Byddwn yn trefnu galwad gyda chi a bydd y tîm yn esbonio'r prosiect ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych
3- Byddwn yn galw heibio i gynnal arolwg o'r tŷ i gyd fel y byddwn yn gwybod beth sydd yn eich cartref yn barod (ni ddylai hyn gymryd mwy na 2 awr)
4- Byddwn yn gosod System Ynni Ddeallus yn eich cartref ‒ bydd hyn yn cymryd tua hanner diwrnod
5- Bydd y system yn casglu data ynni am 12 mis a byddwn yn defnyddio'r rhain i gynllunio sut fyddwn yn gwario arian i wella eich cartref chi.
Rydym yn gwneud y gwaith hwn ar y cyd â'r Grŵp SERO a leolir yn Ne Cymru ac sy'n arbenigo mewn gwneud cartrefi yn fwy effeithlon o ran ynni. Maen nhw'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Chymdeithasau Tai fel ninnau i helpu i sicrhau bod eich cartrefi yn barod ar gyfer y dyfodol.
Nid yw'r prosiect hwn yn effeithio ar eich cyflenwad ynni; eich dewis o gwmni cyfleustodau; neu unrhyw waith atgyweirio sydd ei angen yn eich cartref, a dydyn ni ddim yn gwybod yr holl atebion eto gan fod hon yn daith ddysgu i ni i gyd.
Ni allwn ddod i ddeall beth sydd ei angen arnoch chi a'ch cartref oni bai y gallwn wneud y darn hwn o waith.
Mae Cymoedd i'r Arfordir wedi derbyn cyllid ar gyfer gosod y systemau hyn mewn 80 o gartrefi felly peidiwch â cholli allan ‒ dewch i weithio gyda ni i gynllunio ar gyfer y dyfodol.
Ddydd Sadwrn hwn, rydym yn gofyn i holl gydweithwyr a chwsmeriaid Cymoedd i'r Arfordir ymuno â'r Awr y Ddaear fyd-eang i godi ymwybyddiaeth o'r materion amgylcheddol sy'n effeithio ar ein planed.
Mae colli natur a'r newid yn yr hinsawdd yn cyflymu a thrwy ddiffodd ein goleuadau nos Sadwrn, gallwn chwarae ein rhan a dechrau sgwrs fyd-eang ynglŷn â'r camau y gallwn bob un eu cymryd.
Gyda'n cydweithwyr yng Nghymoedd i'r Arfordir rydym eisoes wedi dechrau ein hymgyrch ‘Torri Eich Carbon’, a fydd yn ystyried sut gallwn leihau ein heffaith amgylcheddol fel busnes. Rydym yn awyddus i chwarae ein rhan yn Awr y Ddaear ac i chi rannu eich lluniau o ddiffodd eich goleuadau a throi eich ffrydiau cyfryngau cymdeithasol i ffwrdd am awr o 20:30 ‒ a gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol.
Felly dyma syniadau am beth allech ei wneud i sicrhau bod Awr y Ddaear yn arbennig:
Gallwch gael mwy o wybodaeth ar Awr y Ddaear a sut gallwch chwithau gymryd rhan yn https://www.earthhour.org/
Ddydd Sadwrn gobeithiwn y byddwch bob un yn rhannu eich lluniau o weithgareddau Awr y Ddaear gan ddefnyddio'r hashnodau #EarthHour a #CutYourCarbon i gefnogi'r ymgyrch hwn, a hefyd copïo ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol i mewn fel y gallwn eu rhannu.
Diolch am gymryd rhan a mwynhewch Awr y Ddaear.
Rydym yn ystyried ymgeisio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am gael enwi stryd ar gyfer ein datblygiad yng Nghefn Cribwr ac rydym yn awyddus i glywed eich syniadau chi.
Mae’r safle ar y gyffordd rhwng Heol Cefn a Chlôs Bedford yng Nghefn Cribwr, Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae iddo hanes cyfoethog. Roedd gynt yn gartref i glwb athletau, ac yn Neuadd Ambiwlansys Sant Ioan. Roedd y Neuadd Ambiwlansys yn cael ei defnyddio ar gyfer addysgu a chymdeithasu – rhoddwyd hyfforddiant cymorth cyntaf i'r gymuned yma, ynghyd â chynnal dawnsfeydd a digwyddiadau cymunedol eraill.
Rydym yn awyddus i gydnabod hanes y safle hwn a gobeithiwn adlewyrchu ei hanes wrth enwi'r datblygiad.
Bydd y datblygiad yn dod â thai fforddiadwy i'r ardal ac yn rhoi defnydd newydd i safle segur sydd wedi bod yn wag ers amser. Rydym hefyd yn awyddus i ddiogelu a gwella'r Ardd Goffa, gan greu lle dymunol y gall yr holl gymuned gyfan ei mwynhau.
Rydym yn croesawu eich holl syniadau, bydd yr enw terfynol yn cael eu cyfieithu i Gymraeg yn unol â pholisi’r Cyngor ynglun enwau strydoedd newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ond mae croeso i chi roi awgrymiadau yn Gymraeg a Saesneg.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fydd yn penderfynu ar enw terfynol y stryd.
Rhannwch eich syniadau a'ch awgrymiadau â ni drwy lenwi'r ffurflen hon.
Y dyddiad cau ar gyfer awgrymiadau yw’r 12fed of Ebrill 2021.
Bydd digwyddiad ar-lein newydd yn archwilio syniadau ar gyfer y mannau agored yn Wildmill.
Bwciwch eich lle ar ‘Cymoedd i'r Arfordir yn Fyw’ i drafod Wildmill
Er bod y pandemig yn golygu na allwn fynd allan i'n stadau ar hyn o bryd, dydy hyn ddim yn golygu na allwn gwrdd yn rhithiol. Y mis hwn felly, mae Cymoedd i'r Arfordir yn gwahodd preswylwyr Wildmill i gwrdd â ni ar-lein mewn digwyddiad byw newydd.
Y mis hwn, bydd ‘Cymoedd i'r Arfordir yn Fyw’ yn canolbwyntio ar fannau agored yn Wildmill ac yn rhoi cyfle i'r preswylwyr rannu eu meddyliau ar beth hoffen nhw ei weld ar y stad.
Bydd cynghorwyr lleol a thimau cymdogaeth Cymoedd i'r Arfordir yn ymuno â ni yn y digwyddiad.
Cynhelir y digwyddiad ar-lein ar 24 Mawrth, 13:30–14:30 a gallwch fwcio lle drwy lenwi ffurflen yma. Ar ôl i chi wneud hyn, byddwn yn anfon cyfarwyddiadau llawn am y cyfarfod atoch drwy e-bost. Y cyfan sydd ei angen i ymuno yw cyfrifiadur, tabled neu ffôn symudol a chysylltiad rhyngrwyd.
Yn y sesiwn hwn bydd cyfle i chi drafod eich meddyliau ar beth ellir ei wneud i wella'r mannau agored yn yr ardal, ac rydym yn gobeithio gweithio gyda chi a'r Cyngor i roi rhai o'r syniadau hyn ar waith.
Bwciwch eich lle cyn Dydd Mawrth yr 23ain o Fawrth.
Mae'r digwyddiad yn agored i gwsmeriaid Cymoedd i'r Arfordir, preswylwyr preifat Wildmill, ynghyd â chynghorwyr lleol a pherchenogion busnesau yn yr ardal.
Yn dilyn y diweddariad gan y Prif Weinidog ddydd Gwener 12 Mawrth ar statws y cyfyngiadau symud cenedlaethol, rydw i eisiau diweddaru ein cwsmeriaid ar ailddechrau ein holl wasanaethau yn llawn.
O ystyried y gyfradd ostyngol o achosion o'r coronafeirws ar draws Cymru, ac yma yn sir Pen-y-bont ar Ogwr, a'r effaith cadarnhaol y mae'r brechiadau'n ei gael ar reoli'r feirws, dyma’r amser cywir i ni ailgydio yn y gwasanaethau a ddisgwyliwch gennym.
Mae hyn yn golygu: o ddydd Llun 15 Mawrth, byddwn yn derbyn ac yn bwcio apwyntiadau unwaith eto am waith atgyweirio argyfwng a dim brys gan gwsmeriaid. Ac er bod angen i ni barhau i ddilyn y rheolau cadw pellter cymdeithasol, byddwch hefyd yn gweld ein bod yn ailgydio yn ein gwasanaethau tai hefyd.
Os ydych wedi logio gwaith atgyweirio gyda ni yn barod, does dim angen i chi ffonio eto. Byddwn yn cysylltu â chi cyn hir i fwcio hwn. I'r rhai sydd â gwaith atgyweirio newydd i'w gofnodi, gofynnwn i chi fod yn amyneddgar gan fydd ein llinellau ffôn yn fwy prysur nag arfer, mae'n siŵr. Efallai bydd rhaid i chi aros yn hirach nag arfer cyn cael siarad â'n timau.
Gallwch hefyd roi gwybod am waith atgyweirio newydd drwy anfon e-bost at thehub@v2c.org.uk gan roi eich enw, cyfeiriad, rhif cyswllt a disgrifiad o’r gwaith atgyweirio. Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl – gall lluniau fod yn ddefnyddiol hefyd.
Er bod y gyfradd trosglwyddiadau’n gostwng, mae'n bwysig ein bod yn parhau i wneud ein gorau i'ch cadw chi a'n gweithwyr yn ddiogel, felly rwy'n apelio at y rhai ohonoch sydd wedi bwcio gwaith atgyweirio gyda ni i ddilyn y canllawiau ynghylch cadw pellter diogel o 2 fetr.
Rydym wedi paratoi fideo byr sy'n amlinellu'r 5 Cam a gymerwn i'ch cadw'n ddiogel, a gofynnwn i chi ei wylio cyn i ni ddod i'ch cartref i wneud gwaith atgyweirio neu ymweliad cartref. Mae'n hanfodol bwysig ein bod bob un yn dilyn y canllawiau wrth i ni geisio arafu lledaeniad y feirws.
Gallwch weld y fideo ar ein sianel Youtube. (Saesneg yn unig)
Os oes gennych chi neu rywun sy'n byw gyda chi symptomau, neu rydych wedi cael prawf positif, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl i ganslo’ch apwyntiad.
Rydym hefyd yn deall y bydd rhai ohonoch yn teimlo'n anghyffyrddus i ni ddod i mewn i'ch cartref o gwbl ar hyn o bryd. Os felly, ac rydych yn teimlo y gall eich gwaith atgyweirio neu apwyntiad aros, cysylltwch â ni ar 0300 123 2100 rhwng 09:00 a 17:00 a byddwn yn canslo eich apwyntiad presennol.
Ein prif flaenoriaeth yw cadw'n cwsmeriaid yn ddiogel ac yn hapus, a hoffem ddiolch i chi ymlaen llaw am eich amynedd a'ch dealltwriaeth, a'ch parodrwydd i ddilyn y canllawiau diogelwch pan fyddwn yn ailgydio yn ein gwasanaethau llawn.
Rydym yn ymrwymedig i ddarparu'r gwasanaethau a ddisgwyliwch gennym, ac yn ystod y cyfnod ansicr hwn, rydym wedi bod wrthi'n gweithio'n galed y tu ôl i'r llenni yn diweddaru ein cynllun corfforaethol. O ganlyniad i'r gwaith hwn, a'ch adborth chi yn ein harolwg STAR diweddar, rydym wedi gosod adolygiad o'n taith atgyweirio ar frig ein rhestr o flaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn sy'n dod.
Mae hyn yn golygu y gallwch ddisgwyl gwelliannau o ran sut mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei redeg wrth i ni anelu at ei newid o fod yn wasanaeth da i fod yn wasanaeth gwych.
Wrth gwrs, byddwn yn parhau i siarad â chi i gael eich barn ar sut rydym yn gwneud, ac yn defnyddio hyn i'n helpu i lywio'r gwasanaeth rydych chi ei eisiau.
Yn y cyfamser, hoffwn ddiolch i'n holl gwsmeriaid am eich amynedd wrth i ni symud drwy'r cyfnod anodd hwn. Mae hyn wedi rhoi'r amser i ni wneud y penderfyniadau cywir i chi ac i'n cydweithwyr.
Diolch, a chadwch yn ddiogel
Joanne Oak - Prif Weithredwr
Byddwn yn adeiladu ein datblygiad diweddaraf yn Ffordd yr Eglwys yn defnyddio system arloesol a fydd yn gwneud tai effeithlon o ran ynni yn realiti fforddiadwy i bobl ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Trwy ddefnyddio Paneli wedi’u Hinswleiddio'n Adeileddol (Phau), gellir codi adeiladau yn llawer cyflymach nag wrth ddefnyddio dulliau traddodiadol. Mae'r deunyddiau ysgafn iawn yn cael eu rhoi at ei gilydd yn fecanyddol, felly does dim angen crefftau gwlyb. Mae'n golygu y gall y tai fod yn barod ar gyfer tenantiaid o fewn wythnosau, a’u bod hefyd wedi'u hadeiladu i bara.
Er nad yw defnyddio Phau i adeiladu neu i ychwanegu at feddiannau yn ddull newydd, dyma'r tro cyntaf i dai cymdeithasol yng Nghymru eu defnyddio, a gallent gynnig ateb i'r argyfwng tai a wynebir ar hyn o bryd yn y DU oherwydd cyflymder a phris isel y gwaith adeiladu.
Yn ogystal â'u fforddiadwyedd a'r amser adeiladu byr, bydd y meddiannau hyn yn effeithlon o ran ynni hefyd diolch i'r paneli wedi'u hinswleiddio ymlaen llaw a’r paneli solar. Gallai hyn leihau costau biliau a’n helpu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd.
Bydd y datblygiad o dai dau lawr yng Ngogledd Corneli yn cynnwys pedwar tŷ un ystafell wely. Mae gan bob un o'r cartrefi pâr ardd y tu cefn iddynt a man parcio a rennir o'u blaen.
Dechreuwyd ar y gweithiau i baratoi'r safle ar gyfer adeiladu ym mis Ionawr, a’r dyddiad cwblhau rhagamcanol yw mis Ebrill. Disgwylir y bydd y broses ddatblygu gyfan yn para llai na 4 mis o'r dechrau i'r diwedd.
I gael mwy o wybodaeth am y prosiect adeiladu, bwriwch olwg ar y pecyn gwybodaeth yma.
Bydd datblygiad diweddaraf Cymoedd i'r Arfordir yn cael ei adeiladu ar Heol Eweni ym Mhen-y-bont ar Ogwr ‒ bydd y gweithiau'n dechrau yn Chwefror 2021.
Lleolir y datblygiad ar y gyffordd â Stryd St Marie, sy'n arwain i ganol y dref, a bydd yn creu tai fforddiadwy, mawr eu hangen ar gyfer y gymuned, gan ddarparu cartrefi lle gall pobl deimlo'n ddiogel a hapus.
O'r blaen, roedd hwn yn safle’r gwerthwr ceir, Leslie Griffiths Motors. Agorodd y busnes yn 1975 ac, yn eu dydd, roeddent yn noddi nifer o ddigwyddiadau pencampwriaethau rasio ceir Cymreig. Yn ddiweddarach, defnyddiwyd yr adeilad fel siop ffenestri dwbl. Trwy adfer y safle segur hwn a rhoi pwrpas newydd iddo, mae Cymoedd i'r Arfordir yn gobeithio hyrwyddo ein gweledigaeth o adeiladu Cymru well.
Bydd y datblygiad yn cynnwys saith o fflatiau un ystafell wely ar dri llawr a bydd hefyd yn cynnwys tri man parcio y tu ôl i'r eiddo.
Ar gyfer y prosiect hwn, rydym yn gweithio gyda Tylux, sef cwmni adeiladu o Borthcawl. Amcangyfrifir y bydd yn cymryd blwyddyn i gwblhau’r gwaith, a disgwylir y bydd tenantiaid yn symud i mewn tua mis Ionawr 2022.
I gael mwy o wybodaeth am y prosiect adeiladu, bwriwch olwg ar y pecyn gwybodaeth yma.
Os hoffech rannu rai o'ch storïau am Heol Eweni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Efallai y prynoch eich beic modur cyntaf gan Leslie Griffiths Motors, neu gallai fod gennych fwy o wybodaeth am hanes y safle. Gallwch rannu eich storïau trwy anfon e-bost atom yn comms@v2c.org.uk neu drwy roi eich sylwadau ynglŷn â'r safle a'r datblygiad ar ein postiadau Facebook a Twitter.
Bydd y gwaith ar ddatblygiad diweddaraf Cymoedd i’r Arfordir yn dechrau ym mis Rhagfyr ar safle a oedd gynt yn gartref i’r clwb athletau, ynghyd â Neuadd Ambiwlansys Sant Ioan.
Mae’r safle ar y gyffordd rhwng Heol Cefn a Bedford Close yng Nghefn Cribwr, Pen-y-bont ar Ogwr ac mae iddo hanes cyfoethog. Mae Cymoedd i’r Arfordir yn awyddus i gydnabod yr hanes hwn, a gobeithiwn ei adlewyrchu wrth enwi’r datblygiad.
Agorwyd yr hen Neuadd Ambiwlansys yn gyntaf ar 1 Ionawr, 1938, ac fel y nododd The Glamorgan Gazette ar y pryd, byddai’n ‘ganolfan ddynamig, yn lledaenu hapusrwydd drwy gymuned gyfan’.
Ynghyd â dod a hyfforddiant cymorth cyntaf i aelodau o’r gymuned, cafodd y lleoliad ei hun ei ddefnyddio mewn nifer o wahanol ffyrdd: i gynnal dawnsfeydd, cyngherddau, a digwyddiadau eraill. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd y neuadd ei defnyddio fel cantîn ar gyfer yr ysgol gynradd leol hyd yn oed.
Roedd Adran Ambiwlans Sant Ioan Cefn Cribwr yn adnabyddus ledled De Cymru am ei medrusrwydd. Byddai cystadlaethau’n cael eu cynnal rhwng y timau Sant Ioan lleol, a daeth Cefn Cribwr yn enwog am ennill y rhan fwyaf o’r profion y byddent yn cystadlu ynddynt.
Gan anrhydeddu nod cychwynnol y Neuadd Ambiwlansys, mae Cymoedd i’r Arfordir yn awyddus i gadw a gwella’r Ardd Goffa, gan greu man dymunol y bydd y gymuned gyfan yn gallu ei mwynhau.
Wrth edrych tua’r dyfodol, mae Cymoedd i’r Arfordir yn gobeithio adfer yr ymdeimlad o gymuned i’r safle, gan adfywio rhan o Gefn Cribwr sydd wedi bod yn wag ers blynyddoedd, a chefnogi ein gweledigaeth o helpu i adeiladu Cymru well.
Bydd y datblygiad hwn yn dod â chartrefi hyblyg, hygyrch, mawr eu hangen i’r ardal. Bydd y datblygiad dau lawr yn cynnwys pedwar fflat un ystafell wely, tri fflat dwy ystafell wely, a thri fflat un ystafell wely â mynediad i gadair olwyn.
I gael mwy o wybodaeth am y prosiect, bwriwch olwg ar y pecyn gwybodaeth yma.
Os hoffech rannu rhai o’r hanesion am Gefn Cribwr, byddai’n dda iawn gennym glywed gennych. Efallai eich bod wedi gwirfoddoli yno, neu wedi bod i barti Pen-blwydd neu briodas. Gallwch rannu eich storïau drwy gysylltu â ni yn comms@v2c.org.uk neu drwy roi eich sylwadau ar ein postiadau Facebook a Twitter am y safle a’r datblygiad.
Mae cymdeithas dai Cymoedd i'r Arfordir yn arwain ar ddatblygu fframwaith caffael Cymru gyfan, a ddyluniwyd i fod o fudd i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol ledled y wlad.
Mae'r fframwaith newydd hwn yn rhan o'r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio gwerth bron £20 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Bydd hon yn gweld consortiwm o gymdeithasau tai a Chynghorau’n cydweithio ar brosiectau a fydd yn helpu i uwchraddio o leiaf 1,000 o gartrefi cymdeithasol presennol yng Nghymru trwy gymysgedd o ddeunyddiau a thechnolegau newydd sy'n effeithlon o ran ynni.
Mae'r fframwaith newydd yn agored i’r holl gymdeithasau tai, awdurdodau lleol a chyrff sector cyhoeddus, a bydd yn rhoi mwy o gyfleoedd i fusnesau ar draws Cymru ymelwa ar y buddsoddiad hwn ac yn sicrhau bod y cyllid yn gyrru'r economi sylfaenol ac yn cefnogi busnesau a chyfleoedd cyflogaeth yng Nghymru.
Bydd buddiannau llawer ehangach a mwy pellgyrhaeddol i economi Cymru hefyd. Wrth i'r rhaglen gael ei chyflwyno ar draws tai cymdeithasol yng Nghymru yn y blynyddoedd nesaf, gobeithir y bydd hyn yn arwain at fwy o swyddi lleol, cyfleoedd hyfforddiant a phrentisiaethau, a chadwyni cyflenwi fel rhan o ddiwydiant newydd i'r Wlad.
Wrth sôn am y cyfle, dywedodd David Bolton, y Rheolwr Buddsoddi mewn Asedau yng Nghymoedd i'r Arfordir: “Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru ac yn ddatganiad pwysig yn nhermau ei ffocws ar leihau allyriadau carbon a helpu'r economi i ymadfer ar ôl Covid. Rydym ninnau yng Nghymoedd i'r Arfordir yn falch iawn o gael ein gwahodd i arwain ar y rhwydwaith caffael a fydd yn cefnogi hyn. Mae'r buddiannau arfaethedig i gwsmeriaid a chymunedau’n aruthrol ac mae’n gychwyn da o ran creu diwydiant ôl-osod newydd yng Nghymru sy'n gyffrous dros ben.”
Ar gyfer cwsmeriaid Cymoedd i'r Arfordir ym Mhen-y-bont ar Ogwr, bydd hyn yn golygu buddsoddiad cychwynnol mewn tua 100 o gartrefi a fydd yn elwa drwy weithiau gwella’r defnydd o ynni gan helpu i leihau eu biliau ynghyd â gwella mesurau effeithlonrwydd ynni yn eu cartrefi, fel inswleiddio waliau allanol a ffenestri newydd. Mae'r cartrefi cyntaf a fydd yn elwa ar hyn yn ardaloedd Gogledd Corneli a Wildmill ym Mhen-y-bont ar Ogwr a byddant yn rhan o'r cynlluniau gan Gymoedd i'r Arfordir i ennill A ar y raddfa TPY ar gymaint o'u cartrefi â phosibl erbyn 2030.
Wrth sôn am y buddsoddiad, ychwanegodd Darrin Davies, Cyfarwyddwr Datblygu a Buddsoddi mewn Asedau: “Mae hwn yn gyfle anhygoel i ni a'r partneriaid sydd ynghlwm wrth y consortiwm hwn chwarae rhan bwysig i wneud Cymru'n wyrddach. Byddwn yn dysgu llawer drwy hyn yn y blynyddoedd i ddod ac mae'n dyst i gryfder y sector tai yng Nghymru ein bod yn gallu gweithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â'r mater hwn a sicrhau bod manteision y buddsoddiad yn cael eu mwynhau'n lleol.”
Ceir gwybodaeth lawn am Raglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio Llywodraeth Cymru ar wefan Llywodraeth Cymru.
Rydym yn gofyn i gwsmeriaid, tenantiaid a chymunedau ar draws Pen-y-bont ar Ogwr am help i archwilio sut y gallwn ddeall ein pwrpas yng Nghymoedd i'r Arfordir.
Ein pwrpas yw darparu cartrefi lle mae pobl yn teimlo'n hapus ac yn ddiogel. Mae hyn yn disgrifio'n gwaith ni fel sefydliad ac rydym yn awyddus i wella'n dealltwriaeth o'r geiriau ‘diogel’ a ‘hapus’ a ddewisoch chi, ein cwsmeriaid, y llynedd.
Os cymerwch ran ac ateb ychydig o gwestiynau byr, bydd cyfle i chi ennill un o bedair taleb stryd fawr gwerth £50 – mewn union bryd ar gyfer y Nadolig eleni.
Gallwch atebwch y cwestiynau yn ein harolwg byr yma. Bydd yn cymryd ychydig funudau’n unig a byddwn yn defnyddio'r canlyniadau i'n helpu i ddewis ein blaenoriaethau, i sicrhau bod pob un o’n cwsmeriaid yn teimlo'n ddiogel ac yn hapus.
Meddai'r Prif Weithredwr, Joanne Oak: “Mae eich barn a'ch syniadau mor bwysig i ni ac rydym wir eisiau sicrhau bod ein cwsmeriaid yn rhan hanfodol o'n gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn golygu y byddwn yn cysylltu â chi'n fwy aml dros y 6 mis nesaf i ofyn cwestiynau, a gobeithiaf y byddwch yn croesawu'r cyfle hwn i gael dweud eich dweud a'n helpu i gadw ar y trywydd iawn wrth flaenoriaethu'r pethau sydd orau i chi a'ch cymunedau.”
Os ydych yn byw mewn cymuned lle mae gan Gymoedd i'r Arfordir eiddo, rydym eisiau clywed gennych chi hefyd. Byddwch cystal â llenwi'r arolwg a dweud wrthon ni a ydych yn gwsmer neu'n breswyliwr
Gallwch weld y cynllun corfforaethol presennol yma. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn yr arolwg hwn i lywio ein cynllun corfforaethol newydd, y byddwn yn ei lansio ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf.
Prif Weithredwr newydd, ecogartrefi arobryn, a'n hymateb i'r pandemig: Cymoedd i'r Arfordir yn myfyrio ar flwyddyn weddnewidiol.
Wrth fyfyrio ar y flwyddyn ddiwethaf yn ein Hadolygiad Blynyddol, mae Cymoedd i'r Arfordir wedi edrych nôl ar flwyddyn a welodd Brif Weithredwr newydd yn ymuno â ni, tenantiaid yn symud i mewn i gartrefi newydd arloesol, buom yn helpu cwsmeriaid drwy gyfnod ariannol anodd, ac yn delio â'r ffaith fod y pandemig coronafeirws wedi newid ein ffordd o fyw a gweithio’n llwyr.
Rydym wedi cipio'r flwyddyn ddigynsail hon yn ein datganiadau ariannol ac mewn fideo Adolygiad Blynyddol byr (Saesneg yn unig), sy'n dangos uchafbwyntiau allweddol y flwyddyn a staff Cymoedd i'r Arfordir yn rhannu eu profiadau o sut rydym wedi gorfod addasu ein gwasanaethau ers y cyfnod clo ym mis Mawrth.
Datganiadau Ariannol ar gyfer 2019/20.
Yn bwysicach nag erioed, mae Cymoedd i'r Arfordir yn ymrwymedig i gefnogi ei gwsmeriaid a'i gydweithwyr, ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae wedi sicrhau ei fod yn darparu cartrefi lle gall pobl deimlo'n hapus ac yn ddiogel.
Dyma'r casgliadau allweddol o'n Hadolygiad Blynyddol a'n Datganiadau Ariannol:
Cefnogi cwsmeriaid
Mae Cymoedd i'r Arfordir wedi ymaddasu drwy gydol y pandemig fel y gallwn barhau i ddarparu cefnogaeth i'n cwsmeriaid a sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at ein gwasanaethau o hyd pan fod eu hangen. Newidiwyd yr holl wasanaethau i gwsmeriaid, heblaw am y rhai wyneb yn wyneb, yn llwyddiannus i weithio o gartref ac roeddent ar gael o 9 i 5 fel arfer.
Mae ein timau wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau ein bod yn darparu gwerth am arian – mae ein timau Materion Ariannol a Dŵr Cymru wedi arbed tua £1.26m i gwsmeriaid yn ystod y flwyddyn. A hefyd, helpom gwsmer 99 oed i adennill £5,000 mewn pryd ar gyfer eu pen-blwydd yn 100.
Am i ni gadw mewn cysylltiad â'n cwsmeriaid a pharhau i ddarparu gwasanaeth rhagorol, adroddodd mwy nag 81% eu bod yn fodlon ar ein gwasanaethau ar ddiwedd y flwyddyn. Mae Cymoedd i'r Arfordir yn falch o ddarparu cartrefi a gwasanaethau o safon i'n cwsmeriaid, sydd wrth galon ein sefydliad.
Adeiladu cartrefi diogel a dymunol
Mae'r amser cyfartalog a gymerwyd i gwblhau gwaith atgyweirio yn ein meddiannau wedi rhagori'n sylweddol ar ein targedau perfformiad, gyda gwaith atgyweirio brys yn cael ei gwblhau o fewn 4 diwrnod a hanner, a gwaith atgyweirio argyfwng yn cael ei gyflawni o fewn 9 awr.
Ym mis Awst, gwelsom y tenantiaid Cymoedd i'r Arfordir cyntaf yn symud i mewn i'w cartrefi carbon isel, newydd sbon. Enillodd y meddiannau ‘Barnhaus’, yn arddull cabanau sgïo, y gystadleuaeth
Grand Designs genedlaethol, Self-Build on a Shoestring, am eu dyluniad ecogyfeillgar, arloesol.
Drwy weithio mewn partneriaeth â Pentan Architects a SEER Construction i adeiladu'r ecogartrefi hyn, rydym wedi sicrhau bod tai fforddiadwy, sy'n arbed ynni, yn dod yn realiti i deuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Meddai Darrin Davies, ein Cyfarwyddwr Datblygu a Buddsoddi mewn Asedau:
“Ein nod yw darparu cartrefi sy'n hapus ac yn ddiogel i’n tenantiaid, ond ar ben hynny rydym eisiau iddynt fod yn dda i'r amgylchedd hefyd. Byddwn yn defnyddio'r pethau a ddysgom wrth ddylunio a chyflenwi'r tai hyn i ddatblygu’r fanyleb ar gyfer ein cartrefi yn y dyfodol, gyda'r nod o gyflawni effeithlonrwydd ynni o safon uchel, ôl traed carbon isel a chartrefi sy'n rhatach i'w rhedeg.”
Gyda £6.9m yn ychwanegol wedi'i fuddsoddi i wneud gwaith atgyweirio a gwelliannau cynlluniedig i'n tai, rydym yn cefnogi ein huchelgais o greu cartrefi diogel a dymunol i'n cwsmeriaid.
Blwyddyn weddnewidiol
Yn ôl ym mis Chwefror, penodom Brif Weithredwr newydd, gan groesawu Joanne Oak. Wrth siarad yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Medi, dywedodd:
“Yr unig air sy’n addas i ddisgrifio'r llynedd yw ‘digynsail’– rwy'n meddwl bod llawer ohonom wedi clywed y gair hwn dro ar ôl tro. Mae Cymoedd i'r Arfordir wedi bod ar daith sy'n parhau i fynd yn ei blaen, ac rydym wedi bod yn canolbwyntio i raddau helaeth ar ein busnes craidd. Fel llawer o fusnesau eraill, mae'r pandemig wedi cael effaith arnom. Er gwaethaf yr heriau hyn, rwy'n falch iawn o'm cydweithwyr a'n timau a sut maent wedi gweithio'n galed dros ben i wneud eu gorau dan amgylchiadau mor anodd. Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'n cwsmeriaid am eu dealltwriaeth a'u cefnogaeth.”
Yn ystod y flwyddyn, mae Cymoedd i'r Arfordir wedi croesawu penodiadau newydd i'r Bwrdd a'r Pwyllgor Archwilio hefyd, yn sgil ymddeoliad y Cadeirydd hirsefydlog John Kinder. Ymunodd Joanne Smith â ni fel Dirprwy Gadeirydd y Bwrdd, a Sophie Taylor fel Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio. Mae'r ddwy yn dod â chyfoeth o brofiad a dealltwriaeth o'r sector tai.
Edrychwn ymlaen at yr hyn sydd i ddod yn ystod y flwyddyn nesaf, ond yma yng Nghymoedd i'r Arfordir, teimlwn ei bod yr un mor bwysig neilltuo amser i ddathlu popeth a gyflawnwyd gennym yn ystod blwyddyn a fu’n heriol i bob un ohonom.
Gobeithio y bydd y flwyddyn nesaf yn flwyddyn o adeiladu Cymru well, o gefnogi ein cydweithwyr, a darparu cartrefi lle mae ein cwsmeriaid yn gallu teimlo'n hapus ac yn ddiogel.
Y llynedd, gofynnom am eich barn am y ffordd rydyn ni'n pennu ein taliadau rhent a'r dull newydd roedden ni'n ystyried ei fabwysiadu. Mae'r pethau a ddywedoch wedi dylanwadu ar y ffordd rydyn ni'n pennu taliadau rhent: yn defnyddio'r model ‘Rhent byw’, seiliwyd y codiad ar incwm cyfartalog preswylwyr ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Dywedoch wrthon ni y byddai hon yn ffordd deg o bennu'r rhent ar draws ein cartrefi.
Yn sgil hyn, rydyn ni'n brysur yn dechrau edrych ar y taliadau rhent ar gyfer Ebrill 2021 a byddwn yn defnyddio'r un dull teg. I'n helpu gyda'n trafodaethau, byddai'n dda iawn gennym glywed eich barn am y swm rydych chi'n ei dalu a beth ydych chi'n ei ddisgwyl oddi wrth ein gwasanaethau.
Dilynwch y ddolen i lenwi arolwg byr a rhannu eich barn: https://bit.ly/35wp5KA
Diolch. Edrychwn ymlaen at glywed eich barn.
Codwyd dros £1,000 i elusen newydd y staff, The Wallich
Mae staff Cymoedd i'r Arfordir wedi enwebu'r elusen ddigartrefedd yng Nghymru, The Wallich, fel eu helusen y flwyddyn ac maent wedi cicdanio'r bartneriaeth drwy godi dros £1,000 yn yr wythnos gyntaf i helpu i gefnogi ei phrosiectau.
Mae The Wallich yn elusen ddigartrefedd yng Nghymru sy'n gweithredu i symud pobl oddi ar y strydoedd, cadw pobl oddi ar y strydoedd, a chreu cyfleoedd i bobl. Mae The Wallich yn rhedeg mwy na 70 o wahanol brosiectau, ar draws 19 o awdurdodau lleol. Mae'n gweithio gyda mwy na 9,000 o bobl sy'n profi digartrefedd bob blwyddyn ar draws Cymru. Cafodd ei henwebu ar y cyd â 2 elusen arall i gael ei chymeradwyo'n elusen y flwyddyn.
Clywodd staff Cymoedd i'r Arfordir mai The Wallich oedd wedi cael ei dewis yn eu Cynhadledd i Gydweithwyr ym mis Medi, pan gyhoeddwyd y byddai'r bartneriaeth yn para am 18 mis tan fis Mawrth 2022.
Wrth siarad am y bartneriaeth, dywedodd Joanne Oak, Prif Weithredwr Cymoedd i'r Arfordir:
“Rydym wrth ein bodd o gael sefydlu'r bartneriaeth gyda The Wallich, a gobeithiwn y bydd hon yn datblygu i fod yn fwy nag ymgyrch codi arian yn unig. Gallwn ninnau ddysgu llawer ganddyn nhw wrth i ni geisio mynd i’r afael â digartrefedd yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a gallwn ddysgu llawer oddi wrth ein gilydd mewn llawer o ffyrdd eraill hefyd. Rydw i wir yn edrych ymlaen at y 18 mis nesaf.
Yn syth ar ôl y cyhoeddiad yn y gynhadledd, rhoddwyd her i staff Cymoedd i'r Arfordir sef cerdded 1,000 o filltiroedd yr wythnos honno i godi arian i'r elusen. Mewn ymateb i her #walk4thewallich, logiwyd 874 o filltiroedd a chodwyd cyfanswm o £1,064 yn ystod yr wythnos gyntaf, sy'n gychwyn gwych i'r ymgyrch codi arian.
Wrth siarad am y berthynas newydd hon gyda Chymoedd i'r Arfordir, ychwanegodd Prif Weithredwr The Wallich, Lindsay Cordery-Bruce: “Roeddem ar ben ein digon o dderbyn y neges bod Cymoedd i'r Arfordir wedi’n dewis yn elusen y flwyddyn. Mae'r synergedd mewn elusen ddigartrefedd a chymdeithas dai lwyddiannus yn cyduno i gefnogi ei gilydd yn amlwg i bawb yma, ac rydym wir yn llawn cynnwrf wrth feddwl beth allwn ni ei gyflawni gyda'n gilydd.”
Cyhoeddwyd hefyd yn y Gynhadledd y bydd Cyfarwyddwr TG Cymoedd i'r Arfordir, Polly Thompson, yn ymuno â Bwrdd The Wallich ac y bydd arweinwyr o'r ddau sefydliad yn cydweithio i gasglu gwybodaeth am sut gallan nhw weithredu gyda’i gilydd i fynd i'r afael â digartrefedd ar draws Pen-y-bont ar Ogwr.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am The Wallich a'u gwaith yn rhoi terfyn ar ddigartrefedd ar draws Cymru drwy ymweld â'u gwefan yn: www.thewallich.com
Os hoffech ddilyn y digwyddiadau yn ystod yr her Walk for The Wallich, ewch i'r hashnod #walk4thewallich ar Twitter.
Unwaith eto mae Cymoedd i'r Arfordir wedi dangos ei ymrwymiad parhaol i ddod yn fusnes mwy cynaliadwy wrth iddo ennill Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd lefel 3 am yr ail flwyddyn yn olynol.
Rhoddir Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd i sefydliadau a all ddangos rheolaeth amgylcheddol effeithiol ac sy’n gweithredu i ddeall, monitro a rheoli eu heffeithiau ar yr amgylchedd.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Cymoedd i'r Arfordir wedi sicrhau bod 91% o'r holl ddefnyddiau a ddaeth o’i safleoedd yn sgil gwaith atgyweirio a chynnal a chadw wedi cael eu harbed rhag mynd i'r safle tirlenwi ac wedi cael eu hailgylchu. At ei gilydd, mae'r sefydliad wedi ailgylchu 538 tunnell o wastraff. Mae hyn, ynghyd â lleihau ei allyriadau carbon, yn golygu ei fod wedi llwyddo i gadw'r safon.
Wrth siarad am Achrediad y Ddraig Werdd, dywedodd Swyddog Iechyd a Diogelwch Cymoedd i'r Arfordir, Joshua Preece:
“Rydym yn falch iawn o fod wedi llwyddo i gadw'r safon lefel 3 mewn blwyddyn a fu’n anodd oherwydd y pandemig. Wrth symud ymlaen, rydym eisiau edrych ar ffyrdd newydd y gallwn ostwng ein hallyriadau carbon fel busnes, yn ein swyddfeydd, wrth weithio gartref, ac wrth gwrs, yng nghartrefi ein cwsmeriaid.
Mae cynlluniau’r sefydliad i wella'i gynnydd bob blwyddyn yn cynnwys edrych ar yr effaith cadarnhaol ar allyriadau carbon yn ymgodi o weithio gartref, gosod mwy o oleuadau rhad-ar-ynni yn y meddiannau, cynllunio gwell o ran teithiau masnachwyr, a chwilio am ffyrdd o wella effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau a chartrefi hŷn.
Wrth siarad am y cynlluniau i wella effaith amgylcheddol y busnes yn y dyfodol, ychwanegodd Darrin Davies, Cyfarwyddwr Datblygu a Buddsoddi mewn Asedau: “Mae eleni wedi'n gorfodi i feddwl yn wahanol fel busnes. Nawr rydyn ni eisiau gwneud y gorau o'r newid hwn a byddwn yn dechrau gofyn i’r staff rannu eu syniadau ar leihau ein hôl-troed carbon gyda ni. Gobeithio y byddwn yn parhau i wella, gan symud ymlaen at y lefel nesaf a dod yn fusnes mwy cynaliadwy fyth.”
Gallwch gael mwy o wybodaeth am Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd drwy ymweld â gwefan Canolfan Fusnes Werdd.
Ar ôl i'r Prif Weinidog gyhoeddi'n gynharach yr wythnos hon y byddwn yn mynd i mewn i gyfnod clo cenedlaethol, neu ‘gyfnod atal’ fel y'i galwodd, rydyn ni'n awyddus i'ch diweddaru ar sut fydd hyn yn effeithio ar ein gwasanaethau.
Bydd y cyfnod clo 17 diwrnod yn dechrau ddydd Gwener 23 Hydref am 18:00, tan ddechrau dydd Llun 9 Tachwedd. Yn ystod y cyfnod hwn bydd cyfres o reolau yn eu lle i arafu cyfradd heintio'r coronafeirws.
Fel rhan o'r rheolau hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i gymdeithasau tai gynnal ymweliadau a gwaith atgyweirio argyfwng a brys yn unig yn ystod y 17 diwrnod hyn.
Mae hyn yn golygu:
Gallwch ein ffonio o hyd i ofyn am waith atgyweirio ond bydd ceisiadau am waith atgyweirio newydd yn cael eu bwcio ar ôl y cyfnod clo, o 9 Tachwedd ymlaen;
Bydd gwaith atgyweirio argyfwng a brys newydd yn cael ei fwcio cyn gynted ag y gallwn; a
Byddwn yn adolygu'r holl apwyntiadau presennol ac yn penderfynu a ydyn nhw'n rhai brys.
Os oes gennych apwyntiad y teimlwn nad yw'n un brys bellach, ac a all aros tan ar ôl y cyfnod atal, byddwn yn cysylltu â chi cyn hir i drefnu slot newydd.
Hefyd, os nad ydych yn teimlo'n gyffyrddus i ni ddod i mewn i'ch cartref yn ystod y cyfnod hwn ac rydych yn teimlo y gall eich gwaith atgyweirio neu apwyntiad aros tan ar ôl 9 Tachwedd, cysylltwch â ni ar 0300 123 2100 rhwng 09:00 a 17:00 a byddwn yn gweithio gyda chi i drefnu apwyntiad arall.
Hoffem ddiolch i chi ymlaen llaw am eich dealltwriaeth wrth i ni geisio gweithio o fewn ysbryd y cyfnod atal a dilyn neges y Prif Weinidog i chwarae ein rhan yn helpu i arafu'r gyfradd heintio.
Bydd unrhyw gamau a gymerwn nawr o fudd mawr i ni wrth i ni nesáu at fisoedd y gaeaf a thymor y Nadolig. Ein blaenoriaeth yw sicrhau ein bod yn eich cadw chi a'ch cartrefi yn hapus ac yn ddiogel.
Yn olaf, rydw i eisiau diolch i bob un ohonoch am eich cydweithrediad wrth i ni ymaddasu ac ymateb i'r cyngor diweddaraf. Mae'r gwaith paratoi yn golygu y gallwn barhau â'r rhan fwyaf o'n gwasanaethau mewn ffordd ddiogel, ac rwy'n gwybod y bydd hyn o gymorth i chi a'ch cymunedau sy'n dibynnu ar y gwasanaethau pwysig a gyflenwn.
Joanne Oak
Prif Weithredwr
Ar hyn o bryd rydyn ni wrthi'n ailgyflwyno gwasanaethau ac mae llythyr gan ein Prif Weithredwr, Joanne Oak, wedi cael ei anfon i'n holl gwsmeriaid yn esbonio'r graddfeydd amser ar gyfer hyn.
Yn adran newyddion y wefan hon, mae datganiad ar gael gan Joanne hefyd ar yr effaith bydd y cyfnod clo lleol diweddar yn ei gael ar sut rydym yn rhedeg y gwasanaethau hyn.
Ni fyddwn yn ailgyflwyno gwasanaeth nes bydd yn ddiogel i ni wneud hynny. Iechyd a diogelwch ein cwsmeriaid a'n cydweithwyr yw'r pethau pwysicaf.
Rydym wedi cynhyrchu fideo byr sy'n disgrifio'r 5 cam y byddwn yn eu dilyn os bydd angen i ni ddod i mewn i'ch cartref. (Saesneg yn unig)
Er mwyn eich helpu i ddeall pa wasanaethau sydd ar gael, byddwn yn defnyddio system goleuadau traffig yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Mae ein system goleuadau traffig yn golygu:
Coch: Nid yw'r gwasanaeth ar gael
Ambr: Gallwn ddarparu rhan o'r gwasanaeth
Gwyrdd: Gallwn ddarparu'r gwasanaeth llawn - efallai bydd hwn yn edrych yn wahanol i'n gwasanaeth ‘normal’
Ein swyddfeydd
Mae ein swyddfa ar Heol Tremains ar gau i'r cyhoedd.
Gwaith atgyweirio a gweithiau allanol
Byddwn yn gwneud unrhyw waith atgyweirio allanol sydd heb ei orffen ers cyn, neu yn ystod y cyfnod clo. Byddwn yn cysylltu â'r cwsmeriaid yr effeithiwyd arnynt, does dim angen i chi gysylltu â ni.
Bydd ein Hyb Gwasanaeth i Gwsmeriaid yn parhau i fwcio gwaith atgyweirio brys yn ystod y cyfnod hwn, ond dim ond pan fyddwch yn cysylltu â ni.
Gwaith atgyweirio a gweithiau mewnol
Bydd ein tîm atgyweirio yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiadau ar gyfer unrhyw waith atgyweirio mewnol neu allanol heb ei orffen oedd wedi'i drefnu cyn ac yn ystod y cyfnod clo. Byddwn yn cysylltu â'r cwsmeriaid yr effeithiwyd arnynt, does dim angen i chi gysylltu â ni.
Apwyntiadau yn y cartref / ymweliadau wyneb yn wyneb
Byddwn yn ystyried trefnu apwyntiad yn eich cartref os nad yw rhith ddulliau eraill yn addas.
Ar hyn o bryd nid ydym yn gallu ymweld â'n cynlluniau bob dydd, ac ni fyddwn yn gallu cwrdd â chwsmeriaid, ond gallwch gysylltu â ni dros y ffôn.
Cysylltu â ni
Gallwch gysylltu â ni dros y ffôn, drwy'r cyfryngau cymdeithasol, neu drwy we-sgwrs.
Talu eich rhent
Gallwch dalu eich rhent dros y ffôn neu ar-lein os ydych wedi cofrestru gydag Allpay: http://www.v2c.org.uk/my-home/pay. Gallwch gysylltu â ni dros y ffôn, drwy e-bost neu drwy destun i gael cymorth gyda'ch rhent.
Rhoi gwybod am waith atgyweirio newydd
Gall ein Hyb Gwasanaeth i Gwsmeriaid drefnu unrhyw waith atgyweirio newydd i chi.
Cartrefi newydd
Rydyn ni'n parhau i adeiladu cartrefi newydd o gwmpas y fwrdeistref ond efallai bydd rhaid cyfyngu ar ymweliadau â'r safleoedd.
Cyngor ariannol
Gall ein tîm Materion Ariannol roi cyngor a chymorth ariannol i chi dros y ffôn, drwy e-bost neu drwy alwad fideo.
Gwasanaethau stad
Byddwn yn parhau i ddarparu gwiriadau iechyd a diogelwch ar draws ein stadau a'n cynlluniau.
Efallai byddwch yn ein gweld allan yn torri gwair ac yn casglu sbwriel o gwmpas ein cymunedau.
Byddwch yn gweld ein gofalwyr ar ein stadau.
Lles cwsmeriaid
Byddwn yn parhau i alw ac i wirio lles cwsmeriaid, os oes angen.
Gwaith atgyweirio brys
Byddwn yn parhau i ymateb i geisiadau am waith atgyweirio brys yn eich cartref i sicrhau ein bod yn cadw'ch cartref yn ddiogel.
Gwiriadau nwy a thrydan
Byddwn yn parhau i gynnal gwasanaeth blynyddol ar eich boeler nwy ac i brofi'r cylchedau trydanol o gwmpas eich cartref i sicrhau bod eich cartref yn aros yn ddiogel.
Ein cartrefi gwag
Rydyn ni'n gweithio fel arfer yn ein meddiannau gwag.
Gosodiadau
Rydyn ni'n gosod meddiannau fel arfer erbyn hyn, gan weithio gyda Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn ôl yr angen a phan fyddant ar gael. Rydyn ni hefyd yn hysbysebu meddiannau ar HomeHunt.
Cyfnewid cartrefi â thenant arall
Rydyn ni'n caniatáu i bobl gyfnewid cartrefi.
Byddwn yn parhau i wrando ar eich adborth, i asesu'r sefyllfa a byddwn yn eich diweddaru'n rheolaidd wrth i'r gwasanaethau newid. Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru’n rheolaidd neu dilynwch ni ar Facebook, Twitter neu LinkedIn i dderbyn diweddariadau gennym.
Heddiw (dydd Llun 21 Medi), mae Llywodraeth Cymru wedi gosod cyfyngiadau symud lleol ar Ben-y-bont ar Ogwr a thair Sir arall o 6pm yfory (dydd Mawrth 22 Medi) oherwydd y cynnydd sylweddol yn yr achosion o'r coronafeirws.
Mae hyn wedi arwain at fwy o gyfyngiadau, er enghraifft, mae defnyddio gorchuddion wyneb yn orfodol yn yr holl fannau o dan do a lle na ellir cadw pellter cymdeithasol; gallwch gwrdd yn yr awyr agored yn unigam y tro; ac mae’n rhaid i bobl sy'n byw yn y Sir weithio gartref oni bai ei bod yn rhesymol anymarferol gwneud felly.
Ar ôl adolygu hyn a chanllawiau presennol y Llywodraeth, rydym wedi penderfynu nad yw hyn yn effeithio ar ein hamrediad presennol o wasanaethau gan fydd ein holl gydweithwyr yn dilyn arferion gweithio diogel sydd yn eu lle yn barod i atal lledaeniad y feirws. Gan ein bod wedi cynllunio ar gyfer hyn, rydym yn hyderus y gallwn barhau i ailgyflwyno gwasanaethau fel gwaith atgyweirio, a chadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru ynglŷn â gweithio yn eich cartrefi ar yr un pryd.
Ein blaenoriaeth yw diogelwch ein cwsmeriaid a'n cydweithwyr, a byddwn yn parhau i adolygu'r mesurau newydd a monitro'r sefyllfa yn rheolaidd. Byddwn yn eich diweddaru ar unwaith ar unrhyw newidiadau, trwy lythyr a thrwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Heddiw cyhoeddom lythyr i'n cwsmeriaid sy'n esbonio ein dull o weithredu yn hyn o beth a’r llinell amser ar gyfer ailgydio yn y gwasanaethau hyn. Mae'r llythyr hwn yn pwysleisio pwysigrwydd gofyn yr un cwestiynau Covid-19 i ni ein hunain ag y byddwn ninnau’n eu gofyn i'n cwsmeriaid wrth wneud apwyntiad. Mae hyn yn sicrhau na fyddwn yn gweithio yn eich cartrefi oni bai ein bod yn rhydd o symptomau ac mae'n ddiogel gwneud felly.
Os ydym wedi trefnu gwaith atgyweirio neu ymweliad gyda chi, ac rydych chi neu unrhyw aelod o'ch cartref yn dangos symptomau, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn newid y trefniadau.
Yn y cyfamser, cadwch yn ddiogel a chadwch lygad ar ein gwefan a'n sianeli cymdeithasol am ddiweddariadau ar ein gwasanaethau
Joanne Oak
Prif Weithredwr
Gan fod y Cadeirydd hirsefydlog, John Kinder, yn bwriadu cyhoeddi ei ymddeoliad yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol eleni, mae Cymoedd i'r Arfordir wedi symud yn gyflym i wneud dau benodiad newydd i'r Bwrdd ac i'r Pwyllgor Archwilio.
Joanne Smith fydd Dirprwy Gadeirydd newydd y Bwrdd, a bydd Sophie Taylor yn ymgymryd â rôl Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio pan fydd John yn ymddeol o'r ddwy rôl ym mis Rhagfyr. Mae gan y ddwy brofiad helaeth o'r sector dai a thu hwnt.
Mae gan y Dirprwy Gadeirydd newydd, Joanne Smith, ddealltwriaeth gadarn o'r sector tai, ac o Gymoedd i'r Arfordir ei hun, gan iddi weithio fel rheolwr rheoleiddio yn y sefydliad am chwe blynedd, ac fel aelod o'r Bwrdd am y pedair blynedd diwethaf. Ar hyn o bryd mae Jo yn Rheolwr Llywodraethu a Rheoleiddio i'r Grŵp Coastal Housing.
Mae gan Sophie Taylor brofiad helaeth o'r sector tai hefyd, ar ôl iddi gychwyn ei gyrfa yn PwC. Yn ei rôl gyntaf yn y Sector Tai, ymunodd â thîm Cyllid Trivallis cyn dod yn Bennaeth Cyllid yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro yn 2017. Yn ei rôl ddiweddaraf, dychwelodd Sophie i'r sector yn gynharach eleni pan gafodd ei phenodi'n Bennaeth Cyllid a Chaffael i Gymdeithas Dai Bron Afon.
Wrth sôn am ei phenodiad yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio, dywedodd Sophie: “Rwy'n llawn cynnwrf ynglŷn â chymryd y rôl newydd hon. Rwy'n frwd iawn dros y sector tai, ac mae dod yn aelod o'r Bwrdd yn gynharach eleni wedi caniatáu i mi ehangu fy ngwybodaeth o'r sector a'r heriau mae’n ei wynebu. Mae Cymoedd i'r Arfordir wedi cyrraedd cam cyffrous ar eu taith gorfforaethol, gyda Phrif Weithredwr newydd a chynlluniau uchelgeisiol. Rwy'n gobeithio y gall fy mhrofiad blaenorol mewn archwilio a sicrwydd helpu i'w cefnogi ar hyd y daith hon a darparu'r llywodraethu cadarn y bydd ei angen ar yr holl sefydliadau yn ystod y cyfnod heriol hwn.”
Wrth fyfyrio ar ei ymddeoliad sydd ar ddod, dywedodd John Kinder: “Mae fy chwe blynedd yng Nghymoedd i'r Arfordir wedi bod yn brofiad diddorol, heriol a phleserus. Mae wedi bod yn foddhaus gweld sut mae'r sefydliad wedi datblygu o un oedd yn canolbwyntio ar ailwampio ei eiddo i sefydliad sydd bellach yn canolbwyntio ar wella'i wasanaeth cyffredinol i'w gwsmeriaid.
Yn y dyfodol, rwy'n rhagweld y bydd Cymoedd i'r Arfordir yn parhau i adeiladu mwy o dai cymdeithasol ac yn helpu i leihau'r digartrefedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Rwy'n gobeithio y bydd hyn, ynghyd â ffocws ar wella’n gwasanaethau craidd i'n cwsmeriaid yn golygu y byddwn yn cael ein hystyried yn un o sefydliadau tai cymdeithasol blaenllaw Cymru.”
Mae pawb yng Nghymoedd i'r Arfordir yn awyddus i ddiolch i John am ei ymdrechion rhagorol yn ystod ei chwe blynedd yn y sefydliad. Bydd ymddeoliad John yn cael ei gyhoeddi fel rhan o Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymoedd i'r Arfordir eleni a gynhelir ar-lein am y tro cyntaf ar 23 Medi.
Yr wythnos ddiwethaf, symudodd tenantiaid cyntaf Cymoedd i'r Arfordir i mewn i bedwar cartref carbon isel newydd sbon y mae eu dyluniad arloesol wedi ennill y gystadleuaeth ‘Hunan-Adeiladu am Geiniog a Dimai’ gan Grand Designs.
Bu Cymoedd i'r Arfordir yn gweithio mewn partneriaeth â Pentan Architects, a ddyluniodd y cysyniad, i ddarparu'r meddiannau ‘Barnhaus’ newydd yng Ngogledd Corneli ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Derbyniont gyllid i helpu i'w hadeiladu fel rhan o Raglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru.
Mae'r cartrefi newydd, ‘sydd yn arddull cabanau sgïo’, wedi eu llunio o gyfuniad o fframiau dur a phren a gellir eu codi mewn diwrnod. Maent hefyd yn defnyddio bêls gwellt a defnyddiau wedi'u hailgylchu ar gyfer inswleiddio, ynghyd â phaneli solar wedi’u gosod ar y toeon i leihau'r defnydd o drydan. Comisiynwyd Pentan Architects gan Gymoedd i'r Arfordir i ddylunio datblygiad Barnhaus peilot nôl yn 2014 gyda'r nod o droi'r cysyniad yn realiti i denantiaid tai cymdeithasol Gogledd Corneli. Lleolwyd y prosiect ar safle hen garejys, ac archwiliwyd y syniad o adeiladu cartrefi newydd sy’n fwy effeithlon o ran ynni, mewn ffrâm amser gyflymach, ac am lai o arian na thai traddodiadol.
Croesawodd y cartrefi dwy ystafell wely, modern hyn eu tenantiaid cyntaf ar 5 Awst, ac yn eu plith roedd y fam i ddau o blant, Chloe Devereux. Meddai Chloe: “Bu'n rhaid aros tipyn oherwydd Covid-19, ond rydym mor falch o gael symud i mewn i'r cartref hyfryd hwn o'r diwedd. Mae'n gwireddu breuddwyd i mi a bydd fy efeilliaid wrth eu boddau'n byw yma hefyd”.
Fel rhan o'r peilot, bydd Cymoedd i'r Arfordir yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd a Llywodraeth Cymru i fonitro effeithlonrwydd ynni'r meddiannau. Mae synwyryddion wedi'u gosod ym mhob un o'r pedwar cartref. Gan fod iddynt ddosbarthiad TPY o A+, disgwylir y byddant nid yn unig yn darparu cynhesrwydd a chysur parhaol i'r preswylwyr, ond y byddant hefyd yn cynnig atebion i helpu i ymdrin â thlodi tanwydd yn y sector tai cymdeithasol.
Meddai Darrin Davies, Cyfarwyddwr Datblygu a Buddsoddi mewn Asedau Cymoedd i'r Arfordir: “Rydym yn falch iawn o gael y cyfle i gydweithio â Pentan Architects a SEER Construction a chael ychwanegu'r cartrefi arloesol hyn at ein stoc yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ein nod yw darparu cartrefi sy'n hapus ac yn ddiogel i’n tenantiaid, ond ar ben hynny rydym eisiau iddynt fod yn dda i'r amgylchedd hefyd. Byddwn yn defnyddio'r pethau a ddysgom wrth ddylunio a chyflenwi'r tai hyn i helpu i ddatblygu manyleb ein cartrefi yn y dyfodol, gyda'r nod o gyflawni effeithlonrwydd ynni o safon uchel, olion traed carbon isel a chartrefi sy'n rhatach i'w rhedeg.”
Dymuna Cymoedd i'r Arfordir ddiolch hefyd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Llywodraeth Cymru am eu cymorth i gyflenwi'r cartrefi newydd hyn ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Y mis diwethaf, derbyniom adroddiadau bod rhai o'n cwsmeriaid a'n cyflenwyr wedi derbyn e-byst yr oedd yn ymddangos bod eu cynnwys wedi ei anfon gan Gymoedd i'r Arfordir ond na anfonwyd o'n cyfeiriad e-bost ni.
Cyn gynted ag y clywsom am y mater hwn, gweithredom ar unwaith gan ymchwilio i'r mater yn defnyddio tîm o arbenigwyr annibynnol. Maen nhw wedi gorffen eu gwaith nawr a'r casgliad yw nad oes unrhyw dystiolaeth sy'n awgrymu bod rhywun wedi cyrchu ein rhwydwaith mewnol, ac mae'n annhebygol iawn bod unrhyw ddata wedi cael eu cipio.
Fel cwsmeriaid a chyflenwyr, does dim angen i chi wneud unrhyw beth, ond os ydych yn ansicr ynglŷn ag unrhyw e-byst a dderbyniwch yn gofyn am ddata personol neu fusnes, awgrymwn eich bod yn gofyn am gyngor cyn ymateb iddynt.
Am ragor o wybodaeth am beth i gadw golwg amdano, ac awgrymiadau ar aros yn ddiogel ar-lein, ewch i wefan Heddlu De Cymru: https://www.south-wales.police.uk/en/advice/online-safety/
Mae diogelwch ein cwsmeriaid a'n cydweithwyr o'r pwys mwyaf i ni ac rydym wedi addasu ein gwasanaethau i’r sefyllfa hon.
Mae'r Gweinidog Tai, Julie James, wedi amlinellu'r cymorth sydd ar gael i'r holl denantiaid tai cymdeithasol yng Nghymru – gallwch ddarllen amdano yma.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllaw hefyd, yn disgrifio'r mathau o gymorth ariannol y gall tenantiaid ei gyrchu, y wybodaeth sydd ei hangen arnoch, ac i ble gallwch fynd i gael cymorth a chyngor. Mae hefyd yn esbonio pa gymorth argyfwng y gall pobl ei gyrchu os ydynt yn wynebu heriau ariannol difrifol. Gallwch gyrchu'r canllaw yma
Diweddariad ar ein gwasanaethau hyd yma:
Gwaith Atgyweirio Brys
Diolch am fod mor amyneddgar a goddefgar – rydym yn dal i ymateb i geisiadau am waith atgyweirio brys, yn cynnwys pethau fel gollyngiadau nwy, toriadau pŵer, lifftiau wedi torri ac ati.
Byddwn yn parhau i ofyn p'un ai fod gennych unrhyw symptomau COVID-19 cyn yr ymweliad fel y gallwn ymbaratoi cyn dod.
Rhowch wybod i ni os gwelwch unrhyw beth sy'n anniogel neu'n beryglus yn eich cartref, ar y stad ac yn eich cymuned fel y gallwn sicrhau bod pawb yn cadw'n ddiogel.
Ffoniwch ni i roi gwybod am waith atgyweirio brys, ond os nad yw'n argyfwng awgrymwn eich bod yn cysylltu â ni ar-lein:
Casglu Rhent
Er mwyn sicrhau ein bod yn gallu talu am ein defnyddiau ar gyfer gwaith atgyweirio brys, talu ein hanfonebau i gontractwyr am eu gwaith a chyflogau cydweithwyr, bydd rhaid i ni barhau i dderbyn rhent.
Gallwch dalu eich rhent dros y ffôn ac ar-lein os ydych wedi cofrestru gydag Allpay. I wneud tâl ar-lein, ewch i www.v2c.org.uk/my-home/pay a gwnewch yn siŵr bod gennych eich rhif cyfeirnod Allpay wrth law.
Rydym yn ymwybodol y bydd rhai cwsmeriaid wedi colli eu gwaith dros dro, ac mewn trafferthion ariannol os ydyn nhw'n hunangyflogedig. Fel bob amser, byddwn yn ymateb yn hyblyg i'r rhai sy'n cael anhawster i dalu eu rhent i ni ac yn ceisio dod o hyd i’r ateb gorau, yn cynnwys eu cynghori ar y budd-daliadau gallant eu hawlio.
Darparu Cartrefi.
Byddwn yn parhau i ddyrannu cartrefi i'r rhai sydd eu hangen ym Mhen-y-bont ar Ogwr a chefnogi'r rhai hynny sydd â lle i fyw, yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn o hunanynysu.
I wneud cais am ymweliad tai: https://www.bridgend.gov.uk/residents/housing/housing-register/
Camau Eraill:
Cau'r Swyddfa: Rydym wedi cau ein swyddfa i leihau'r risg y bydd pobl wedi'u heintio yn dod â'r haint i mewn i'r swyddfa. Byddwn yn parhau i ateb unrhyw ymholiadau dros y ffôn ac ar ein platfformau digidol hyd y gellir ei ragweld. Rydym hefyd wedi gofyn i'n cydweithwyr weithio o gartref, unwaith eto i gadw pellter cymdeithasol oddi wrth bobl eraill.
Stopio Galwadau Diwahoddiad: Rydym wedi stopio'n cydweithwyr rhag galw yn nhai cwsmeriaid i drafod ein gwasanaethau fel cartrefi newydd, eu rhent ac unrhyw faterion atgyweirio. Os yw cyfarfodydd yn hanfodol, rydym yn cynllunio'r rhain ymlaen llaw gan gynnal gwiriadau ar iechyd cwsmeriaid.
Blaenoriaethu Gwaith Atgyweirio: Rydym wedi categoreiddio ein gwaith atgyweirio gan roi blaenoriaeth i waith brys. Mae hyn er mwyn sicrhau bod gwaith atgyweirio yn cael ei gyflawni.
Llety Gwarchod: Rydym yn helpu pobl i hunanynysu a chadw pellter cymdeithasol yn ein llety gwarchod i ddiogelu pobl sy'n agored i niwed a thros 70 mlwydd oed. Rydym yn bwriadu cysylltu â'n cwsmeriaid i weld a fydden nhw'n hoffi cael galwad rheolaidd gennym i leddfu unigrwydd ac unigedd.
Digwyddiadau wedi'u Canslo: Yn cynnwys unrhyw ddigwyddiadau, cyfarfodydd neu gynadleddau ar gyfer nifer o bobl oni bai fod y busnes yn hanfodol. Os ystyrir bod busnes yn hanfodol, bydd asesiad risg yn cael ei gynnal.
Cyfarfodydd Digidol: Mae cydweithwyr yn cael eu cynghori i ddefnyddio technoleg fel tele- neu fideo-gynadledda yn lle cyfarfodydd wyneb yn wyneb.
Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: Mae cydweithwyr sydd â chyflyrau sylfaenol yn gweithio o gartref, ynghyd â'r rhai sy'n feichiog a thros 70 oed.
Symptomau: Cynghorir cydweithwyr sydd ag unrhyw symptomau i hunanynysu am hyd at 7 diwrnod ar ôl y diwrnod cyntaf hysbys o symptomau mewn ymdrech i fynd i'r afael â'r pandemig coronafeirws.
Glanhau: Rydym wedi cynyddu nifer y contractwyr glanhau yn ein swyddfeydd ac yn ein llety gwarchod i sicrhau bod y rhain yn aros yn lân ac wedi'u diheintio.
Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa ac yn anelu at ddarparu gwasanaethau fel y gallwn. Gwiriwch yma neu dilynwch ni ar Facebook, Twitter neu LinkedIn am ddiweddariadau.
Yn y cyfamser daliwch ati i ddilyn y cyngor gan https://phw.nhs.wales/.
Diweddarwyd 6 Ebrill 2020
Mae'r coronafeirws yn golygu bod llawer o bobl yn y DU yn methu gweithio. I helpu i achub economi'r DU, mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi cynllun grant sy’n helpu cyflogwyr i dalu cyflogau a diogelu swyddi.
I'n galluogi i gadw pobl yn ddiogel ac i sicrhau hyfywdra ariannol parhaol Cymoedd i'r Arfordir, rydym wedi penderfynu defnyddio Cynllun Cadw Swyddi'r Llywodraeth. Ein bwriad yw cyflwyno absenoldeb seibiant ar gyfer rhai aelodau staff o'r wythnos yn dechrau 20 Ebrill a hyd at 31 Mai pan fod Cynllun presennol y Llywodraeth i fod i ddod i ben.
Beth mae hyn yn ei olygu i chi?
Eich diogelwch chi a'ch teuluoedd, a diogelwch ein staff yw ein prif flaenoriaeth ac ni fydd hyn yn newid. Rydym wedi asesu ein llwyth gwaith i sicrhau y gallwn gyflenwi gwasanaethau allweddol yn ystod y cyfnod hwn, ac ni fydd y gwasanaethau brys a gyflenwn ar hyn o bryd yn newid.
Byddwn yn parhau i:
Cysylltu â ni
Efallai byddwch yn ceisio cysylltu ag aelod staff sydd ar seibiant. Dylech gael neges peiriant ateb neu ateb i'ch e-bost yn esbonio â phwy allwch chi siarad tra bod y rhain yn absennol. Os ydych yn cael unrhyw anhawster i gysylltu ag unigolyn, ffoniwch Yr Hyb ar 0300 123 2100 a byddan nhw'n eich cyfeirio at y person cywir.
Gallwch sgwrsio â ni o hyd am eich sefyllfa, a byddwn yn esbonio sut gallwn eich cefnogi yn ystod y cyfnod hwn. Awgrymwn eich bod yn cysylltu â ni ar-lein:
Gallwch hefyd dalu eich rhent dros y ffôn ac ar-lein. I wneud tâl, ewch i www.v2c.org.uk/my-home/pay a gwnewch yn siŵr bod gennych eich rhif cyfeirnod Allpay wrth law.
Byddwn yn adolygu ein sefyllfa yn rheolaidd ac yn rhoi gwybod i chi pan fydd eich sefyllfa'n newid.
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi apwyntiad Joanne Oak fel ein Prif Weithredwr newydd. Byddwn yn croesawu Jo i'r tîm ar ddechrau mis Mai i gymryd lle ein Prif Weithredwr dros dro, Duncan Forbes, sydd wedi arwain y sefydliad yn ystod y 6 mis diwethaf.
Wrth ddarparu a rheoli bron 6,000 o gartrefi ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, ein gweledigaeth yw helpu i adeiladu Cymru well. Bydd y penodiad newydd hwn yn sicr o'n helpu i gyflawni hyn.
Mae Jo yn gyfrifydd cymwysedig gyda dros ddau ddegawd mewn rolau uwch arweinyddiaeth ar draws y sector cyhoeddus a'r trydydd sector. Mae hi'n brofiadol mewn arweinyddiaeth, rheoli newid, cynllunio strategol, rheolaeth ariannol a llywodraethu.
Mae'n dod atom o Ofal Cymdeithasol Cymru lle mae'n Gyfarwyddwr Strategaeth a Gwasanaethau Corfforaethol. Mae ganddi'r rôl hanfodol o ysgogi'r sefydliad trwy gyfnod o dwf a thrawsnewid gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, partneriaid yn y sector a chydweithwyr. Ar hyn o bryd mae Jo yn aelod o Fwrdd Tai Cymunedol Bron Afan ac yn Ymddiriedolwr i’r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau.
Mae Jo yn ymrwymedig ac yn llawn brwdfrydedd dros wneud gwahaniaeth er mwyn cael canlyniadau gwell i bobl Cymru. Mae wrth ei bodd o gael gweithio dros sefydliad sydd â gwerthoedd cadarn ac ymrwymiad i godi ansawdd a safonau yn y sector tai a'r gymuned ehangach.
Wrth sylwi ar ei rôl newydd, dywedodd Jo, “Rwyf wrth fy modd o gael fy mhenodi i arwain Cymoedd i'r Arfordir ar gyfnod cyffrous, i hyrwyddo’r uchelgais i adeiladu cartrefi newydd o safon, ac i ddarparu gwasanaethau rhagorol i'n cwsmeriaid. Rwy'n angerddol dros wneud gwahaniaeth, gan sicrhau bod pawb yn cael mynediad at gartref boddhaol a'n bod yn adeiladu cymunedau llewyrchus. Rydw i wir yn edrych ymlaen at ymuno â thîm anhygoel Cymoedd i'r Arfordir, a chael gweithio gyda chwsmeriaid a phartneriaid i sicrhau ein bod yn parhau i adeiladu mwy o gartrefi a chefnogi'r gymuned leol.”
Meddai Anthony Whittaker, Cadeirydd Bwrdd Cymoedd i'r Arfordir, “Rydym yn falch iawn bod Jo yn ymuno â ni fel ein Prif Weithredwr newydd. Edrychwn ymlaen at weithio gyda hi a gweddill y tîm i gyflawni ein cynlluniau cyffrous ac uchelgeisiol i gefnogi ein cwsmeriaid a darparu cartrefi newydd mawr eu hangen ym Mhen-y-bont ar Ogwr.”
Mae'r gwaith o ailddatblygu 15 fflat fodern yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei gwblhau bellach ac maen nhw'n barod i gael eu troi’n gartrefi.
Lleolir y fflatiau modern hyn ychydig eiliadau i ffwrdd oddi wrth yr orsaf drenau a munud ar gerdded oddi wrth y siopau. Maent hefyd mewn safle canolog unigryw rhwng Caerdydd ac Abertawe ac yn ddelfrydol ar gyfer y sawl sy’n gweithio ym Mhen-y-bont ar Ogwr neu sy’n teithio i'r gwaith gan fod yr amserau cymudo'n fyr.
Cafodd y fflatiau hyn eu hwyluso trwy'r Grant Cartrefi yn y Dref sy'n ceisio annog pobl i fyw yng nghanol y dref, delio â lleoedd gwag yng nghanol y dref a chynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy mewn hybiau allweddol er mwyn helpu i adfywio canol y dref.
Rydym yn rhentu'r rhain ar sail ganolradd sy'n golygu y bydd y rhent a bennir yn is na rhenti cyfartalog y farchnad.
Meddai Darrin Davies, ein Cyfarwyddwr Datblygu, “Rydym bob amser yn chwilio am gyfleoedd i weithio gyda phartneriaid, landlordiaid preifat ac unrhyw gyfranogwyr eraill i ddarparu cartrefi dymunol i'n cwsmeriaid. Dyma gychwyn ar y prosiect adfywio a fydd yn rhoi hwb i ganol y dref ac i fusnesau, a'u helpu i gynhyrchu cyfoeth, creu swyddi, denu buddsoddiad, gwella sgiliau ac annog ymwelwyr”.
Sylwodd Huw David, Arweinydd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, “Mae'r fflatiau hyn yn ychwanegiad gwych at ganol ein tref, ac rwy'n siŵr y byddan nhw'n cael eu cipio cyn pen dim. Rwy'n edrych ymlaen at weld y cynnig nesaf a fydd yn helpu i adfywio canol tref Pen-y-bont ar Ogwr.”
Rydym wedi penodi Lisa Griffiths, Jason Evans, Caroline Jones a Sophie Taylor i ymuno â ni fel aelodau'r Bwrdd yr wythnos hon.
Roedd angen recriwtio ar gyfer y rolau hyn gan fod yr aelodau Bwrdd, Sarah Hay, Cheryl Tracey a Liam Bevan wedi ymddiswyddo o'u rolau oherwydd ymrwymiadau eraill yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Medi 2019.
Mae Lisa Griffiths yn Gymrawd Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig a Sefydliad Siartredig yr Archwilwyr Mewnol, ac ar hyn o bryd mae'n gweithio mewn llywodraethu corfforaethol ac yn gweithredu fel Ysgrifennydd Cwmni ar gyfer nifer o gwmnïau yn y sector dur.
Mae Jason Evans yn bartner yn Gambit Corporate Finance, sef cwmni cynghorol arobryn ar gyllid corfforaethol a leolir yng Nghaerdydd. Mae'n arwain ar wasanaethau cynghori ar ddyled a'r sector tai cymdeithasol. Mae hefyd yn eistedd ar Gyngor Cymru Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI).
Mae Caroline Jones yn Gyfarwyddwr Cysylltiol yn Savilles ynghyd â syrfëwr siartredig a phrisiwr RICS cofrestredig. Mae'n gweithio yn yr adran ddatblygu, yn cynghori ar ddatblygu ac adfywio eiddo. Mae Caroline wedi cydweithio'n agos gyda'r sector tai fforddiadwy yng Nghymru, yn darparu cyngor prisio ac ymgynghori ar asedau a rhaglenni adeiladu newydd.
Mae Sophie Taylor yn gyfrifydd siartredig ICAEW cymwysedig sydd ar hyn o bryd yn bennaeth cyllid yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Mae'n gyfrifol am reolaeth o ddydd i ddydd y tîm cyllid, ynghyd â sicrhau amgylchedd rheoli cyllid cadarn a chefnogi'r sefydliad trwy gyfnod o dwf a newid cyflym.
Meddai ein Prif Weithredwr, Duncan Forbes: “Rwyf wrth fy mod yn croesawu'r pedwar aelod Bwrdd newydd i'r tîm. Maent bob un yn dod â chyfoeth o brofiad perthnasol a sgiliau cryf i'n helpu i barhau i fod yn sefydliad llwyddiannus. Mae ganddynt empathi cryf â’n gwerthoedd ac maent yn ymrwymedig i helpu ein cwsmeriaid i fyw yn ddiogel ac yn ddedwydd yn eu cartrefi eu hunain. Rwy'n edrych ymlaen at gydweithio'n agos gydag phob un ohonynt.”
“Ar ran y Bwrdd, hoffwn hefyd estyn diolch i Sarah Hay, Cheryl Tracey a Liam Bevan am eu cymorth amhrisiadwy a’u cyfraniad sylweddol i Gymoedd i'r Arfordir ar hyd y blynyddoedd ‒ dymunwn yn dda iddynt am y dyfodol.”
Bob blwyddyn rydym yn adolygu faint o rent byddwch yn talu, ar sail chwyddiant a model rhent Llywodraeth Cymru. Eleni, daw eich tâl rhent newydd i rym ddydd Llun 6 Ebrill.
Yn yr adolygiad eleni rydym eisiau mabwysiadu dull gwahanol ac ystyried incwm cyfartalog y cartrefi yn eich ardal ar sail yr ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru a nifer yr ystafelloedd gwely yn eich cartref. Mae hyn yn golygu na fyddwn yn pennu un cynnydd cyffredinol i bawb.
Er enghraifft, gallai’r rhenti gael eu rhewi mewn ardaloedd ble mae incymau aelwydydd yn isel, tra gellid gweld cynnydd mewn ardaloedd lle mae incymau aelwydydd yn uwch. Daw'r dull hwn, a elwir ‘y model rhenti byw’, o Sefydliad Joseph Rowntree.
Efallai bydd eich rhent yn cael ei rewi a byddwch yn talu'r un faint y flwyddyn nesaf, neu gallai eich rhent godi o hyd at 2.7% +£2 yr wythnos. Rydym yn rhoi enghreifftiau isod o beth allai codiad rhent ei olygu i chi:
Os mai eich rhent presennol yw |
Gallai eich rhent godi o HYD AT |
Gallai eich rhent newydd ISAF fod yn |
Gallai eich rhent newydd UCHAF fod yn |
£80 yr wythnos |
£4.16 yr wythnos |
£80 yr wythnos |
£84.16 yr wythnos |
£90 yr wythnos |
£4.43 yr wythnos |
£90 yr wythnos |
£94.43 yr wythnos |
£100 yr wythnos |
£4.70 yr wythnos |
£100 yr wythnos |
£104.70 yr wythnos |
£110 yr wythnos |
£4.97 yr wythnos |
£110 yr wythnos |
£114.97 yr wythnos |
Ar ôl i ni glywed eich barn ar y dull gorau i'w fabwysiadu, byddwn yn dweud wrthych beth yn union fydd eich tâl rhent erbyn 27 Chwefror yn barod ar gyfer y newid ym mis Ebrill.
Rhowch eich barn i ni, a gallech ennill taleb gwerth £100.
Byddai'n dda iawn gennym gael clywed eich barn ar y dull hwn a fydd yn golygu rhenti tecach a mwy fforddiadwy. Ewch i'n harolwg yma.
Bydd y raffl yn cau ddydd Mercher 19 Chwefror.
Edrychwn ymlaen at dderbyn eich adborth.
Dechreuodd Bill Daniels wirfoddoli gyda Mirus ym mis Mai 2018 ar eu lotment yn ardal Bracla, Pen-y-bont ar Ogwr. Ymgymerodd â’r rôl o fentora ar unwaith ac arweiniodd hyn at berthnasau da a ddatblygodd oherwydd eu hoffter o'r lotment. Aethant ati i drawsnewid y lotment dros y misoedd nesaf, gan dyfu perlysiau, llysiau a blodau.
Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO) yn cydnabod ac yn dathlu'r gwirfoddoli gwych sy’n digwydd ar draws yr ardal leol yn eu Gwobrau Cyflawniad Gwirfoddolwyr blynyddol, a llwyddodd Bill Daniels i ennill y Wobr Cyfeillio a Mentora.
Mae gwirfoddolwyr yn darparu gwasanaethau yng nghalon ein cymunedau lleol. Maent yn ei gwneud yn haws i bobl gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt a hefyd yn gwella lles pobl eraill. Maent yn gwneud gwir wahaniaeth i elusennau, ac yn y pen draw i fywydau pobl, felly mae'n bleser mawr gan BAVO fedru cydnabod eu gwaith caled a'u llwyddiannau.
Fel noddwyr y Wobr Cyfeillio a Mentora, dywedodd ein Prif Swyddog Gweithredu, Paul Ryall-Friend: “Mae bob amser yn fraint cael cefnogi'r gwobrau hyn. Mae Bill yn berson gwych ac mae hyd yn oed y rhai mae'n eu mentora yn ei ddisgrifio fel arwr, arwr go iawn. Mae'n amlwg ei fod bob amser yn rhoi ei gwsmeriaid wrth galon beth mae'n ei wneud trwy eu mentora o gwmpas eu hymrwymiad gwaith a phan fydd yn gyfleus iddyn nhw. Rydym eisiau cefnogi Pen-y-bont ar Ogwr i ddatblygu cymunedau llewyrchus ac rydym yn credu bod Bill yn gwneud gwaith campus yn helpu i gyflawni hyn.”
Gall gwirfoddoli fod yn gyffrous, yn heriol ac yn werth chweil. Mae grwpiau'n dibynnu ar wirfoddolwyr a gallwch chwithau wneud gwahaniaeth MAWR i'ch cymuned! Bwriwch olwg ar y cyfleoedd lleol yn
https://bridgend.volunteering-wales.net/vk/volunteers/index.htm?lang=CY neu galwch heibio i'n Canolfan Gwirfoddolwyr yn Stryd y Frenhines yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr. Am ragor o fanylion ffoniwch BAVO, Ff: 01656 810400.
Rydym yn recriwtio 20 ymgeisydd newydd i lenwi'r swyddi gwag sydd ar gael gennym ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae cael cartref yn hawl sylfaenol i bawb ac rydym yn chwilio am yr ymgeiswyr gorau i sicrhau bod cwsmeriaid bob amser wrth galon yr hyn a wnawn, mewn cartrefi dymunol ac yn rhan o gymunedau llewyrchus.
Mae'r rolau sydd ar gael yn amrywio o’r Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Tai, Aelodau'r Bwrdd, Cynorthwywyr Gweinyddol a llawer mwy.
Meddai Paul Ryall-Friend, ein Dirprwy Brif Weithredwr, “Byddwch yn ymuno â ni mewn rhaglen gyffrous iawn o newid a byddwch yn cyfrannu at gryfhau ein sylfeini fel y gallwn barhau i fod yn sefydliad llwyddiannus. Mae gennym gyfleoedd gwych ar gyfer y bobl iawn i weithio yn y rolau iawn ac rwy’n annog unrhyw un sydd â diddordeb i ymgeisio.”
Cyhoeddir swyddi gwag ar ein gwefan bob dydd Llun ac maent yn cael eu hysbysebu trwy sianeli’r cyfryngau cymdeithasol. Ewch i'n gwefan i gael mwy o wybodaeth: www.v2c.org.uk/Careers
Rydym eisiau ceisio sicrhau bod ein cartrefi a'n cymunedau yn lleoedd diogel a dymunol i bawb.
Rydym yn gwybod bod llawer o bobl yn mwynhau cael coelcerthi ar yr adeg hon o'r flwyddyn, ond nid yw pawb yn rhannu'r mwynhad hwnnw. Gall gwneud coelcerthi a’u lleoliad achosi pryder i rai preswylwyr lleol, risg i les anifeiliaid, a risg iechyd a diogelwch naill ai o'r tân ei hun neu wrth losgi defnyddiau sy'n beryglus pan gânt eu llosgi.
Nid ydym yn cymeradwyo cynnau unrhyw goelcerthi ar ein tir.
Os byddwn yn clywed bod coelcerthi'n cael eu codi ar ein tir, rydym yn trin hyn yn yr un ffordd â thipio anghyfreithlon. Mae hyn yn golygu y gallem gael gwared â defnyddiau a ystyriwn yn arbennig o niweidiol neu beryglus, cyhyd â'i bod yn ddiogel i ni wneud felly. Ni allwn gael gwared â'r holl ddeunyddiau ar unwaith a byddwn yn trefnu i glirio'r safle rhywbryd yn y dyfodol.
Os hoffech drafod hyn yn fwy manwl, siaradwch â Clive Thomas, ein Swyddog Stadau drwy:
0300 123 2100
Gwahoddom ein cwsmeriaid i'n swyddfeydd yn ystod mis Hydref i weld sut brofiad yw gweithio yn rhai o'n 200 o rolau swydd.
Un o'n prif sbardunau yw gosod ein cwsmeriaid yn y canol. I ddathlu Wythnos Genedlaethol Gwasanaeth i Gwsmeriaid, rydym wedi gwahodd cwsmeriaid i'n sefydliad i gael gweld dros eu hunain sut brofiad yw gweithio yn rhai o'n gwasanaethau rheng flaen, fel ein tîm gwasanaethau tai, ein tîm atgyweirio, ein tîm cyfathrebu a llawer mwy.
Roedd y cyfle profiad gwaith blaenorol mor llwyddiannus, fel ein bod wedi gwahodd cwsmeriaid nôl am yr eildro, ar ôl cael adborth yn dweud fod hyn wedi helpu preswylwyr Pen-y-bont ar Ogwr i benderfynu ar eu camau gyrfa nesaf.
Bydd yr wythnos yn helpu ein cwsmeriaid i ddysgu sgiliau trosglwyddadwy, datblygu gwydnwch ac yn creu carreg sarn i faes gwaith nad oeddent yn gwybod ei fod yn bodoli. Bydd cwsmeriaid yn cael cyfle i dreulio amser mewn nifer o adrannau i weld yr amrywiaeth eang o rolau swydd sydd ar gael.
Rydym hefyd yn cefnogi lansiad Dyma’r Sector Tai, sef ymgyrch i ddangos sut brofiad yw gweithio yn y sector tai mewn gwirionedd. Bydd hefyd yn annog mwy o bobl i ymgeisio am swyddi i'w helpu i gyflawni’r weledigaeth o adeiladu 75,000 o gartrefi newydd erbyn 2036.
Mae cymdeithasau tai nid yn unig yn darparu cartrefi i'r rhai hynny sy’n eu cael eu hun yn cysgu’n arw neu sy'n ddigartref, ond maent hefyd yn cynnig cymorth i deuluoedd ar incwm isel, yr henoed a'r rhai sy'n dianc rhag camdrin domestig. Mae 65% o'r bobl sy'n gweithio yn y sector yn mwynhau eu swyddi oherwydd eu bod yn gwneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl. Maen nhw'n cynnig cyfleoedd ar gyfer dyrchafiad a datblygu sgiliau – y llynedd gwariwyd dros £3.6 miliwn ar hyfforddi staff a datblygu proffesiynol.
Meddai Phillipa Knowles, y Cyfarwyddwr Adnoddau yn Cartrefi Cymunedol Cymru, y corff ambarél ar gyfer cymdeithasau tai yng Nghymru, “Mae tai cymdeithasol yn chwarae rhan allweddol mewn siapio dyfodol Cymru: mae'r sector yn darparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd da a chymorth i gymunedau. Ein gweledigaeth yw sicrhau bod cartrefi da yn hawl sylfaenol i bawb ac rydym yn anelu at adeiladu 75,000 o gartrefi newydd erbyn 2036. I wneud hyn, mae angen y bobl iawn arnom, gyda'r sgiliau iawn, fel y gallwn adeiladu'r cartrefi a'r cymunedau y mae eu hangen yng Nghymru. Yn eu tro, mae cymdeithasau tai yn anelu at greu dros 15,000 o swyddi newydd i helpu i gyflawni'r weledigaeth hon.”
Os oes gennych chi neu unrhyw un rydych yn ei adnabod ddiddordeb mewn gweithio i gymdeithas dai, ewch i www.thisishousing.wales.
Ar ôl dwy flynedd brysur fel ein Prif Weithredwr, mae Donna Baddeley wedi penderfynu gadael Cymoedd i’r Arfordir.
Yn y tymor byr, mae Cadeirydd ein Bwrdd, Anthony Whittaker, wedi penodi Prif Weithredwr dros dro. Bydd Duncan Forbes yn dechrau gweithio yng Nghymoedd i’r Arfordir ddydd Mawrth 10 Medi fel Prif Weithredwr dros dro tra phrofiadol.
Estynnwn ddiolch i Donna am y mentrau cadarnhaol niferus mae hi wedi’u cyflwyno yng Nghymoedd i’r Arfordir a dymunwn yn dda iddi.
Ymunodd ein Prif Weithredwr, Donna Baddeley, â thîm Wallich i roi cymorth dyngarol, cefnogaeth a chyngor i bobl sy'n cysgu allan neu sydd mewn cartrefi anniogel ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Yn ystod rownd frecwast y bore bach, bu staff profiadol yn cefnogi'r rhai hynny sydd mewn angen drwy roi brecwast, diodydd poeth, bagiau cysgu, dillad cynnes ac eitemau ymolchi iddyn nhw.
Mae'r tîm yn cynnig amrywiaeth eang o gyngor ac yn eu cyfeirio at ffyrdd o gyrchu'r gwasanaethau mwyaf addas, perthnasol, ac yn aml arbenigol. Mae'r rhain yn cynnwys cyngor ar dai, cyngor ar fudd-daliadau, ac atgyfeiriadau ar gyfer llety â chymorth, gofal iechyd a chanolfannau camddefnyddio sylweddau.
Lleolir y ganolfan galw heibio yn 10 Stryd y Parc ac mae'n darparu amgylchedd diogel oddi ar y stryd. Gallant gael mynediad at weithiwr atebion penodedig, peiriant golchi, sychwr dillad, cawod, banc dillad, ffôn, cyfrifiadur, a chymorth wrth lenwi ffurflenni a cheisiadau.
Meddai Donna: “Wrth i fwy a mwy o gyllid gael ei dynnu'n ôl oddi wrth y gwasanaethau cyhoeddus, mae'r pwysau i lenwi'r bylchau ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yn syrthio'n fwyfwy ar ein hysgwyddau ni. Er mwyn cael yr effaith mwyaf, rydym yn awyddus i chwilio am bartneriaid ar draws yr holl sectorau a chydweithredu â nhw. Diolch i'r Wallich y bore yma am roi cyfle i mi gynorthwyo’u tîm ymyrraeth sy'n helpu'r rhai sy'n cysgu allan. Roedd yn wych cael gweld y gwaith anhygoel maen nhw'n ei wneud.”
Os ydych chi’n pryderu am rywun rydych wedi eu gweld yn cysgu allan, gallwch ddefnyddio ap neu wefan Streetlink i anfon rhybudd: www.streetlink.org.uk. Bydd y manylion a roddwch yn cael eu hanfon at yr awdurdod lleol neu dîm allgymorth a fydd yn chwilio am yr unigolyn ac yn eu cysylltu â chymorth.
Byddwn yn helpu'r awdurdod lleol a'r gymuned ehangach ym Mhen-y-bont ar Ogwr i gefnogi'r gweithwyr yn ffatri Ford. Rydym yn bwriadu cael yr effaith mwyaf drwy chwilio am bartneriaid ar draws yr holl sectorau a chydweithredu â nhw. Wrth wneud hynny, byddwn yn gweithio gyda gwahanol fathau o sefydliadau ac asiantaethau.
Ar hyn o bryd rydym yn cefnogi'r Ganolfan Byd Gwaith. Maen nhw wedi sefydlu tîm ymateb cyflym sy'n helpu i ddelio â sefyllfaoedd dileu swyddi ar raddfa fawr fel yr un yn Ford. Fel rhan o'r broses, maen nhw wedi neilltuo aelod o'r tîm i Ford yn barhaol.
Rydym hefyd yn cydweithio'n agos â Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr ar fentrau tai a chymorth sy’n gysylltiedig â thai, ynghyd ag ystyried dulliau gweithredu tymor byr a hir ar gyfer ailddatblygu canol y dref – bydd hyn yn helpu i leddfu'r effeithiau ehangach ar yr economi leol.
Rydym wedi ymrwymo i fod yn bresennol yn yr holl ddigwyddiadau cefnogi a drefnir yn y ffatri ac rydym yn barod i chwilio am ffyrdd mwy creadigol o ddarparu canlyniadau gwell i’n cwsmeriaid a'r gymuned.
I'r rhai sy’n teimlo effaith cau’r ffatri , mae cyfle i ymweld â'n swyddfa yng Nghwrt Nolton, Stryd Nolton bob dydd Mawrth rhwng 10am a 4pm lle bydd ein tîm ar gael i helpu unrhyw un sy'n ei chael hi’n anodd cadw i fyny â'u taliadau. Byddwn hefyd yn cynnig cyngor ynghylch sut i reoli arian, ac yn helpu pobl i wneud cais am y budd-daliadau y gallai fod ganddyn nhw hawl iddynt.
Meddai Donna Baddeley, Prif Weithredwr Cymoedd i'r Arfordir, “Rydym yn ymrwymedig i gyfrannu at seilwaith y gymuned a'r economi leol. Fel y landlord mwyaf ac un o'r cyflogwyr mwyaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr, rydym yn deall mor bwysig yw bod yn uchelgeisiol dros ein cwsmeriaid a'n cymunedau. Byddwn yn hybu'r ardal leol yn eofn er mwyn denu buddsoddiad, meithrin hyder, creu cyfleoedd a chyflawni canlyniadau hirbarhaol yn y rhanbarth. Byddwn yn gwneud popeth y gallwn – rydym eisiau i bawb lwyddo.”
Daeth Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Cymru, Julie James AC, i Ben-y-bont ar Ogwr i weld dros ei hunan sut rydym ni, mewn partneriaeth â Wernick, yn cyflwyno tai cymdeithasol i'r ardal.
Ymwelodd Julie ag un o'r ddau safle ym Mhen-y-bont ar Ogwr lle mae cartrefi modiwlaidd bron â bod yn barod. Roedd Huw Irranca-Davies, Aelod Cynulliad Ogwr, yn bresennol hefyd ac yn ddiweddarach, trafododd yr ymweliad a photensial y prosiect yn un o gyfarfodydd Busnes Cynulliad Cymru.
Cyhoeddwyd cyllid o £35m ar gyfer tai arloesol yng Nghymru gan Julie James AC ym mis Chwefror 2019. Mae’r ‘Rhaglen Tai Arloesol’ yn cynnig cymorth i gymdeithasau tai, cynghorau a sefydliadau eraill.
Bydd yr arloesedd a ddatblygir trwy'r rhaglen yn helpu i lywio sut fydd cartrefi'n cael eu hadeiladu yng Nghymru yn y dyfodol. Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at y targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.
Cafodd y modiwlau ar gyfer yr wyth cartref newydd eu cynhyrchu yn Wernick Buildings, Mynyddcynffig cyn cael eu cydosod ar y safle i ffurfio tŷ cyfan. Cymerodd cyn lleied â thair wythnos i gynhyrchu'r modiwlau a gyrhaeddodd y safle gydag offer a systemau gwresogi a thrydanol wedi eu gosod yn barod.
Ar ôl iddynt gael eu cwblhau, bydd cladin o frics a thoeon cypledig yn golygu na ellir gwahaniaethu rhwng y cartrefi newydd a thai tebyg a adeiladwyd yn draddodiadol.
Meddai Julie James AC: “Mae ein Rhaglen Tai Arloesol gwerth £90m yn fainc arbrofi ar gyfer arloesedd mewn tai, ac mae'n dangos ein huchelgais i ddarparu mwy o gartrefi o ansawdd gwell i bobl, gan greu swyddi a chyfleoedd hyfforddi yn eu cymunedau ar yr un pryd.”
Ychwanegodd Rheolwr-Gyfarwyddwr Wernick Buildings, Ben Wernick: “Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o fuddion adeiladu oddi ar y safle. Bydd preswylwyr yn gallu mwynhau cartrefi o safon uchel, sy'n perfformio'n uchel, gyda'r budd ychwanegol o raglen adeiladu gyflymach.”
Mae rhaglen wobrau flaenllaw Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ‘Gwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr 2019’ yma unwaith eto ac maen nhw'n fwy ac yn well nag erioed!
Daeth noddwyr gwobrau eleni ynghyd yng Ngwesty Coed-y-Mwstwr, Llangrallo yn ddiweddar i lansio'r gwobrau’n swyddogol.
Trefnir y gwobrau mawreddog hyn gan Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr ac fe’u noddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Maent yn cydnabod ac yn gwobrwyo rhagoriaeth ymhlith busnesau o bob maint a phob sector busnes yn y Fwrdeistref Sirol.
Gallwch gofrestru nawr ar gyfer y deg categori canlynol:
Bydd y busnes buddugol ym mhob categori yn cael y cyfle i ennill y teitl tra dymunol, ‘Busnes y Flwyddyn Pen-y-bont ar Ogwr 2019’, a noddir gan Tai Cymoedd i'r Arfordir.
Meddai Jay Ball, Is-Gadeirydd Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr: “Rydym ni'n llawn cynnwrf wrth lansio ein Gwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr 2019! Maent bellach yn eu seithfed flwyddyn lwyddiannus, ac ethos y gwobrau yw parhau i enghreifftio rhagoriaeth mewn busnes ar lefel leol.
“P'un a ydych yn sefydliad sector cyhoeddus, preifat neu drydydd sector, yn fusnes newydd neu sefydledig, mae'r gwobrau hyn yn gyfle gwych i arddangos eich busnes, a dathlu eich amryfal lwyddiannau.
“Fel enillydd blaenorol, rydw i wedi profi'r llwyddiant dros fy hunan, drwy'r cysylltiadau cyhoeddus, y stori a'r gydnabyddiaeth a ddaw yn sgil ennill gwobr. Mae ein gwobrau 2019 yn cynnwys categori newydd sbon hefyd: y ‘Wobr Iechyd a Diogelwch’ sy'n cydnabod gwaith caled busnesau wrth gydymffurfio â gweithdrefnau iechyd a diogelwch yn y gweithle.
“Gan fod deg categori i roi cynnig arnynt bellach, mae'r gystadleuaeth hon yn fwy nag erioed! Felly peidiwch ag oedi, cyflwynwch eich ceisiadau heddiw!”
Meddai ein Prif Weithredwr, Donna Baddley: “Rydym yn falch ac wrth ein bodd o gael bod yn brif noddwr Gwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr 2019.
“Gan ein bod ni'n sefydliad sy'n gweithredu yn y gymuned, rydym yn credu ym mhwysigrwydd cefnogi ein hardal leol. Mae'r gwobrau hyn yn cynrychioli'r goreuon ymhlith busnesau a phobl ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr – o bob sector, ar bob lefel. Mae'r gwobrau'n dathlu ac yn gwobrwyo’u hymdrechion a'u llwyddiannau ac mae Cymoedd i'r Arfordir yn falch dros ben o'u cefnogi.
“Hoffem annog yr holl fusnesau i roi cynnig, mae'r broses ymgeisio'n syml, ond mae'r gwobrau a'r proffil ar gyfer eich busnes yn rhagorol!”
Gallwch gael manylion llawn y gwobrau, yn cynnwys ffurflenni cais a chyngor ac awgrymiadau ar sut i gyflwyno cais yn www.bridgendbusinessforum.co.uk. Y dyddiad cau yw 5 Gorffennaf 2019.
Gallwch hefyd ddilyn @BridgendForum ar Twitter neu hoffi ‘Bridgend Business Forum’ ar Facebook am newyddion a diweddariadau ar y gwobrau.
DIDDORDEB MEWN GYRFA YN Y GYFRAITH?
Os felly rydym eisiau clywed gennych!
Cynllun Lleoliadau Gwaith Blake Morgan - Dydd Llun 22 Gorff i ddydd Gwener 26 Gorff 2019
Mae hwn yn gynllun unigryw sy'n rhoi cyfle i chi dreulio wythnos yn eu Swyddfa yng Nghaerdydd, cael profiad hanfodol a dysgu mwy am fyd busnes. Bydd yn gyfle i chi:
Mae'r lleoedd yn gyfyngedig, felly os oes gennych ddiddordeb cysylltwch â ni heddiw am sgwrs. Ffoniwch Marie Kiffar 01656 762487neu e-bostiwchmarie.kiff@v2c.org.ukam fwy o wybodaeth.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda'r Ymddiriedolaeth Cŵn i gynnal digwyddiadau cymuned am ddim ar gyfer cŵn a'u perchenogion yng Nghanolfan Bywyd Sarn.
Cynhaliwyd digwyddiad ar ddydd Gwener 29 Mawrth a bydd tri digwyddiad arall yn cael eu cynnal ar 24 Mai, 21 Mehefin a 23 Awst rhwng 11am a 3pm.
Gobeithio y bydd y digwyddiadau hyn yn helpu i fynd i'r afael â materion fel baw cŵn, a hefyd yn meithrin perthnasau gyda'r gymuned ac yn hyrwyddo perchenogaeth a lles da ar gyfer cŵn.
Yn ystod y digwyddiadau bydd nyrs filfeddygol yn cynnal prawf iechyd sylfaenol, yn cynnwys y llygaid, clustiau, dannedd a phwysau, i sicrhau bod eich ci yn hapus, yn heini ac yn iach.
Ar y cyd â'r prawf iechyd, bydd Yr Ymddiriedolaeth Cŵn hefyd yn rhoi cyngor ar ddeiet, hyfforddi ac ysbaddu. Maen nhw hefyd yn gosod microsglodion am ddim (mae hyn yn ofyniad cyfreithiol ers Ebrill 2016) ac yn eich cynghori ar sut i newid eich manylion os ydych wedi newid cyfeiriad neu newid eich rhif ffôn.
Nid oes angen apwyntiad a bydd hyn yn rhedeg ar sail galw heibio felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dod yma gyda'ch ci i ddweud helo. Bydd rhaid i chi gadw’ch ci ar dennyn pan fyddwch yn dod i'n digwyddiadau cymuned.
Rhaid bod cŵn bach dan 6 mis oed wedi cael yr holl frechiadau a rhaid dod â phrawf o'r brechiadau i'r digwyddiad. Os yw eich ci bach wedi cael ei frechu'n ddiweddar, mae'n rhaid iddo gael ei gario am 10 niwrnod ar ôl cael y brechiad olaf. Nid oes angen prawf brechiad ar gŵn dros 6 mis oed.
Meddai Andy Jones, Arweinydd ein Tîm Tai “Mae'n wych cael cyfle i weithio'n agosach gyda'r Ymddiriedolaeth Cŵn a dod â'r gwasanaeth ardderchog hwn i'r gymuned leol. Rydym yn cydnabod y rhan bwysig mae anifeiliaid anwes yn ei chwarae o ran lles ein cwsmeriaid a gobeithiwn y bydd y cyfle hwn yn ein helpu bob un i barhau i feithrin perthnasau drwy gydweithio”.
Cliciwch yma i gael gwybod mwy
Mae V2C wedi neilltuo Ymchwil Mwstard (www.mustard-research.com) i gasglu eich barn chi, ein cwsmeriaid amdanom ni ac ein gwasanaethau. I wneud hyn, bydd y cwmni Mustard yn ffonio 100 cwsmer bob mis – felly mae siawns byddwch chi yn derbyn galwad ffôn.
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth i wella y gwasanaethau rydym yn cynnig, felly byddwch yn onest a dywedwch beth rydych yn meddwl. Os nad ydych chi eisiau cael eich cynnwys yn yr arolwg neu ddim eisiau aros i gael eich arolygu, cysylltwch trwy comments@v2c.org.uk os gwelwch yn dda.
Y llynedd oedd y tro cyntaf, gofynnwyd i chi, ein cwsmeriaid, i gwblhau arolwg Boddhad Cwsmeriaid ICS. Defnyddir yr arolwg hwn gan 247 o sefydliadau, yn amrywio o Amazon i Dwr Cymru. Roedd y canlyniadau'n ardderchog.
Wrth ddileu'r canlyniadau, fe wnaethom sylwi bod eich lefelau boddhad yn gostwng pan geisiwch roi gwybod am broblem (i lawr i 65), neu i ofyn cwestiwn (i lawr i 78.5). Felly rydym wedi gwrando ac wedi bod yn gweithio'n galed i'w gwella trwy:
Ar ddiwedd mis Tachwedd, bydd yr ICS yn anfon neges e-bost at arolwg 2018. Os hoffech gymryd rhan, neu ddileu allan, cysylltwch â ni i sicrhau bod gennym eich cyfeiriad e-bost cyfoes.
Gwasanaethu eich boeler
Mae'r clociau wedi mynd nôl; mae'r nosweithiau'n tywyllu ac mae'r tywydd yn mynd yn oerach. Felly gwnewch yn siŵr bod eich boeler mewn cyflwr da fel y byddwch yn cadw'n ddiogel ac yn gynnes y gaeaf hwn.
Rydym yn gwasanaethu ein holl foeleri am ddim bob blwyddyn, mae'r gwasanaeth yn cynnwys;
Dim ond rhyw hanner awr bydd y gwasanaeth yn cymryd ac mae'n bwysig iawn ar gyfer eich diogelwch chi a'ch teulu.
Os byddwn yn gweld bod angen gwaith atgyweirio mawr neu newid y boeler yn ystod y gwasanaeth hwn, yna byddwn yn trefnu i beiriannydd ymweld dro arall a byddwn yn bwcio hyn fel apwyntiad ar wahân.
Os hoffech gael gwybod pryd mae'n amser i wasanaethu eich boeler, ffoniwch 0300 123 2100 neu anfonwch e-bost at comments@v2c.org.uk
Fel un o'r 10 Cymdeithas Dai Orau yng Nghymru, rydym wedi cyhoeddi apwyntiad Anthony Whittaker yn Gadeirydd newydd y Bwrdd Cyfarwyddwyr, i ddilyn y Cadeirydd presennol, Neil Harries. Cafodd Anthony ei benodi'n Gadeirydd yn swyddogol ar 22 Hydref 2018.
Bu Anthony yn Brif Weithredwr ar un o brif gymdeithasau tai Cymru, United Welsh, nes iddo ymddeol yn ddiweddar, ac mae ganddo dros 40 mlynedd o brofiad o weithio yn y sector tai. Yn ogystal, mae wedi gwasanaethu fel Aelod Bwrdd anweithredol i nifer o sefydliadau tai yng Nghymru a Lloegr. Mae Anthony yn byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac yn ystod ei oriau hamdden mae'n mwynhau mynd â'i gi am dro, garddio, a dilyn ei [gyn] dîm pêl-droed lleol.
Wrth sylwi ar yr apwyntiad, dywedodd Donna Baddeley, ein Prif Weithredwr: “Rwy'n falch iawn o groesawu Anthony yn Gadeirydd newydd gan fod ganddo gyfoeth o brofiad perthnasol i'w gyfrannu, a chefndir cadarn fel Gweithredwr a Chadeirydd. Yn ogystal, mae ganddo ddealltwriaeth eang o wasanaethau tai, empathi cryf â'n gwerthoedd, ac mae'n ymrwymedig i helpu ein cwsmeriaid i fyw'n ddiogel ac yn ddedwydd yn eu cartrefi eu hunain. Rwy'n edrych ymlaen at gydweithio'n agos ag Anthony.”
“Ar ran y Bwrdd, hoffwn hefyd ddiolch i Neil am ei gyfraniad sylweddol i Gymoedd i'r Arfordir a'i gefnogaeth amhrisiadwy dros y pum mlynedd diwethaf – dymunwn yn dda iddo ar gyfer y dyfodol.”
Meddai Anthony: “Rwyf wrth fy modd o gael ymuno mewn cyfnod sy'n arbennig o gyffrous i'r busnes, ac rwy'n cefnogi'n frwd yr ethos a rennir ym mhob rhan o Gymoedd i'r Arfordir a'i ffocws cyson ar roi'r cwsmer wrth galon y mudiad. Edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda Donna, y Bwrdd a'r tîm ehangach wrth i'r sefydliad symud ymlaen at y cam nesaf yn ei ddatblygiad.”
Mae’r wybodaeth isod yn dangos sut mae Bwrdd V2C yn credu ein bod yn cwrdd â Safonau Perfformiad Llywodraeth Cymru ac yn awgrymu ble y gallwn wella.
A ydych yn cytuno gyda'r Bwrdd?
Rhannwch eich barn gyda Michael Hughes ar 01656 727948 neu e-bostiwch michael.hughes@v2c.org.uk
Gallech ennill £50 o dalebau siopa am ddim ond rhoi eich barn!
Ar ddydd Gwener 3 Awst, cynhaliodd Cymoedd i'r Arfordir ddigwyddiad codi arian ar gyfer Tŷ Hafan, ein helusen ddewisol ar gyfer y flwyddyn, ar ôl i ni glywed am ddiwrnod agored Tŷ Hafan ei hunan ar 4 Awst. Dilynom yr un thema a throi ein swyddfeydd yn Tremains yn lleoliad Gorllewin Gwyllt gyda phropiau a décor wedi'u hailgylchu a wnaethom ein hunain. Roedd croeso i gydweithwyr ddod i'r gwaith mewn dillad hamdden am rodd o £1 ond byddai unrhyw wisg ffansi yn dderbyniol iawn ac aeth nifer o bobl ati i geisio rhagori ar wisgoedd ei gilydd.
Cynhaliom amrywiol weithgareddau drwy'r dydd yn cynnwys siop fwyd, helfa darnau aur siocled, tŵr mawr Jenga a bwth lluniau carchar yn gyfnewid am roddion. Cafodd nifer o aelodau staff eu dal mewn cyffion tra bod sbyngau gwlyb yn cael eu taflu atynt (a chyrhaeddodd rhai'r targed yn wych!).
Yn ystod y diwrnod llwyddom i godi £100.31 ac rydym wedi ychwanegu'r swm hwn at ein cyfanswm blaenorol sydd nawr dros £600! Byddwn yn parhau i gefnogi Tŷ Hafan a'r gwaith anhygoel a wneir yno gyda
Mae ennill Safon y Ddraig Werdd yn dangos ein hymrwymiad i wella effeithlonrwydd ynni, lleihau ein hôl-troed carbon a gwella cynaliadwyedd amgylcheddol.
Rydym wedi cadw'r achrediad hwn ers nifer o flynyddoedd bellach ac mae rhai o'r manteision cadarnhaol yn cynnwys:
1. Cynyddu'r lefel o ailgylchu gwastraff yn ein Gwasanaeth Atgyweirio Tai.
Cafodd 92% o'n holl wastraff ei ailgylchu yn 2017-18.
2. Defnyddio mesurau sy’n arbed ynni ac arian yn ein swyddfeydd.
Mae'r rhain yn cynnwys gosod golau LED sy’n arbed ynni; gosod mesurau i leihau’r defnydd o ddŵr, defnyddio inc du a gwyn a llungopïo ar y ddwy ochr. Mae'r holl fesurau hyn wedi arbed arian gan ganiatáu i ni ail-fuddsoddi’r arian ar bethau eraill.
3. Buddsoddi mewn technolegau cynaliadwy i helpu ein cwsmeriaid i arbed arian yn eu cartrefi
Mae'r rhain yn cynnwys gosod systemau ffotofoltaig solar a thermol solar a thechnoleg Pympiau Gwres Ffynhonnell Aer.
4. Buddsoddi mewn mesurau Inswleiddio Waliau Allanol.
Mae'r rhain wedi gwella’r dosbarthiadau SAP ar ein cartrefi gan helpu i ostwng biliau ynni ein cwsmeriaid.
5. Datblygu cofrestri a chynlluniau gweithredu ar faterion Ecolegol.
Mae'r rhain yn cynnwys diogelu rhywogaethau fel ystlumod a rheoli planhigion mewnwthiol fel Canclwm Japan.
MEDDYLIWCH YN WYRDD
Fel y gwyddom, gall offer trydan achosi tanau yn y cartref. Mae V2c wedi dysgu bod rhai tanau trydanol yn debygol o gael eu hachosi gan wefrwyr ffonau symudol – a gallai eitemau ailwefradwy eraill fod yn gyfrifol hefyd.
Mae Pennaeth Tân wedi rhybuddio na ddylai gwefrwyr ffonau symudol gael eu plygio i mewn dros nos a bod tanau wedi digwydd pan fod gwefrwyr ffonau wedi cael eu gadael yn y plwg wedi'u troi ymlaen – hyd yn oed pan nad oeddent wedi'u plygio i mewn i ffôn symudol.
Aeth y Pennaeth Tân yn ei flaen i ddweud, “Mae'r achosion hyn yn amlygu'r perygl o danau trydanol – gallant ddigwydd unrhyw bryd, yn unrhyw le. Peidiwch fyth â gadael eitemau yn cael eu gwefru, neu heb neb yno, am gyfnodau hir – a gwnewch yn siŵr bod y plwg i'r gwefrydd wedi ei ddiffodd hyd yn oed os nad yw wedi ei gysylltu â'ch ffôn/eitem drydanol.” Ychwanegodd, “Peidiwch fyth â chyfnewid gwefrwyr – defnyddiwch yr un cywir bob tro a dilynwch gyfarwyddiadau a chanllawiau'r gwneuthurwr bob amser wrth ddefnyddio eitemau trydan. Diffoddwch nhw a datgysylltu'r plwg cyn i chi fynd i'r gwely.” Os bydd tân, yn digwydd, “Ein cyngor yw eich paratoi eich hunan cystal â phosibl ar gyfer achos tân – trwy sicrhau bod larymau mwg sy’n gweithio wedi'u gosod yn eich cartref a bod gennych lwybrau dianc clir fel y gallwch chi a'ch teulu adael eich cartref cyn gynted â phosibl.”
Dywedodd yr arbenigwr mewn materion defnyddwyr, Dominic Littlewood, hefyd y gall gadael unrhyw beth ar y gwefrydd am amser hir fod yn hynod o beryglus gan ei fod yn achosi perygl tân.
Meddai Mr Littlewood, “Nid dim ond y ffaith ein bod yn gwefru ein ffonau am oriau sy’n destun pryder, ond hefyd ble rydym yn eu gadael.’’
Mae Dom yn awgrymu'n gryf na ddylai pobl gysgu gyda'u ffonau yn y gwely – mae pobl yn rhoi eu dyfeisiau dan eu clustog fel y byddant yn clywed eu cloc larwm yn y bore.
Gallai gwneud hyn fod yn berygl tân – gyda batri’r ffôn yn cynhesu wrth iddo wefru a chreu'r posibilrwydd o roi'r dillad gwely ar dân.
Yn lle hynny, meddai Dom, dylem osod ein ffôn ar soser, oherwydd os bydd yn poethi wedyn, ni fydd y tsieni'n mynd ar dân ac rydym yn fwy diogel.
Ond mae'r arbenigwr defnyddwyr hefyd yn dweud y gallai gwefru eich ffôn dros nos achosi difrod tymor hir i'r batri.
Yn ôl PC Advisor, dylech chi fyth wefru'r batri'r holl ffordd i 100 y cant. Mae hyn oherwydd bod ailwefru'n llawn drwy'r amser yn byrhau oes y batri. Mae hefyd yn bwysig nad ydych yn defnyddio gwefrwyr ffonau ffug – er ei bod yn aml yn rhatach i brynu gwefrwyr answyddogol, wedi'u mewnforio, gall y gost fod llawer yn uwch yn y tymor hir. Yn aml, mae gwefrwyr ffonau symudol ffug wedi'i gwneud o gydrannau o safon isel sydd ddim yn cydymffurfio a rheoliadau diogelwch y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn golygu y gallant achosi anaf, siociau trydan a hyd yn oed tanau.
I'ch helpu i aros yn ddiogel, ewch i'r hypergyswllt isod am gyfarwyddyd
https://www.electricalsafetyfirst.org.uk/guides-and-advice/electrical-items/mobile-phone-chargers/
Diweddariad amlinellol mis Mehefin
Mae'r cartrefi ychwanegol ym Maes Y Felin, a ychwanegwyd at y rhestr eiddo wreiddiol ar gyfer contract cam 1 Wildmill, bron yn barod erbyn hyn a gellir gweld gwahaniaeth mawr mewn deufis. Wrth i gam 1 y gwelliannau allanol ddod i derfyn, mae'r ail gam ar y gweill bellach, a bydd y cartrefi cyntaf yn barod yn Nhairfelin ar ddechrau mis Gorffennaf.
Y Blociau Tri llawr ym Maes Y Felin yn fuan ar ôl i'r gwaith gychwyn
Yr un Blociau 3 llawr â’r gwaith bron wedi'i gwblhau ar ddiwedd Mehefin.
Ar ddiwedd Ebrill ac eto ar ddechrau mis Mai, cynhaliodd y Tîm Prosiectau ynghyd â'u cydweithwyr o'r tîm Adfywio, contractwyr ac ymgynghorwyr ddau ddigwyddiad ymgynghori yn y ganolfan gymunedol yng nghanolfan siopa Wildmill. Cynhaliwyd y digwyddiadau i roi gwybod i bobl ar y stad bod cam 2 y gwelliannau allanol yn Wildmill yn mynd i gael eu cyflawni. Roedd y ddau ddigwyddiad yn agored i'r holl breswylwyr a pherchenogion tai ar y stad a allai fod â diddordeb yn y gwaith. Roedd presenoldeb eithaf uchel yn y ddau ddigwyddiad a chafodd y timau brynhawn a noswaith brysur yn delio â nifer o ymholiadau a cheisiadau amrywiol.
Ar ôl yr ymgynghori, rydym wedi bod yn gweithio ar y paratoadau terfynol ar gyfer Cam 2, yn cynnwys adleoli gosodiad y safle a'r cyfleusterau lles. I wneud hyn, bu'n rhaid i ni ddymchwel safle garej yn Nhairfelin ac mae adeilad newydd wedi ei godi i ddarparu storfa ddiogel a chyfleuster lles ar gyfer y contractwyr fydd yn gweithio ar Gam 2.
Mae SERS, a benodwyd yn brif gontractwr i gyflawni Cam 2, wedi bod wrthi hefyd yn gwneud y gwaith paratoi ac wedi dechrau cysylltu â chwsmeriaid er mwyn rhoi'r trefniadau angenrheidiol yn eu lle i gyflawni'r gwaith.
Mae gennym hefyd Syrfëwr ymgynghorol, Gary Goodwin o Gsquared Surveying, sy'n gweithio ar restr o feddiannau mewn perchenogaeth breifat er mwyn rhoi cytundebau Muriau Cydrannol yn eu lle, ynghyd â rhwymedigaethau statudol eraill gyda'r perchenogion preifat sy'n byw drws nesaf i gartrefi Cymoedd i'r Arfordir. Bydd Gary ar y safle dros y misoedd nesaf yn ymweld, ac yn siarad â'r perchenogion preifat er mwyn ceisio gwneud yn siŵr y gallwn gyflawni'r gwaith yn ôl y rhaglen.
Y bwriad yw y bydd y cartrefi Cam 2 cyntaf yn dechrau yn gynnar ym mis Gorffennaf ac y bydd y sgaffaldau cyntaf wedi eu gosod a'r gwaith atgyweirio wedi dechrau.
Y sgaffald cyntaf yn cael ei osod yn Nhairfelin i gychwyn Cam 2.
Eleni rydym wedi llwyddo i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Busnes 2108 Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr!
Rydym wedi cael ein dewis ar gyfer Gwobr Gwasanaeth Busnes y Flwyddyn 2018.
Mae'n cydnabod busnesau sydd â ffocws pendant ar y cwsmer ac sy'n gwneud rhywbeth gwahanol ar gyfer yr economi a'r gymuned leol. Darparom dystiolaeth o dystebau cwsmeriaid am wasanaeth i gwsmeriaid eithriadol, llwyddiannau nodedig a pham rydyn ni'n sefyll allan o gymharu â sefydliadau eraill ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Cynhelir y seremoni wobrwyo a'r cinio tei du yng Ngwesty Coed-Y-Mwstwr, Llangrallo, Pen-y-bont ar Ogwr ar ddydd Gwener, 28 Medi 2018, rhwng 7pm a 11pm.
Bydd carped coch yn aros amdanon, ynghyd â derbyniad diod a swper tri chwrs a baratowyd gan gogydd 2 Rosglwm, ac wrth gwrs, y seremoni wobrwyo hollbwysig. Bydd y digwyddiad dan lywyddiaeth Gohebydd Newyddion y BBC, Siân Lloyd gyda'r gwestai arbennig, Carwyn Jones AC, ac adloniant gan Only Boys Aloud.
Croesi bysedd drosom ar gyfer y noswaith!
Mewn erthygl ddiweddar ar Wales Online, amlygwyd y perygl o beidio â thrin croen wedi ei niweidio. Bu'n rhaid i ddyn fynd i'r ysbyty ar ôl strimio Efwr Cyffredin a chael nodd y planhigyn ar ei goesau.
Mae Efwr Cyffredin (neu Bannas y Cawr) yn tyfu ym mhobman ar yr adeg hon o'r flwyddyn, mewn caeau, gwrychoedd ac ar ymylon ffyrdd.
Nid yw mor wenwynig â'i berthynas, yr Efwr Enfawr. Gall nodd yr Efwr Enfawr niweidio'r croen ac achosi brech sy'n sensitif i olau ac a all bara am 10 mlynedd neu fwy. Yr unig leoliadau hysbys ble mae Efwr Enfawr yn tyfu yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr yw Stormy Down, ble mae'r Cyngor yn ei drin, a Glanrhyd (heb ei gadarnhau). Os ydych yn meddwl taw Efwr Enfawr yw e’, peidiwch â'i gyffwrdd.
Gall Efwr Cyffredin roi brech gas i chi hefyd, ac fel unrhyw losg neu frech, os nad yw'n cael ei thrin, gall greu problemau.
Os ydych yn gwneud unrhyw waith strimio neu arddio yn agos i'r math hwn o blanhigyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo trywsus hir, crys â llewys hir, menig a gorchudd pen/wyneb.
Mynychodd ein prentis, Anya, yr Ysgol Fusnes Pop UP tra oeddent ym Mhen-y-bont ar Ogwr i ddal profiad y cwrs ac yn trosglwyddo'r wybodaeth yn ôl i chi!
Rydym yn falch o noddwyr ochr yn ochr â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac rydym wedi bod yn falch iawn o'r ymateb.
Diolch i bawb a fynychodd a gwneud y profiad yn bosib.
Darllenwch am ei bythefnos yma.
Eleni rydym yn cefnogi Ty Hafan fel ein helusen.
Darllenwch am y daith anhygoel gan ein Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol a Phrentisiaid o Dy Hafan ar 2 Gorffennaf 2018.
Yr enillydd yw……….Julia o Gorneli
Derbyniodd Julia'r talebau siopa buddugol gan y Dirprwy Brif Weithredwr, Paul Ryall-Friend, yr wythnos ddiwethaf yn ei chartref ble dywedodd wrthym “Cefais fy synnu'n fawr pan dderbyniais y galwad ffôn yn dweud ‘mod i wedi ennill. Y peth cyntaf rwy'n mynd i wneud yw tretio fy hunan”
Diolch o galon i bob un o'n cwsmeriaid a'n partneriaid a gymerodd yr amser i lenwi'r arolwg byr. Cymerodd dros 600 o gwsmeriaid yr amser i lenwi'r arolwg a rhannu eu barn ar beth ddylem ei flaenoriaethu dros y pum mlynedd nesaf.
Dyma giplun o ganlyniadau'r arolwg:
Dywedoch wrthon ni:
Ar hyn o bryd rydym wrthi'n brysur yn paratoi'r cynllun terfynol y byddwn yn ei rannu ar ein gwefan ac yn Llais Newid. Felly cedwch lygad am sut rydym yn mynd i roi eich syniadau, ynghyd â rhai ein staff a'n partneriaid, ar waith.
Cynllun Prynu Nôl
Mae'r Cynllun Prynu Nôl yn ystyried prynu cyn-dai cyngor neu eiddo Cymoedd i'r Arfordir a werthwyd dan yr Hawl i Brynu. Mae hyn yn ein helpu i gynyddu nifer y tai fforddiadwy yn ardal Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Pa fathau o eiddo fydden ni'n ystyried eu prynu?
Mae'n rhaid i'r mathau o eiddo rydym eisiau eu prynu fodloni'r amodau canlynol:
Byddwn hefyd yn ystyried:
Bydd Prisiwr Ardal yn cynnal arolwg ar yr eiddo i benderfynu beth yw ei farchnadwerth presennol a faint fydd yn costio i adfer yr eiddo i Safon Ansawdd Tai Cymru.
Ni fyddwn yn rhoi cynnig ar bob eiddo sy’n cael ei arolygu. Bydd unrhyw gynnig a wnawn o fewn yr ystod prisiau a roddwyd gan y Prisiwr Ardal.
Byddwn yn gweithredu fel "unrhyw brynwr arall". Mae'r gwerthwr yn gyfrifol am eu ffioedd cyfreithiol eu hun.
Os oes diddordeb gennych yn y cynllun hwn, cysylltwch â ni ar 0300 123 2100 a gofynnwch am y tîm Datblygu.
Mae'r landlord tai cymdeithasol, Cymoedd i'r Arfordir, a'r arbenigwr adeiladau modiwlaidd, Wernick Buildings, yng nghamau cynnar adeiladu wyth cartref modiwlaidd newydd ar gyfer Sarn a Thondu, ar ôl derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar y llynedd.
Mae'r gwaith adeiladu wedi ei wneud yn barod yn y ffatri ar Stad Ddiwydiannol Mynyddcynffig a gellir adeiladu pob cartref mewn cyn lleied â thair wythnos cyn iddo gael ei gludo i'w leoliad terfynol a’i osod.
Bydd y cartrefi modiwlaidd yn cael eu ffurfio o fodiwlau unigol wedi'u llunio mewn ffatri, a byddant yn cynnwys offer gosod, system wresogi a system drydanol. Bydd y rhain wedyn yn cael eu cludo a'u cydosod ar y safle i ffurfio tŷ gorffenedig.
O gymharu â dulliau adeiladu traddodiadol, gellir cyflenwi cartrefi modiwlaidd hyd at 50% yn gyflymach, gan leihau’r costau a'r effeithiau amgylcheddol.
Darparwyd cyllid ar gyfer y cartrefi hyn drwy'r Rhaglen Tai Arloesol sydd â’r nod o helpu i hysbysu Llywodraeth Cymru, Cymdeithasau Tai ac Awdurdodau Lleol am y math o gartrefi y dylid eu cefnogi yn y dyfodol. Bydd y prosiect yn cyfrannu at y targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.
Meddai'r Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans, “Mae'n amlwg bod Cymoedd i'r Arfordir yn awyddus i adeiladu cartrefi'r dyfodol, gan ddefnyddio dulliau adeiladu modern. Rydym yn ymrwymedig i gefnogi prosiectau fel hyn, sy'n arloesol ac yn greadigol eu hymagwedd, ac roeddwn wrth fy modd yn cael gwylio’r modiwlau'n cael eu cydosod.”
Dywedodd y Cynghorydd Patel, yr Aelod Cabinet dros Dai, “Mae ein partneriaeth hirsefydlog gyda Thai Cymoedd i'r Arfordir wedi bod yn gynhyrchiol dros ben yn darparu cartrefi o safon uchel i gymunedau lleol, ac rwy'n siŵr y bydd yr unedau modiwlaidd newydd yn llwyddiant mawr arall.”
Mae Cymoedd i'r Arfordir eisiau dweud Diolch o Galon i'n staff anhygoel sydd wedi rhoi eu hamser rhydd gyda'r nos ac ar y penwythnos i wirfoddoli gyda'u sefydliadau dewisol.
Oherwydd y gefnogaeth amhrisiadwy ganddyn nhw a gan arwyr eraill tebyg, mae eu sefydliadau'n ymdrechu i roi'r gwasanaeth gorau i'r rhai sy'n eu defnyddio.
O'r Chwith i'r Dde yn y llun gyda'n Prif Swyddog Gweithredol Donna Baddeley:
Mae Louise Percival yn gwirfoddoli gyda chlwb MMA Cefn Glas yn darparu gwasanaeth cyfrifyddu rhagorol ac yn gwneud gwaith gweinyddol y clwb. Mae ei diwydrwydd dyladwy a'i hathrylith fathemategol yn golygu y bydd pob un o’r plant a’r oedolion yn y clwb yn parhau i gael lle diogel i hyfforddi a chadw'n heini!
Mae Howard Merrett yn gwirfoddoli gyda thîm rygbi dan 8 Tondu a Chlwb Beicio Wheelers, yn hyfforddi a chymell dull o fyw egnïol ac iach. Mae agwedd ymarferol anhygoel Howard wedi cefnogi a chalonogi cymaint o bobl ac wedi helpu i wella gweithgareddau corfforol llu o rai eraill!
Mae Lynda Hance yn gwirfoddoli gyda phwyllgor rheoli Parc Murray a Thimau Ieuenctid Whitton Wanderers yn hybu a noddi'r gwelliannau anferth i'r gymuned a'i deiliaid. Trwy ei chefnogaeth a’i chyfarwyddyd cyson, mae'r Parc wedi cael byrddau hanes ac offer ffitrwydd awyr agored, tra bod Whitton Wanderers wedi cael nawdd i barhau i gael hwyl a gwneud eu gwaith gwych!
Mae Anya Ward yn gwirfoddoli gydag Ysgol Jwdo Porthcawl fel hyfforddwr cynorthwyol a gyda Thîm Pêl-droed Pobl Anabl South Cymru Devils. Mae sicrhau bod y ddau glwb yn fannau ble mae pob aelod yn cael hwyl wrth ddysgu a magu hyder yn flaenoriaeth i’r Hyfforddwyr ac
bwyllgor ac yn rhan o’u harweiniad ysbrydoledig!
Mae Marc Jones yn gwirfoddoli yng Nghlwb Rygbi Ieuenctid Pen y Banc ac mae'n cymryd rhan yn rheolaidd yn nigwyddiadau codi arian ac ymwybyddiaeth ei glwb. Ar ôl ei ymdaith ddiweddaraf i fyny Pen y Fan gyda'r clwb a chael ei anrhydeddu fel Gwirfoddolwr y Flwyddyn, roeddem yn teimlo ei fod yn addas i gydnabod yr holl waith gwych mae wedi gwneud ac y bydd yn parhau i'w wneud yn y dyfodol.
Isod gwelir lluniau o'r ymdaith gyda 50 aelod o'r clwb yn cymryd rhan ac yn codi arian ar gyfer twrnameintiau, cit a gwibdeithiau yn y dyfodol.
I goffáu blwyddyn ers y Tân yn Nhŵr Grenfell, ymdawelodd gweithwyr Cymoedd i'r Arfordir am 72 eiliad i gofio pob bywyd a gollwyd yn y trasiedi erchyll hwn!
Fel ffordd o gyfrannu at y gwaith anhygoel a wnaed gan ddynion a menywod y gwasanaethau, a'r gymuned a ddaeth at ei gilydd, cynhaliom achlysur 'gwisgo i lawr' #GreenforGrenfell a gofynnwyd i'r staff roddi o leiaf £1 yr un. Er gwaethaf y niferoedd isel yn y swyddfa'r diwrnod hwnnw, llwyddom i godi £110! Diolch o galon i bawb a gyfrannodd ac a ddaeth â môr o wyrdd i'r swyddfa!
Mae'r Cynllun Prynu Nôl yn ystyried prynu cyn-dai cyngor neu eiddo Cymoedd i'r Arfordir a werthwyd dan yr Hawl i Brynu. Mae hyn yn ein helpu i gynyddu nifer y tai fforddiadwy yn ardal Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Pa fathau o eiddo fydden ni'n ystyried eu prynu?
Mae'n rhaid i'r mathau o eiddo rydym eisiau eu prynu fodloni'r amodau canlynol:
Byddwn hefyd yn ystyried:
Bydd Prisiwr Ardal yn cynnal arolwg ar yr eiddo i benderfynu beth yw ei farchnadwerth presennol a faint fydd yn costio i adfer yr eiddo i Safon Ansawdd Tai Cymru.
Ni fyddwn yn rhoi cynnig ar bob eiddo sy’n cael ei arolygu. Bydd unrhyw gynnig a wnawn o fewn yr ystod prisiau a roddwyd gan y Prisiwr Ardal.
Byddwn yn gweithredu fel "unrhyw brynwr arall". Mae'r gwerthwr yn gyfrifol am eu ffioedd cyfreithiol eu hun.
Os oes diddordeb gennych yn y cynllun hwn, cysylltwch â ni ar 0300 123 2100 a gofynnwch am y tîm Datblygu.
Rydym yn gyfrifol am reoli a chynnal yr holl leiniau o laswellt sy'n perthyn i ni, sef 526,000 metr sgwâr o gwmpas y Sir, sy'n cyfateb i 76 cae pêl-droed!
Eleni rydym wedi hurio 6 contractwr newydd i dorri'r glaswellt hwn ar ein rhan. Cymerodd hyn ychydig yn hirach na'r disgwyl ac felly bu oedi i'r gwasanaeth. Mae'n flin gennym am hyn ac am yr effaith y gallai fod wedi ei gael ar ein cymunedau lleol.
Y contractwyr torri glaswellt newydd ar gyfer pob ardal yw:
John Phillips Contractors Ltd
Porthcawl |
Pencoed, Heol Y Cyw |
Y Pîl, Mynyddcynffig, Cefn Cribwr |
Countrywide Grounds Maintenance Ltd
Ardaloedd Tref Pen-y-bont ar Ogwr, Bracla |
|
Cefn Glas, Bryntirion, Pen Y Fai |
|
Cwm Llynfi (Llangynwyd, Maesteg, Caerau) |
J S Lee Facilities Services
Sarn, Tondu, Bryncethin, Abercynffig, Brynmenyn |
|
Cwm Ogwr |
|
Pobl Hŷn (Rhestr Gaeedig) |
Glendale Services
Cwm Garw – Pontycymer, Blaengarw |
|
Gerald Davies Limited
Ardal Corneli |
|
APP UK
Cynlluniau Llety Gwarchod |
|
Gobeithio y byddwch wedi eu gweld allan o gwmpas yn barod – dylai pob llain fod wedi cael ei thorri unwaith erbyn hyn ac mae'r contractwyr nawr ar ei ffordd o gwmpas yn torri am yr eildro. Gobeithio y bydd y gwaith hwn wedi ei orffen erbyn diwedd yr wythnos hon (15 Mehefin).
Ar ôl i ni orffen torri am yr eildro, y disgwyl yw y bydd y rhan fwyaf o'r ardaloedd yn ôl ar y trac unwaith eto. Wedyn bydd y contractwyr yn torri'r glaswellt o leiaf dwywaith y mis rhwng nawr a diwedd Medi. Fel rheol byddent yn torri am y tro olaf ym mis Hydref. Caiff hyn ei asesu eto yn ddiweddarach yn y flwyddyn ac os oes angen, byddwn yn gwneud toriadau ychwanegol ym mis Hydref.
Mae pob contractwr nawr wedi arwyddo contract 5 mlynedd a gobeithio y bydd y gwasanaeth yn gwella dros y cyfnod hwn.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â'r gwaith torri glaswellt yn eich ardal chi rhowch alwad i Clive Thomas, Swyddog Stadau, ar 01656 762429.
Er cof am y 72 o fywydau a gollwyd ar 14 Mehefin 2017 yn y tân yn Nhŵr Grenfell, bydd Cymoedd i'r Arfordir yn distewi am 72 eiliad.
Ni fyddwn yn ateb galwadau neu e-byst ar ôl 12pm am 72 eiliad i ddangos ein parch at yr holl ddioddefwyr a gollodd eu bywydau a'u cartrefi yn y digwyddiad trasig ac erchyll hwn.
Dymunwn gydnabod dewrder anhygoel y milwyr, y byddinwragedd a phobl y gymuned a fentrodd cymaint i helpu mewn unrhyw ffordd y gallent. Mae'r ymdeimlad aruthrol o golled a galar a deimlwyd gan deuluoedd y dioddefwyr ar yr adeg honno yr un mor gryf hyd heddiw.
Gwerthfawrogwn eich cydweithrediad a'ch cefnogaeth!
Mae eich cylchlythyr Llais Newid diweddaraf wedi cyrraedd!
Cewch wybodaeth am y grant gwerth £1.8 miliwn ar gyfer cartrefi newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Bydd Credyd Cynhwysol yn cael ei gyflwyno ym mis Mehefin – rydym yn rhoi awgrymiadau a chyngor ar sum i reoli hwn.
Y cartrefi newydd byddwn yn eu hadeiladu yn y dyfodol, a llawer, llawer mwy!
Mae pob bod dynol yn cael ei eni'n rhydd ac yn gyfartal
Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Trawsffobia a Biffobia
17 Mai 2018
Heddiw rydym yn dathlu amrywiaeth, gan annog pobl i adrodd am drosedd casineb, ac yn dangos cydlyniad â phobl Lesbiaidd Hoyw Deurywiol Trawsrywiol (LHDT) o'r 81 o Aelod Wladwriaethau'r Cenhedloedd Unedig sy'n parhau i ystyried rhyw cydsyniol rhwng oedolion o'r un rhyw yn drosedd.
Adroddwyd am 461 o droseddau casineb cysylltiedig â chyfeiriadedd rhywiol yng Nghymru yn ystod 2016-17.
Nid yw 50% o droseddau casineb yn cael eu hadrodd o hyd.
Mae'r cynnydd yn rhannol oherwydd y nifer uwch o droseddau casineb ar adeg Refferendwm yr UE ac yn sgil ymosodiadau terfysgol.
Mae'n cael ei ddathlu ar 17 Mai i nodi pen-blwydd y penderfyniad, yn 1990, i ddileu cyfunrywioldeb o'r Dosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau a gyhoeddir gan Sefydliad Iechyd y Byd. Hyd yn oed heddiw, amcangyfrifir bod 81 o Aelod Wladwriaethau'r Cenhedloedd Unedig yn ystyried rhyw cydsyniol rhwng oedolion o'r un rhyw yn drosedd. O blith y rhain, mae saith yn dal i ystyried bod y gosb eithaf yn erfyn effeithlon ar gyfer brwydro yn erbyn yn hyn a alwant yn ‘glefyd.’
RHOWCH WYBOD I RYWUN AM DROSEDD CASINEB
Nid yw 4 o bob 5 trosedd casineb LHDT yn cael eu hadrodd, ond gallant gael effaith dinistriol a hirbarhaol ar bobl a chymunedau. Lleisiwch eich cwyn a gofynnwch am gymorth ymarferol ac eiriolaeth drwy gysylltu â'r heddlu lleol ar 101 (999 mewn argyfwng) neu Gymorth i Ddioddefwyr (0300 3031 982 www.reporthate.victimsupport.org.uk/hate-crime/)
Rhowch wybod i rywun am droseddau casineb LHDT! Mae Cymorth i Ddioddefwyr Cymru yn darparu cymorth emosiynol, ymarferol ac eiriolaeth, ac maent yn cael adborth ardderchog gan y bobl maen nhw wedi eu helpu. Ffoniwch 24/7 ar 0300 30 31 982
Gall trosedd casineb LHDT fod ar ffurf bygythiadau geiriol, graffiti ymosodol, difrod i eiddo, ymosod, seiberfwlio, neu destunau, e-byst a galwadau ffôn sarhaus.
Mae'r heddlu'n cymryd pob trosedd casineb LHDT o ddifrif. Hyd yn oed os nad yw'n arwain at arestio rhywun, mae'r wybodaeth hon yn dal i fod yn hanfodol ar gyfer cynllunio gweithgareddau atal yn y dyfodol.
Gall plant a phobl ifanc yng Nghymru sy'n profi bwlio gwrth-LHDT gysylltu â MEIC, gwasanaeth llinell gymorth cyfrinachol, dienw ac am ddim sydd ar gael yn Gymraeg neu Saesneg, o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Gellir cysylltu â MEIC dros y ffôn, neu drwy destun SMS a negeseua gwib.
Mae eleni'n dynodi 70 mlynedd ers cyhoeddi'r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol. #CadarnDrosHawliauDynol #Standup4humanrights
Bydd ein swyddfeydd ar gau ddydd Gwener 4 Mai oherwydd diwrnod hyfforddi i'r holl staff.
Byddwn yn delio â gwaith atgyweirio brys ar y diwrnod hwn ac rydym yn eich cynghori i roi gwybod am unrhyw waith atgyweirio arall cyn, neu ar y dydd Mawrth canlynol pan fyddwn wedi mynd nôl i'r oriau gwaith arferol.
Bydd y diwrnod hyfforddi hwn yn ein galluogi i ystyried ein cynllun strategol ar gyfer y 5 mlynedd nesaf ac i gyflenwi gwasanaeth gwell i chi wrth symud ymlaen.
Ymddiheurwn am yr anghyfleuster.
I roi gwybod am waith atgyweirio brys, ffoniwch: 0300 123 2100.
Oes didddorded yn weithio yn ffilmiau nue deledu? Os felly, Cymryd rhan mewn Ei Gwaedd Fy.
Yn ddiweddar, mae'r llywodraeth wedi pasio cyfraith gan arwain at orffen yr Hawl i Brynu a'r Hawl i Gaffael. Mae postio yn cael ei anfon at bob tenant sy'n cael ei effeithio gan y penderfyniad hwn erbyn 17 Mawrth 2018, i egluro'r sefyllfa
Tai Cymoedd i'r Arfordir yn rhoi Cyfle Cyntaf i 10 Prentis.
Mae deg unigolyn lleol wedi cael eu troed ar y gris isaf yn eu gyrfaoedd dewisol, diolch i'r Gymdeithas Dai ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Cymoedd i'r Arfordir.
Mae'r prentisiaethau'n cwmpasu amrywiaeth eang o rolau swydd fel plymio, peintio a phapuro, peirianwyr nwy a gwresogi, ynghyd â swyddi gweinyddu busnes yn yr adrannau datblygu, tai ac adnoddau dynol.
Meddai'r Prentis o Blymwr, Cory Seldon “Rwy'n teimlo'n lwcus i gael y brentisiaeth hon. Rwy'n gweithio gyda pheirianwyr crefftus a phrofiadol sy'n fy addysgu am ochr ymarferol plymio – rwy'n cael y cyfle i “wneud” y tasgau ac nid dim ond gwylio, sy'n wych.”
Dywedodd Corrina Fiddler, Partner Busnes Adnoddau Dynol V2C “I ddathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau yr wythnos hon, rydym yn symud y prentisiaid i rolau swydd gwahanol – bydd y bechgyn, sydd â rolau crefft yn draddodiadol, yn gweithio yn y swyddfa a bydd y merched yn cael profiad o ddefnyddio offer, gan roi cyfle iddynt roi cynnig ar rywbeth newydd.”
Os oes diddordeb gennych chi neu gan rywun rydych yn eu hadnabod mewn dod yn brentis Cymoedd i'r Arfordir yn y dyfodol, gwiriwch eu gwefan: http://www.v2c.cymru/about-us#Careers
Yn gynharach yr wythnos hon, agorodd preswylwyr Oakwood ym Maesteg eu parc sgrialu newydd yn swyddogol gyda dathliad a thorri rhuban i ddynodi'r digwyddiad.
Roedd grŵp o breswylwyr yn pryderu am y diffyg cyfleusterau chwarae yn eu hardal ac fe gysyllton nhw ag Achubwyr Lleoedd Gwag, prosiect sy'n ceisio gwneud defnydd gwell o fannau agored. Dros y ddwy flynedd diwethaf buont yn trafod syniadau ac awgrymiadau am sut i wella'r stad gyfan. Yna cawsant eu paru â Chwarae Cymru, elusen Gymreig sy'n canolbwyntio ar helpu plant i chwarae, er mwyn troi eu syniadau yn realiti.
Ar ôl holi’r plant ar y stad am y math o gyfleusterau chwarae byddent yn eu defnyddio, penderfynwyd creu mini-ramp ar gyfer sgwteri a beiciau BMX. Rhoddodd Tai Cymoedd i'r Arfordir (V2C) gymorth iddynt gyda'u cynlluniau a helpodd eu contractwyr i gyflenwi ac adeiladu'r ramp.
Meddai'r preswyliwr o Oakwood, Teri Davies, “Does dim diwrnod yn mynd heibio pan na fydd yn cael ei ddefnyddio – ymhob tywydd. Rydym wrth ein bodd gyda'r canlyniad ac am fod gan ein pobl ifanc rywle i chwarae ar eu sgwteri a'u beiciau trwy gydol y flwyddyn. Rydym mor ddiolchgar i V2C am ein cefnogi wrth ddechrau'r prosiect. Mae gennym lawer o syniadau o ran gwneud defnydd gwell o'r mannau agored o gwmpas ein stad, felly gwyliwch y gofod hwn!”
Meddai Rachel Lovell, Swyddog Mannau Agored V2C, “Rydym yn edmygu ymdrechion y bobl leol i wneud rhywbeth ar gyfer dyfodol eu plant ac edrychwn ymlaen at weithio gydag ardaloedd eraill yn y fwrdeistref i wneud yr un peth”.
Mae staff a chwsmeriaid Tai Cymoedd i'r Arfordir (V2C) wedi llenwi arolygon i godi arian ar gyfer Canolfan Hunangymorth Sandville.
Mae'r arolygon hyn yn gofyn amrywiaeth o gwestiynau ynglŷn â'r gwasanaethau mae V2C yn eu darparu, a beth yw eu canfyddiad cyffredinol. Am bob arolwg a lenwyd rhoddodd V2C £1 i elusen fel cymhelliant i lenwi'r arolwg.
Mae Sandville yn agored i’r holl bobl sy'n dioddef o anawsterau, gan gynnig cymorth mewn awyrgylch digyffro a hapus iawn. Dewiswyd yr elusen hon gan fod nifer o'n cwsmeriaid a'n staff wedi defnyddio'r ganolfan ar hyd y blynyddoedd.
Meddai Gwyneth Poacher, Cyfarwyddwr Canolfan Sandville, “Ar ran pawb yng Nghanolfan Hunangymorth Sandville, hoffwn ddiolch o galon i V2C am y rhodd hael iawn a gyflwynwyd i ni heddiw. Hoffwn ychwanegu diolch personol hefyd a dweud mor freintiedig y teimlaf am mai ein helusen ni gafodd ei dewis i elwa oherwydd eu harolwg.”
O Chwefror 2018 ymlaen, bydd V2C yn ffonio cwsmeriaid i gasglu adborth ar ein gwasanaethau a byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i wneud gwelliannau. Os hoffech ymeithrio, neu os hoffech gael dweud eich dweud heb aros am yr arolwg, cysylltwch â V2C drwy anfon e-bost at comments@v2c.org.uk.
Mae gennym gyfle cyffrous i rywun sydd eisiau sefydlu busnes yn ardal Gogledd Corneli.
Mae'r uned ar rodfa fach ar Heol Llan, Gogledd Corneli. Mae pum siop yn y rhodfa, yn cynnwys Megasave Superstore, siop trin gwallt a siop prydau parod ac mae gan bob un lain mawr o barcio oddi ar y stryd.
Mae'r siop yn 50 metr sgwâr, ac ar hyn o bryd mae'n cynnwys man adwerthu, man cyfarfod a thoiled.
I gael rhagor o wybodaeth am y siop, cysylltwch â'n Hasiant Eiddo:
Ian McGaw, ar 07815726804 neu anfonwch e-bost at ianriproperties@gmail.com
Yn ystod mis Rhagfyr anfonom neges gyda chyfarchion yr ŵyl i'n cwsmeriaid gan roi gwybod iddynt am oriau agor ein swyddfa dros y Nadolig. Aeth hon allan at 4,653 o'n cwsmeriaid gan ddefnyddio ein technoleg SMS/testunau newydd. Helpodd ni i bennu nifer y rhifau ffôn symudol sydd gennym a bydd yn ein helpu ymhellach i gyfathrebu drwy destun yn y Flwyddyn Newydd.
I gymell ein cwsmeriaid i ateb y neges testun, cynigiom wobr o £100 mewn talebau am ymateb.
Yr enillydd lwcus oedd Mrs Eileen Riddiford a agorodd y testun ar Ŵyl San Steffan heb iddi sylweddoli ei bod wedi rhoi cynnig hyd yn oed. Dywedodd, “Roeddwn wedi synnu'n fawr pan ffoniodd V2C – roeddwn wedi anghofio fy mod wedi rhoi cynnig am fod hyn mor hawdd. Derbyniais y testun, a diwrnod neu ddau wedyn cliciais ar y ddolen – mor syml â hynny. Dwi erioed wedi gwneud rhywbeth fel hyn o'r blaen ond byddwn yn bendant yn ei wneud eto – roedd ennill yn syrpréis hyfryd ar ôl y Nadolig a bydd yn helpu gyda'n siopa”
Meddai Mike Bell, Arweinydd y Tîm Systemau Busnes, “Mae'r dechnoleg hon, y mae Cymoedd i'r Arfordir wedi ei mabwysiadu'n ddiweddar, yn un gyffrous ac mae'n ein helpu i symud ymlaen i sefydlu perthnasau a sianeli cyfathrebu mwy clos gyda'n cwsmeriaid. Rydw i wedi ymweld ag Eileen a'i theulu heddiw i gyflwyno'r talebau gwerth £100 iddi. Roeddwn i'n falch iawn o glywed pa mor hawdd oedd rhoi cynnig i ennill y wobr, doedd hi ddim hyd yn oed yn cofio gwneud hynny, felly rhaid bod y broses yn un hwylus.”
Gwnewch yn siŵr bod gennym eich manylion cyswllt diweddaraf fel y byddwch chi hefyd yn gallu cystadlu yn y dyfodol, ac i sicrhau eich bod yn derbyn negeseuon gennym ynghylch y gwasanaethau a ddarparwn.
Oddi wrth yr holl staff yma yng Nghymoedd i’r Arfordir.
Bydd ein swyddfeydd yn cau am 5pm ddydd Gwener 22 Rhagfyr a byddant yn ailagor am 9am ddydd Mawrth 2 Ionawr 2018.
Os oes angen rhoi gwybod am waith atgyweirio argyfwng yn ystod y cyfnod hwn, ffoniwch 0300 123 2100.
Ewch Ar-lein am gyn lleied â £99 y Nadolig hwn gyda Chyfrifiaduron, Rhwydlyfrau a Gliniaduron Windows 10 wedi’u Hailwampio
Mae Get Online @ Home yn cynnig bargeinion ardderchog y Nadolig hwn i’ch helpu i gael cyfrifiadur fforddiadwy, parod am y rhyngrwyd, yn eich cartref.
Os oes diddordeb gennych yn y cynigion hyn, ffoniwch:
03719 100 100
Dydd Llun – Dydd Gwener rhwng 8:30AM - 5:00PM
Neu gallwch weld rhagor o gynigion yma: http://www.getonlineathome.org/
Ar hyn o bryd mae Cymoedd i’r Arfordir yn gwerthu 4 cartref newydd, sy’n cael eu hadeiladu gan Barratt yn ardal Cefn Glas, Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r cartrefi’n cael eu gwerthu ar sail Perchentyaeth Cost Isel, sy’n golygu eich bod chi’n prynu 70% o’r cartref ac mae V2C yn talu’r 30% arall.
Mae hyn yn helpu prynwyr am y tro cyntaf i brynu eu cartref cyntaf am bris fforddiadwy.
Os oes diddordeb gennych mewn prynu un o’r cartrefi hyn, cysylltwch â
Peter Alan – Pen-y-bont ar Ogwr
01656 65720
![]() |
35 Pen Y Berllan |
![]() |
36 Pen Y Berllan |
![]() |
39 Pen Y Berllan |
![]() |
40 Pen Y Berllan |
Rydym bellach yn aelod o'r Sefydliad Gwasanaeth i Gwsmeriaid (ICS), sef corff proffesiynol ar gyfer Gwasanaeth i Gwsmeriaid sy'n helpu ei aelodau i wella profiad cyffredinol eu cwsmeriaid.
Yn V2C mae ein cwsmeriaid wrth galon popeth a wnawn ac rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd arloesol o wella hyn. Gyda chymorth ICS, byddwn yn e-bostio arolwg byr 5 i 10 munud i'n cwsmeriaid cyn hir. Bydd hwn yn ein helpu i ddeall pa wasanaethau rydym yn eu cyflenwi'n dda neu ddim mor dda. Drwy wneud hyn byddwn yn gallu gweld beth sydd angen i ni ei wella fel y bydd ein gwasanaeth i gwsmeriaid yn ardderchog dro ar ôl tro.
Bydd pob ymateb yn hollol gyfrinachol felly gallwch fod yn gwbl onest gyda'ch adborth. Fel diolch i chi bydd V2C yn gwneud rhodd elusennol o £1 i Sandville ar gyfer pob arolwg a dderbyniwyd wedi'u cwblhau. Mae Sandville yn elusen annibynnol a hunan-ariannol sy'n agor ei drysau i bawb sy'n dioddef anawsterau. Ewch i www.sandville.org.uk eu gwefan neu ffoniwch nhw ar 01656 743344 i ddarganfod mwy.
Gwnewch yn siŵr bod gan V2C eich cyfeiriad e-bost diweddaraf fel y gallwch dderbyn yr arolwg hwn, neu os nad oes gennych gyfeiriad e-bost cysylltwch â mi yn uniongyrchol: Michael Hughes, Uwch Swyddog Perfformiad, ar 01656 727948 neu ffoniwch ein Tîm Gwasanaeth i Gwsmeriaid ar 0300 123 2100.
Mae gwybodaeth ychwanegol am ICS ar gael ar eu gwefan yma: https://www.instituteofcustomerservice.com/
Ar ddydd Llun 30 Hydref, bu rhai o staff V2C’n cydweithio gydag aelodau o Glwb Bechgyn a Merched y Betws i beintio'r neuadd chwaraeon a thrawsnewid y tir y tu allan i'r clwb.
Rhoddodd tua 20 o bobl ifanc a 12 o staff V2C eu prynhawn i wirfoddoli drwy beintio waliau, clirio annibendod, sgrafellu, lledaenu graean, a symud, llenwi a phlannu gwelyau blodau. Rhoddodd Nolan skips gynhwysydd mawr a gafodd ei lenwi'n gyflym ag eitemau diangen. Gwnaed y dodrefn patio a'r gwelyau plannu gan Mr Elwyn Dunster sy'n wirfoddolwr yn y clwb ac yn breswyliwr lleol, a rhedodd Sasha Ufnowska, o Wild Spirit, weithdai cerfio pwmpenni i baratoi ar gyfer dathliadau Nos Galan Gaeaf.
Meddai Rob Williams o BBGC:
”Mae Clwb Bechgyn a Merched y Betws, sydd newydd gael ei ailwampio, ynghyd ag NSA Afan yn dymuno diolch i staff V2C a'r contractwyr a wirfoddolodd yn ddiweddar i wneud gwaith cynnal a chadw pwysig yn y clwb. Trefnwyd prynhawn o wirfoddoli i wella rhan o'r tu mewn a thiroedd y clwb a Village Lodge. Bu llawer o bobl ifanc hefyd wrthi'n clirio chwyn a rwbel, yn peintio a thirlunio. Er ei fod yn waith caled, cafodd pawb ddiwrnod ardderchog ac mae BBGC eisiau diolch i V2C am eu gwaith cefnogi parhaus a'u cyfraniad i'r gymuned".
Mae V2C, ar y cyd â'r arbenigwr adeiladau modiwlaidd, Wernick Buildings, wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i adeiladu wyth cartref modiwlaidd yn Sarn a Thondu.
Bydd y gwaith adeiladu'n dechrau yn 2018 yn safle cynhyrchu arbenigol Wernick Buildings ar Stad Ddiwydiannol Mynyddcynffig. Bydd y cartrefi modiwlaidd yn cael eu ffurfio o fodiwlau unigol sy’n cael eu hadeiladu yn y ffatri, ac sy’n cynnwys offer cegin gosod, system wresogi a system drydanol. Bydd y rhain wedyn yn cael eu cydosod ar y safle adeiladu i ffurfio tŷ gorffenedig. O gymharu â dulliau adeiladu traddodiadol, gellir cyflenwi cartrefi modiwlaidd hyd at 50% yn gyflymach, gan leihau’r costau a'r effeithiau amgylcheddol.
Darparwyd cyllid ar gyfer y cartrefi hyn drwy'r Rhaglen Tai Arloesol sydd â’r nod o helpu i hysbysu Llywodraeth Cymru, Cymdeithasau Tai ac Awdurdodau Lleol am y mathau o gartrefi y dylid eu cefnogi yn y dyfodol. Bydd y prosiect yn cyfrannu at y targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd yr Ysgrifennydd dros Gymunedau a Phlant “Mae'r sector tai yng Nghymru yn wynebu llawer o heriau. Ymhlith y rhai amlycaf, mae cynyddu nifer y cartrefi sydd ar gael, y gyfradd gyflenwi a'u fforddiadwyedd, ac ar yr un pryd lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd. Bydd y prosiectau a ariennir gan y Rhaglen Tai Arloesol yn ein helpu i ddysgu beth sy'n gweithio orau a pham, o ran pa adeiladau ddylen ni eu hadeiladu a sut rydym yn eu hadeiladu. Bydd y prosiectau hyn hefyd yn dangos sut gallwn ddefnyddio'r gadwyn gyflenwi yng Nghymru i ddatgloi'r cyfleoedd anferth ar gyfer twf ac arloesedd mewn tai.”
Meddai Darrin Davies, Cyfarwyddwr Datblygu Cynorthwyol V2C, “Fel y landlord cymdeithasol mwyaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr, rydym yn hynod falch o dderbyn y cyllid gan y bydd yn ein helpu i ddarparu cartrefi fforddiadwy mawr eu hangen ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Wernick, Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar y prosiect”
Eleni dathlom lwyddiant y flwyddyn ddiwethaf gyda digwyddiad ffotograffiaeth i’n cwsmeriaid a gynhaliwyd yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr.
Yn ystod 2016-17, rydym wedi datblygu 32 o gartrefi newydd, parhau â'n rhaglen gwella cartrefi, cychwyn y broses o osod larymau carbon monocsid mewn cartrefi a chefnogi 7 prentis newydd drwy'r holl sefydliad.
Rydym wedi parhau i gydweithio'n agos â phartneriaid fel Achubwyr Lleoedd Gwag, Cadwch Gymru'n Daclus a Gemau Stryd i wneud cymunedau'n lleoedd gwell i fyw ynddynt, ac rydym wedi datblygu rhaglen ddigidol newydd fel y gall ein cwsmeriaid gyfathrebu'n haws gyda ni.
I ddathlu'r llwyddiannau hyn cynhaliwyd cystadleuaeth ffotograffiaeth yn ystod mis Gorffennaf ac Awst ble gallai trigolion Pen-y-bont ar Ogwr anfon lluniau o ble maen nhw'n byw. Yna arddangoswyd y lluniau yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol V2C, a derbyniodd yr enillwyr lun wedi'i fframio a thaleb rhodd.
Daeth myfyrwyr Celfyddydau Perfformiadol Coleg Pen-y-bont ar Ogwr i helpu ar y noson drwy arddangos eu sgiliau dawnsio a bu'r myfyrwyr Lletygarwch wrthi'n paratoi a gweini lluniaeth.
Meddai Gwen Harding, enillydd y wobr neges ffotograffig greadigol, “I minnau, roedd y profiad cyffredinol yn anhygoel!! Teimlwn yn nerfus wrth i bob categori gael ei gyhoeddi, a phan enillais roeddwn yn ecstatig. Feddyliais i fyth y byddwn yn ennill rhywbeth.”
Dywedodd y rhiant balch, Tracey Everton, wrthym, “Roedd yn hyfryd gweld yr holl luniau ar y byrddau wrth i ni gyrraedd ac eto ar y sgrin fawr! Mae'r llun a anfonodd fy mab, Brady, o werth personol i ni ac roedd gweld y llun ar y sgrin fawr yn anhygoel!! Roedd Brady mor falch!! Diolch”
Mae'r wefan ble rydym yn hysbysebu ein heiddo wedi newid bellach i HOMEHUNT, sydd yn wefan hysbysebu eiddo genedlaethol.
Bydd HOMEHUNT yn caniatáu i chi weld mwy o fanylion ynglŷn â'r cartrefi rydym yn eu hysbysebu, ble maen nhw, manylion am ysgolion lleol, cysylltiadau trafnidiaeth a chyfleusterau cymunedol.
Bydd angen i chi gofrestru ar HOMEHUNT a gofynnir i chi roi manylion am eich anghenion tai, eich teulu a pha fath o gartref rydych yn chwilio amdano.
Pan fyddwn yn hysbysebu eiddo sy'n cyd-fynd â'ch gwybodaeth byddwch yn derbyn rhybudd sy'n gofyn a oes diddordeb gennych yn y cartref hwn ac a hoffech gael eich ystyried ar ei gyfer.
Bydd yr hysbyseb am yr eiddo yn dweud wrthych faint o bobl arall sydd wedi dangos diddordeb yn y cartref. Wedyn byddwn yn penderfynu pwy sy'n cyd-fynd orau â'r cartref hwn ac yn gwneud cynnig iddynt. Os nad ydych yn llwyddiannus byddwn yn rhoi gwybod i chi.
Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd neu os nad ydych yn hyderus wrth ei ddefnyddio, gallwn roi cymorth i chi. Ffoniwch 0300 123 2100 a byddwn yn trefnu i rywun eich helpu.
Ewch i wefan HOMEHUNT yn: www.homehunt.co.uk
Cawsom ein bendithio â haul yr wythnos ddiwethaf wrth i ni ymuno â chontractwyr Centregreat i helpu i glirio'r ardd yng Nghylch Chwarae Dechrau'n Deg Y Garth, Maesteg. Roedd yr ardd yn anwastad ac wedi tyfu'n wyllt, felly roedd yn anaddas i blant dwy a thair blwydd oed chwarae allan ynddi.
Aethom ati i wastatáu tiroedd yr ardd, tocio planhigion, creu gwesty bygiau a llain lysiau, a deuthum ar draws patio cudd a gafodd ei adfywio. Ychwanegwyd pwll tywod a drychau awyr agored i greu'r ffactor ‘waw’.
Daeth Centregreat â chloddiwr bychan gyda nhw i'r digwyddiad gan ddifyrru’r rhai bychain wrth iddynt wylio’u gardd yn cael ei gweddnewid.
Dywedodd Carolanne Jones, sy'n weithiwr gofal plant "Dwi ar ben fy nigon! Nawr mae gennym le tu allan anhygoel i’w ddefnyddio. Mae'n golygu y gallwn gynnal gwersi awyr agored, dechrau tyfu llysiau a pherlysiau, gwylio natur, a mwynhau bod y tu allan! Mae'r plant yn ysu am wisgo'u welintons!"
Meddai Rachel Morton, Swyddog Adfywio Cymoedd i'r Arfordir “Rydym yn chwilio am y cyfleoedd hyn trwy gydol y flwyddyn er mwyn medru gweithio gyda'n contractwyr ar brosiectau yn ein cymunedau. Roedd yn wych cael gwneud rhywbeth dros y plant bach yn Y Garth. Gobeithio y byddant yn ei fwynhau.”
Rydym wrth ein bodd o gyhoeddi penodiad Donna Baddeley fel ein Prif Weithredwr newydd.
Mae gan Donna brofiad helaeth ac amrywiol o’r sector gofal a thai cymdeithasol. Yn ei rôl flaenorol roedd yn Brif Weithredwr Gwasanaethau Corfforaethol a Chwsmeriaid yn y Curo Housing Group yng Nghaerfaddon. Roedd ei chyfrifoldebau’n cynnwys gwasanaeth i gwsmeriaid, cymell gweithwyr, rheoli perfformiad, iechyd a diogelwch, adnoddau dynol, cyfathrebu, TG a marchnata.
Meddai Donna: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â thîm rhagorol V2C wrth i ni chwilio am ffyrdd newydd i osod ein cwsmeriaid yng nghanol yr hyn a wnawn er mwyn medru darparu cartrefi dymunol mewn cymunedau sy’n ffynnu.”
Ymunodd Donna â V2C yn gynharach y mis hwn pan adawodd Stephen Cook, ein Prif Weithredwr blaenorol, ei swydd ar ôl 9 mlynedd gyda V2C.
Meddai Cadeirydd V2C, Neil Harries: “Rwy’n falch iawn bod Donna’n ymuno â V2C fel Prif Weithredwr. Rwy’n siŵr y bydd hi’n rhagori yn ei rôl newydd, Mae ganddi gyfoeth o brofiad mewn tai i’w rannu â ni, ac mae’r Bwrdd yn edrych ymlaen at gydweithio gyda Donna i gwrdd â’r heriau sydd o’n blaen ac i gefnogi ein cwsmeriaid.”
Cyfle i ennill talebau gwerth £50 talebau – drwy roi eich barn i ni!!
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Fyrddau'r holl Gymdeithasau Tai yng Nghymru gynhyrchu datganiad, a'i rannu gyda'u tenantiaid, yn esbonio sut maent yn credu bod eu sefydliad yn perfformio.
Rhowch gip arno – dim ond gwaith munud neu ddwy fydd hwn oherwydd, yn lle cynhyrchu dogfen hir, ffurfiol, mae'r Bwrdd wedi cynnwys y cyfan mewn un poster A3.
Rydym wedi penodi Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Chyfarwyddwr Adnoddau newydd.
Penodwyd Paul Ryall-Friend yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau ac mae'n Ddirprwy Brif Weithredwr V2C. Ymunodd â'r cwmni ym mis Mawrth.
Mae Paul wedi gweithio o’r blaen fel Cyfarwyddwr Strategaeth a Chynllunio yng Ngrŵp Tai Curo yng Nghaerfaddon. Cyn ymuno â'r sector tai yn 2012 roedd Paul yn gweithio mewn cysylltiadau cwsmeriaid yn y diwydiant bancio.
Mae penodiad Paul yn rhan o raglen trawsnewid sylweddol ble bydd y cwmni'n hybu arloesedd, dylunio sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ac ymagwedd ‘digidol yn gyntaf’ at fusnes. Bydd hefyd yn arwain y cwmni wrth gyrraedd ei nodau a'i gynlluniau strategol.
Penodwyd Sarah Prescott yn Gyfarwyddwr Adnoddau ac mae'n Ysgrifennydd Cwmni i V2C. Ymunodd Sarah â'r cwmni ym mis Gorffennaf 2017, yn olynydd i Alun Rawlins a fydd yn ymddeol ym mis Medi.
Swydd flaenorol Sarah oedd Cyfarwyddwr Cyllid a TGCh ar gyfer Cymdeithas Dai Cymunedol Caerdydd, a chyn hynny roedd yn Gyfarwyddwr Cyllid Cynorthwyol yn Gwalia (a elwir y ‘People Group’ nawr), a hefyd yn Gyfarwyddwr Cyllid i Tenovus, yr elusen ganser.
Meddai Cadeirydd Cymoedd i'r Arfordir, Neil Harries: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi gwneud dau benodiad mor gryf yn ein Tîm Gweithredol ac rydym yn credu y bydd y ddau yn ased mawr i Gymoedd i'r Arfordir a'i gwsmeriaid.”
Ychwanegodd Stephen Cook, y Prif Swyddog Gweithredol: “Mae Paul a Sarah yn ffitio'n dda iawn yn niwylliant a gwerthoedd Cymoedd i'r Arfordir, gan fod ganddynt ffocws cryf ar wasanaeth i gwsmeriaid a'n pwrpas elusennol, ar y cyd â ffocws masnachol craff hefyd.”
Ymgynghoriad ar 'Gwybodaeth i denantiaid landlordiaid cymdeithasol' – Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)
Mae Llywodraeth Cymru eisiau cael barn tenantiaid ar y wybodaeth y bydd landlordiaid cymdeithasol yn ei dosbarthu os bydd diddymu'r Hawl i Brynu yng Nghymru yn dod yn ddeddf.
Maent eisiau gwybod os yw'r ddogfen:
Dilynwch y ddolen i'r fersiwn Cymraeg neu Saesneg a rhowch eich barn drwy anfon e-bost at david@tpas.cymru neu ffoniwch 01492 593046.
Byddwn yn Canolfan Gymunedol Wildmill
12 Gorffennaf, 2-7pm i siarad â chi am:
Y GWAITH ADNEWYDDU ALLANOL AR EICH CARTREF
Dewch yn eich blaen i sgwrsio â staff o'n timau tai a chynnal a chadw am y gwaith adnewyddu allanol ar eich cartref chi a/neu eich cymdogion.
Bydd gennym sampl hefyd o'r deunyddiau rydym yn bwriadu eu defnyddio ynghyd â gwybodaeth dechnegol am y broses osod ac, yn bwysicach, am eu diogelwch.
Neu gallwch gysylltu â ni yn y swyddfa gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych:
0300 123 2100
comments@v2c.org.uk
www.v2c.org.uk
@valleystocoast
Eich diwrnod anifeiliaid anwes lleol yn ôl o 11 i 14 Gorffennaf â sefydliadau mawr i chi dderbyn y cymorth gorau a chyngor ar gyfer eich cŵn a chathod cariadus!
Byddwn yn y lleoliadau canlynol:
Dydd Mawrth 11 Gorffennaf 10 am-5 pm
Canolfan Gymunedol Gorllewin, Cefn Glas
Dydd Mercher 12 Gorffennaf 10 am-5 pm
Canolfan Gymunedol Wildmill
Dydd Iau 13 Gorffennaf 10 am-5 pm
Pwll nofio y Pîl
14 Gorffennaf i ddydd Gwener 9 am-4 pm
Canolfan gymunedol Caerau, Maesteg
Cydio apwyntiad gyda y
Gwirio PDSA nyrs milfeddyg ar gyfer anifail anwes cŵn am ddim.
Bydd Ymddiriedolaeth Cŵn yn y digwyddiad a darparu ficrosglodynnu rhad ac am ddim a chyngor ar ddiweddaru manylion eich ci sglodion.
Bydd gwarchod cathod yn y digwyddiad a darparu talebau ar gyfer eich cath fach neu cathod ysbaddu am ddim hefyd.
Hefyd cael cyfle i ennill £50 cariad i talebau siop am roi inni eich sylwadau yn unig!
Bydd ein tîm materion arian yma hefyd ar gyfer eich cyngor ariannol a tai a chefnogaeth.
Ewch i'n tudalen Reggie Roadshow Facebook a twitter ar gyfer holl ddigwyddiadau sydd ar y gweill:
https://www.Facebook.com/Reggieroadshow/
https://Twitter.com/Reggieroadshow
Noder: dim ond cŵn ar dennyn diogel Gall fynychu digwyddiadau, ond bydd pob cyngor yn cael diolch holl berchenogion anifeiliaid anwes.
Aeth gwirfoddolwyr ati gyda'u brwshys paent a'u hoferôls i dwtio ysgol iau yng Nghefn Glas, Pen-y-bont ar Ogwr
Agorodd Ysgol Iau Llangewydd ei drysau i Dai Cymoedd i'r Arfordir (V2C) a Jistcourt De Cymru ar gyfer ‘Diwrnod Rhoi ac Ennill’ 2017. Roedd gwaith y prynhawn yn cynnwys rhoi côt o baent i'r ffensys, addurno'u ‘stiwdio radio’ newydd ac ychwanegu at y waliau o flodau sy'n amgylchynu’r ysgol.
Meddai Neil Clode, Pennaeth Ysgol Iau Llangewydd “Roedd pob un ohonom yn Ysgol Iau Llangewydd wrth ein bodd o gael manteisio ar y ‘Diwrnod Rhoi ac Ennill’ a drefnwyd gan V2C a Jistcourt. Gwnaethant gymaint o waith ac roedd yn ymddangos bod pawb wedi mwynhau'r awyrgylch hamddenol yn yr ysgol.”
Dywedodd Emma Norman o Jistcourt, ‘Roedd yn bleser llwyr cael cymryd rhan yn niwrnod Rhoi ac Ennill V2C. Buom yn gweithio fel tîm i wneud gwelliannau i'r gatiau, ffensys a'r waliau yn yr iard, a llwyddom i beintio Bwth Radio newydd Blwyddyn 6 hefyd!’
Meddai Rachel Morton o Adfywio Cymunedol V2C, “Roedd yn hyfryd cael ychwanegu rhywbeth at y gwaith gwych mae'r rhiant wirfoddolwyr a Jan o Bethesda Arts yn ei wneud yn barod yn yr ysgol. Mae V2C yn buddsoddi llawer o amser ac egni yn ein cymunedau, ac mae cael gweithio gyda'n contractwyr er budd ysgol leol yn elfen gadarnhaol dros ben.”
Mae’r digwyddiad rhyngwladol blynyddol hwn yn rhoi cyfle i fusnesau weithio ar broject lleol sydd o fudd i'r gymuned. Mae Jistcourt yn gweithio ar adnewyddu fflatiau i Gymoedd i'r Arfordir yng Nghefn Glas ac roedd eisiau rhoi buddion ychwanegol i Ysgol Llangewydd.
O 5 Mehefin 2017 ymlaen, bydd gwasanaeth newydd gwell i gasglu deunydd ailgylchadwy oddi ar ochr y ffordd yn cael ei gyflwyno i aelwydydd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd hyn yn caniatáu i ni gyrraedd y targedau ailgylchu newydd a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.
Y targed ar gyfer 2015-16 oedd 58 y cant, ond bydd yn 64 y cant erbyn 2020, ac yna’n 70 y cant erbyn 2025. Mae targed hefyd wedi’i osod i beidio â chynhyrchu gwastraff tirlenwi o gwbl erbyn 2050.
Bydd y newidiadau i ailgylchu gwastraff y cartref yn cynnwys y canlynol:
Cynhwysyddion ailgylchu newydd
Bydd sach oren newydd yn cael ei gyflwyno i ailgylchu cardbord, a sach gwyn newydd ar gyfer papur. Byddwch hefyd yn cael cadi du newydd, sy’n debyg i’r cadi gwastraff bwyd mawr, ar gyfer ailgylchu gwydr. Bydd y cynhwysyddion newydd hyn yn disodli’r ddau flwch du, na fydd yn cael eu defnyddio mwyach. Rhagor o gyngor ar beth i’w wneud gyda’ch bocsys du maes o law.
Bydd y cynhwysyddion a ddefnyddir i ailgylchu gwastraff bwyd yn aros yr un fath - un cadi brown bychan (gyda bagiau gwyrdd y gellir eu compostio) ar gyfer y tu mewn i’r cartref, ac un cadi brown mawr a gesglir oddi ar ochr y ffordd. Bydd eich sach glas ar gyfer storio plastig a metel hefyd yn aros yr un fath. Caiff aelwydydd roi faint bynnag o ddeunydd ailgylchu ag y dymunant allan i’w gasglu, a gallwch gael mwy o sachau a blychau wrth ofyn amdanynt.
Cyfyngiad newydd o ddau fag ar gyfer gwastraff
Bydd cartrefi â hyd at bum preswylydd yn cael eu cyfyngu i daflu hyd at ddau fag gwastraff bob pythefnos. Ni fydd bagiau du yn cael eu defnyddio mwyach, oherwydd bydd yr holl drigolion yn cael cyflenwad o fagiau o liwiau a brandiau penodol ar gyfer cael gwared â’u gwastraff.
Pan fo chwech neu saith preswylydd ar un aelwyd, ceir gofyn am un bag gwastraff ychwanegol bob pythefnos, a bydd aelwydydd ag wyth unigolyn neu fwy yn cael gofyn am ddau fag gwastraff ychwanegol bob pythefnos.
Bydd un bag ychwanegol hefyd yn cael ei ddarparu i gartrefi lle y defnyddir tanau glo sy’n cynhyrchu lludw fel y brif ffynhonnell o wres, a bydd deiliaid tai cymwys yn parhau i gael gwasanaeth casglu â chymorth.
I gofrestru ar gyfer y dosbarthiadau ychwanegol, ffoniwch 01656 643643 neu anfonwch neges e-bost i recyclingandwaste@bridgend.gov.uk
Gwasanaeth casglu newydd ar gyfer cewynnau a gwastraff amsugnol
Bydd cartrefi sy’n cynhyrchu cewynnau neu gynhyrchion gwastraff amsugnol eraill (nid cynhyrchion misglwyf) yn cael cofrestru i gael casgliad ar wahân ar gyfer y math hwn o wastraff, sy’n golygu na fydd angen eu rhoi yn eu bagiau gwastraff na ellir eu hailgylchu.
Yn ogystal â chewynnau, bydd y gwasanaeth yn ymdrin â chlytiau golchi dwylo a hancesi papur. Bydd y manylion am sut i gofrestru yn cael eu cyhoeddi’n fuan. I wneud cais ar gyfer y casgliad Cynhyrchion Hylendid Amsugnol (a fydd yn defnyddio bagiau porffor) ffoniwch 01656 643643 neu anfonwch neges e-bost i recyclingandwaste@bridgend.gov.uk
Newidiadau i Ganolfannau Ailgylchu Cymunedol
O 5 Mehefin 2017 ymlaen, bydd angen gwahanu unrhyw wastraff a gludir i safleoedd Brynmenyn, Llandudwg a Maesteg fel bod yr holl ddeunyddiau a ailgylchir yn cael eu rhoi yn y biniau cywir yn gyntaf - ni fyddwch yn cael rhoi popeth mewn bag du a’i daflu i’r sgip mwyach.
Bydd cynhwysyddion ailgylchu newydd, bagiau gwastraff, calendr casglu newydd, a chyfarwyddiadau llawn yn cael eu darparu cyn mis Mehefin.
I gael rhagor o fanylion am y gwasanaeth newydd, a gweld rhestr lawn o Gwestiynau Cyffredin, ewch www.recycleforbridgend.wales
Wythnos Anifeiliaid Anwes yn helpu ffrindiau blewog Pen-y-bont ar Ogwr i ddod yn iach ac yn hapus.
Mae Cymoedd i'r Arfordir (V2C) wedi cynnal Wythnos Anifeiliaid Anwes lwyddiannus unwaith eto gan weithio gyda gweithwyr proffesiynol lles anifeiliaid ar draws Pen-y-bont ar Ogwr i roi cyngor i'r trigolion am eu hannwyl anifeiliaid anwes.
Mewn cydweithrediad â'r PDSA, Dogs Trust, Cats Protection a Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr, ymwelodd V2C â thrigolion yn Wildmill, Cefn Glas, Caerau a'r Pîl i roi cyngor am ddim ar anifeiliaid anwes, ynghyd â gosod microsglodion am ddim, a rhoi cyfle i bobl fynegi eu barn ar bolisi anifeiliaid anwes V2C hefyd. Manteisiodd llawer o drigolion ar y cyfle hwn a dod yn eu blaen gyda'u ffrindiau blewog.
Meddai Laura Ballard, Swyddog Digwyddiadau Milfeddygol y PDSA, ‘‘Mae ein rhaglen Gwirio Anifeiliaid Anwes yn addysgu perchenogion anifeiliaid anwes i ddeall sut gall eu hanifeiliaid fod mor iach a hapus â phosibl. Gan weithio ar y cyd ag elusennau anifeiliaid a grwpiau cymunedol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, roedd ymdeimlad gwir gymunedol i'n digwyddiadau a gwelsom y nifer fwyaf o gŵn erioed yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr! Hoffwn ddiolch i V2C am gydlynu'r fenter iechyd anifeiliaid anwes hon ac edrychwn ymlaen at gwrdd â mwy ohonoch pan ddown yn ôl ym mis Gorffennaf.’’
Dywedodd Malcolm Stagg, Nyrs Milfeddygol yr Ymddiriedolaeth Cŵn, “Yn ystod ein pedwar diwrnod gydag Wythnos Anifeiliaid Anwes V2C, rydym wedi gosod microsglodion yn llwyddiannus ar 22 o gŵn ac, yr un mor bwysig, wedi helpu bron 100 o berchenogion i wirio a diweddaru manylion microsglodion eu cŵn. Cawsom hefyd gyfle gwych i roi cyngor i berchenogion ar ysbaddu, ymddygiad a pherchnogaeth cŵn cyfrifol cyffredinol, ynghyd â dosbarthu cannoedd o fagiau baw ci am ddim. Trefnwyd y digwyddiadau fel bod pob elusen/mudiad oedd yn bresennol yn gweithio i ategu ei gilydd, ac rydym yn edrych ymlaen yn barod at y digwyddiadau dilynol sydd ar ddod a pharhau â'r gwaith da.
Meddai Amy Jones, Swyddog Ymgysylltu â Chwsmeriaid V2C, “Trwy greu'r digwyddiadau cymunedol hyn, rydym wedi llwyddo i gyrraedd mwy a mwy o berchenogion anifeiliaid anwes yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr ers i ni ddechrau'r project partneriaeth hwn yn 2008. Rydym yn wir ddiolchgar am ymrwymiad anhygoel yr holl sefydliadau i'r digwyddiadau ac edrychwn ymlaen at fwy o lwyddiant yn yr wythnos ddilynol ym mis Gorffennaf.”
Fel rhan o’n hymrwymiad ehangach i’r cymunedau y gweithiwn ynddynt, mae V2C yn aelod o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae’n rhaid i’r bwrdd gyhoeddi Asesiad Lles ar gyfer y fwrdeistref a gellir gweld copi o’r adroddiad hwn yma.
Mae gennym gyfle gwych i chi wirfoddoli, cyfrannu, dysgu sgiliau newydd a chael budd o hyfforddiant, wrth ymuno â ni ar fwrdd V2C. Mae'r bwrdd yn gyfrifol am sicrhau bod y sefydliad yn ariannol gadarn a'i fod yn cydymffurfio â'r gyfraith ym mhopeth a wna. Mae'r Bwrdd yn gyfrifol hefyd am benderfynu ar gyfeiriad strategol y sefydliad, beth ddylai wneud yn y dyfodol, a beth sydd angen ei newid.
Mae'r bwrdd yn cwrdd 10 gwaith y flwyddyn, mae'r cyfarfodydd yn dechrau am 5pm ac yn para tua dwy awr a hanner fel arfer. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am ymuno â'r bwrdd, dod i sesiwn flas, neu gael ffurflen gais, cysylltwch â Diane Slater. 01656 762489 • board@V2C.org.uk • @ValleysToCoast • V2C.org.uk
Rhaid dychwelyd y ffurflenni cais wedi'u llenwi erbyn y dyddiad cau, 30 Mehefin, ac os byddwch ar y rhestr fer, cynhelir y cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau 24 Gorffennaf
Mae'r bryn uwchben Caerau yn edrych yn lanach ac yn harddach heddiw, ar ôl sesiwn casglu sbwriel fawr fel rhan o ymgyrch Gwanwyn Glân Cymru gan Cadwch Gymru'n Daclus.
Cliriodd tîm mawr o wirfoddolwyr dros ddwy dunnell o wastraff o’r nant, y man chwarae a thu hwnt i’r ymylon o gwmpas Parc Caerau, mewn ardal o harddwch naturiol arbennig. Cafodd staff V2C gymorth gan aelodau o Wasanaeth Tân Maesteg a thrigolion yr ardal.
Roedd yr ymgyrch Gwanwyn Glân Cymru cyntaf erioed yn rhan o Wanwyn Glân Prydain, a gefnogir gan y naturiaethwr teledu a'r ysgrifennwr, Steve Backshall, cyflwynydd Deadly 60 ac enillydd BAFTA. Ar draws y DU, mae hyd at hanner miliwn o bobl wedi bod allan o gwmpas fel rhan o ymgyrch ehangach i gael gwared â sbwriel ledled y wlad.
Meddai Rachel Morton o Gymoedd i'r Arfordir:
“Cawsom ddiwrnod ardderchog yn glanhau ochr y mynydd, ac roedd y gwirfoddolwyr wrth eu boddau. Roedd yn wych gweld pawb o V2C, y Gwasanaeth Tân a thrigolion yno. Mae V2C yn rhedeg digwyddiadau gwirfoddol drwy gydol y flwyddyn i helpu i gadw ein cymunedau a'r amgylchedd yn lân, ac mae'n gwerthfawrogi'r bartneriaeth gyda Cadwch Gymru'n Daclus, sy'n eiriolwyr dros yr amgylchedd.”
Meddai Brian Jones, Swyddog Prosiect Cadwch Gymru'n Daclus dros Ben-y-bont ar Ogwr:
“Roedd yn wych gweld cymaint o bobl o'r ardal yn dod at ei gilydd i gymryd rhan yn Gwanwyn Glân Cymru. Mae'n hanfodol bob pawb yn gwneud eu rhan dros ein hamgylchedd lleol ac mae'r digwyddiad hwn yn enghraifft berffaith o'r hyn y gall cymunedau lleol ei gyflawni wrth gydweithio.
“Hoffem ddiolch i noddwr ein digwyddiad, Cymoedd i'r Arfordir, am eu cyfraniad at wneud y digwyddiad mor llwyddiannus.”
I gael mwy o wybodaeth am weithgareddau Cadwch Gymru'n Daclus ym Mhen-y-bont ar Ogwr, cysylltwch â'r Swyddog Prosiect, Brian Jones, ar 07824 504819.
Mae Ysgol Gyfun Maesteg a Chymoedd i'r Arfordir (V2C) wedi ymuno i lansio partneriaeth Dosbarth Busnes tair blynedd i roi hwb i gyfleoedd gyrfa pobl ifanc.
Mae Dosbarth Busnes, sef cydweithrediad rhwng Gyrfa Cymru a Busnes yn y Gymuned (BITC), yn fenter genedlaethol sydd â'r nod o gryfhau cysylltiadau rhwng ysgolion a chyflogwyr i ddatblygu'r pwll sgiliau o weithwyr y dyfodol yng Nghymru.
Nod y rhaglen Dosbarth Busnes yw gwella dealltwriaeth disgyblion ysgol o fyd gwaith a dewisiadau gyrfa drwy eu cysylltu â busnesau ar gyfer cyfleoedd cydweithredu a chyfranogi.
Meddai Tania Hill, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Gyfun Maesteg: “Rydym yn hynod ddiolchgar bod ein myfyrwyr wedi cael y cyfle hwn i ddysgu sgiliau newydd a chael eu hysbrydoli gan V2C. Bydd ein myfyrwyr yn cael budd mawr o'r wybodaeth fusnes ynghyd â dysgu sgiliau trosglwyddadwy y gobeithiwn fydd yn eu paratoi ar gyfer byd gwaith. Mae'r staff a'r myfyrwyr yn edrych ymlaen at weld beth fydd y bartneriaeth yn ei gyfrannu i'r ysgol.”
Siaradodd Claire Murphy, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Corfforaethol V2C yn y lansiad: “Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu cysylltiadau cryfach â'r gymuned a helpu i roi'r sgiliau i ddisgyblion y bydd eu hangen arnynt yn y gweithle. Rydym yn arbennig o awyddus i ymgysylltu â merched er mwyn tanio'u brwdfrydedd dros swyddi neu yrfaoedd annhraddodiadol nad ydynt wedi eu hystyried efallai.”
“Dros y 3 blynedd nesaf, byddwn yn cyflwyno sesiynau mentora a chyflwyniadau ysgogiadol gan ddefnyddio modelau rôl benywaidd, lleoliadau profiad gwaith a sesiynau i drafod pa sgiliau rydym yn chwilio amdanynt wrth recriwtio gweithwyr newydd.”
“Mae V2C yn falch o fod yn rhan hanfodol o'r cymunedau ar draws ardal Pen-y-bont ar Ogwr a gobeithiwn y bydd y cynllun hwn yn codi dyheadau pobl ifanc yr ardal ymhellach ac yn rhoi blas iddynt ar fywyd gwaith go iawn cyn iddynt fynd i mewn i'r gweithle.”
Meddai Hannah Stephens, Cynghorydd Ymgysylltu Busnes Gyrfa Cymru: “Mae'n anhygoel gweld cwmni Cymreig mor bwysig, V2C, yn ymgysylltu â Dosbarth Busnes ac yn helpu i feithrin cysylltiadau cynaliadwy rhwng ysgolion, pobl ifanc a chyflogwyr lleol. Trwy gydweithio yn y ffordd hon, gall pob un ohonom helpu pobl ifanc ar draws Cymru i wireddu eu potensial.”
Lluniau o'r chwith i'r dde:-
Hannah Stephens – Gyrfa Cymru Tania Hill – Pennaeth Cynorthwyol, Ysgol Gyfun Maesteg Steve Curry – Rheolwr Adfywio Cymunedol V2C Claire Murphy – Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Corfforaethol V2C
Mae Cymoedd i'r Arfordir yn dathlu derbyn ei safon aur am iechyd corfforaethol – y marc safon am iechyd a lles yn y gweithle yng Nghymru.
Cyflwynir y safon iechyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mae iddi gategorïau efydd, arian, aur a phlatinwm ar gyfer sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector sy'n rhedeg arferion i hybu iechyd a lles eu gweithwyr.
Mae dyddiadur blynyddol o weithgareddau'n cael ei drefnu ar draws y sefydliad, yn cynnwys cymelliadau iechyd fel y collwr mwyaf, diwrnod ffrwythau, cinio cerdded, aelodaeth o gampfeydd wedi'i disgowntio a gwiriwch eich lefelau, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn.
Mae'r grŵp yn sicrhau bod ymgyrchoedd iechyd a lles cenedlaethol fel ‘Diwrnod dim ysmygu’ ac ymgyrchoedd ymwybyddiaeth alcohol cenedlaethol yn cael eu hysbysebu i'r staff. Mae'r calendr digwyddiadau hefyd yn cynnwys mentrau penodol seiliedig ar adborth gan staff: eleni rydym yn rhedeg cwrs 8 wythnos ar ymwybyddiaeth ofalgar.
Wrth siarad am y wobr, dywedodd y partner Busnes Iechyd a Diogelwch, Sue Jones: “Rydym yn falch dros ben o glywed bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cydnabod gwaith diflino V2C bob dydd i wella iechyd a lles ein xxx o aelodau staff sy'n gweithio mewn amrywiaeth eang iawn o rolau. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r grŵp iechyd a lles am eu cyfraniad i raglen waith mor llwyddiannus.”
Mae staff Cymoedd i'r Arfordir (V2C) wedi cychwyn eu dathliadau gyda chlec drwy gyfrannu at apêl bocsys esgidiau'r Nadolig ar gyfer y Banc Bwyd lleol.
Roedd yr eitemau derbyniol yn cynnwys siocledi, losin, bisgedi a danteithion, ynghyd ag eitemau eraill fel posau, teganau bach a brwshys dannedd.
Meddai Jessica Lane, trefnydd gweithiau V2C, “Mae'n wych cael rhoi rhywbeth nôl i'r gymuned rydym yn gweithio ynddi, ac rydym yn gwybod bod Banciau Bwyd yn cael eu defnyddio'n fwy nawr nag erioed o'r blaen. Y Nadolig hwn, rydym yn gobeithio y bydd ein bocsys danteithion yn rhoi syrpréis hyfryd i deuluoedd sy'n mynd heb bethau fel arfer. Mae V2C bob amser yn chwilio am ffyrdd o gefnogi'r gymuned a rhoi help llaw i'r rhai hynny sydd ei angen.”
Mae Banc Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu tri diwrnod o fwyd argyfwng maethlon a chymorth i bobl leol sy'n cael eu hatgyfeirio atynt mewn argyfwng.
Os hoffech roddi i Fanc Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr, ewch i'w gwefan: www.bridgend.foodbank.org.uk. Cewch wybodaeth yma am ba eitemau o fwyd sydd eu hangen ar frys a ble gallwch adael eich eitemau.
Llwyddodd Cymoedd i'r Arfordir (V2C) i ennill dwy wobr yng Ngwobrau Tai Cymru 2016 eleni. Trefnwyd y wobr gan Sefydliad Tai Siartredig Cymru, i gydnabod a dathlu creadigrwydd, brwdfrydedd ac arloesedd sefydliadau tai ac unigolion ar draws yr holl sector dai yng Nghymru.
Llwyddiant cyntaf y noson oedd y Wobr Gydweithrediad, gyda'r prosiect: Dod ag Emmaus i Gymru.
Roedd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar waith partneriaeth rhwng V2C ac Emmaus i ddatblygu'r gymuned Emmaus gyntaf yng Nghymru, gan gynnig 24 ystafell oedd yn rhoi cartref sefydlog i gymdeithion ar ôl cyfnod o ddigartrefedd. Roedd y weledigaeth hon yn atseinio gyda gweledigaeth V2C ei hun o greu cymunedau y mae pobl eisiau byw ynddynt.
Meddai Tom Clarke, Cyfarwyddwr Emmaus, ‘Mae Nantlais yn cynnig cyfle i gymdeithion ddysgu sut i fyw'n annibynnol o fewn amgylchedd cefnogol. Mae sgiliau byw, bwyta'n iach a choginio, a rheoli cyllidebau yn cael eu haddysgu yn y cartref.’ Fel y dywedodd un cydymaith, ‘Rhoddodd Emmaus wely i mi a rheswm dros godi oddi wrtho’.
Yr ail wobr a enillwyd oedd y Wobr Cynnwys a Grymuso Cymunedau a oedd yn cydnabod y gwaith partneriaeth gyda grŵp ieuenctid yn y gymuned leol: y prosiect Wildmill Youth Revival.
Yn ystod haf 2014, cyhoeddwyd y byddai'r cyfleuster lleol i bobl ifanc yn Wildmill yn cau. O ganlyniad, cymerodd y gymuned y mater dan ei gofal. Roedd Debbie Bryn, gweithiwr ieuenctid Youth Works cyn iddo gau, yn gweld hyn yn gyfle ardderchog; daethant â phobl leol at ei gilydd mewn grŵp gweithredu i sicrhau nad oedd y ddarpariaeth i bobl ifanc yn cael ei cholli.
Meddai Debbie Bryn, gwirfoddolwr gyda Wildmill Youth: ‘Roedd y grŵp yn awyddus i weithio gyda V2C gan ein bod wedi gweithio'n agos gyda nhw yn y gorffennol. Cysylltom â nhw i weld sut gallent ein helpu gyda'n cynllun. Roedd ein hymrwymiad, ein huchelgais a'n penderfyniad i sicrhau bod pobl ifanc yn cael y cychwyniad gorau yn amlwg ac roeddwn yn dra hyderus y byddai'r grŵp yn gallu cyflawni pethau gwych ar gyfer y stad.’
Roedd y noson yn llwyddiant mawr i V2C, a ddathlodd eu buddugoliaeth yng Ngwesty’r Vale ar 18 Tachwedd. Diolch i noddwyr y gwobrau, United Living a Contract Services.
Oherwydd haelioni pobl Sir Penybont a gyda chymorth o fusnesau lleol, mae banc bwyd Penybont ar Ogwr wedi cael ychydig o wythnosau brysur yn trefnu a dosbarthu bwyd dros gyfnod prysur y Nadolig.
Llenwodd staff Cymoedd i'r Arfordir (V2C) dros 50 o flychau esgidiau yn llawn danteithion y Nadolig i helpu'r rheini sydd mewn cymunedau cyfagos i fwynhau'r Nadolig.
Rhodd busnesau lleol a chontractwyr sy'n gweithio gyda V2C gwobrau i raffl Nadolig, gan codi swm wych o £832.07. Bydd yr arian hwn yn caniatáu gwirfoddolwyr o banc bwyd Penybont ar Ogwr i brynu eitemau bwyd taer ei angen i helpu i ddarparu diet iach a chytbwys i deuluoedd sy'n cael trafferth.
Dywedodd Cadeirydd ag Ymddiriedolwr Banc Bwyd Penybont ar Ogwr Jonathan Davies, "Rydym yn hynod o ddiolchgar i Gymoedd i’r Arfordir am gyfrannu arian parod gan eu raffl Nadolig. Hoffem ddiolch i bawb am eu cefnogaeth barhaus."
Dywedodd Chris Randall, ymgynghorydd dyled gwasanaethau cyhoeddus o V2C, "Rydym yn hoffi i weithio mor agos â phosibl gyda banc bwyd Penybont ar Ogwr fel y gallwn weld y gwaith gwych a wnânt yn ein cymuned. Rydym yn falch y gallem helpu."
Sarah Hay sy’n sôn wrthyn ni am wella lle chwarae yn ei chymuned leol yn y Felin Wyllt, Pen-y-bont ar Ogwr. Prosiect dwy flynedd yw Achubwyr Lle Gwag sy’n cael ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol a’i ddarparu gan bedair cymdeithas dai, yn cynnwys Tai Cymoedd i’r Arfordir (V2C) ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Cynhaliodd prosiect Achubwyr Lle Gwag ddigwyddiadau ar gyfer cymunedau lleol i nodi syniadau er mwyn gwella mannau awyr agored lleol a bues i yn un o’r rhain yn 2014. Es i draw achos mod i’n gwybod bod tipyn go lew o lefydd ar gael yn ein cymuned a allai gael eu datblygu ar gyfer chwarae. Roeddwn i’n awyddus i greu ardal chwarae ddiogel yn y Felin Wyllt a chefais fy ysbrydoli gan weithdy Chwarae Cymru i roi syniad am brosiect at ei gilydd.
Fy syniad gwreiddiol oedd cael gwared â thwmpath pridd presennol, gosod arwyneb diogel nesaf at y parc presennol ac ychwanegu goliau er mwyn i’r plant gael chwarae pêl-droed. Pan sonies i wrth fy mab hynaf am y prosiect, fe gynhyrfodd yn lân a dweud ‘Dwyt ti ddim am gael gwared â’n twmp ni, wyt ti?’ Doeddwn I ddim wedi sylweddoli pa mor bwysig oedd y twmp iddo fe a’i ffrindiau. Dechreuais i wylio plant yn defnyddio’r man a gweld cymaint roedden nhw’n ei werthfawrogi. Dywedais yr hanes wrth Chwarae Cymru ac aethon ni ati, gyda’n gilydd, i gynnal archwiliad chwarae yn yr ardal a gweithio gyda phensaer tirwedd i greu dyluniadau.
Roedd V2C yn hoffi’r dyluniad terfynol a chawson nhw hyd i arian i dalu am welliannau, gan gynnwys ei gwneud yn haws i chwarae ar y twmp. Cyn dechrau, cynhalion ni ddigwyddiad ymgynghori yn ein canolfan ymunedol ac arddangos lluniau o’r dyluniad yn ein clwb ieuenctid. Yn ystod y gwaith adeiladu, doedd rhai oedolion lleol ddim yn hapus a threuliais rywfaint o’m hamser yn eu sicrhau y byddai’r gymuned yn elwa, yn y tymor hir, o’r annibendod roedd y newidiadau wedi’i achosi. Agorwyd yr ardal chwarae newydd yn Chwefror 2016 â Diwrnod Chwarae. Yn y digwyddiad hwn, gofynnodd pobl pam nad oedd ffens o amgylch y man hwarae ‘i gadw’r cw^ n allan’. Esbonion ni nad oedd angen ffens am fod y lle yn ddiogel i blant yn barod gan fod dim traffig a bod cynifer o dai yn edrych dros y safle. Fodd bynnag, sylweddolon ni’n fuan fod baw cw^ n yn broblem go iawn. Gyda V2C, penderfynon ni ddechrau ymgyrch gwybodaeth i’r cyhoedd. Bu plant lleol yn dylunio posteri i atgoffa pobl i glirio baw eu cw^ n ac aeth V2C ati i brynu a gosod arwyddion awyr agored yn seiliedig ar ddyluniadau’r plant. Cawson ni baent sialc a mynd ati, gyda’r plant, y gwirfoddolwyr a Cadwch Gymru’n Daclus, i farcio’r holl faw cw^ n a rhyfeddu o weld cymaint o’r glaswellt wedi’i orchuddio â sialc. Roedd tenantiaid lleol, yn enwedig y perchenogion cw^ n, yn arswydo ac yn ffieiddio at y llanast roedd ein plant yn chwarae ynddo.
Mae’r llecyn yn cael ei ddefnyddio’n well nawr ac rydyn ni wedi gwneud defnydd clyfar o’r lle oedd yno. Ac mae gen i fab hapus iawn roddodd sêl bendith i’r dyluniad terfynol oherwydd nad oedden ni wedi difetha’r twmp!
Pob blwyddyn mae V2C yn noddi digwyddiad gwobrau gwirfoddolwyr Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Penybont ar Ogwr (BAVO).
Mae'r digwyddiad hwn yn dathlu y gwaith gwych gwbl wirfoddol sy'n digwydd yn y sir.
Mae rhai o'r enillwyr yn anhygoel gyda beth y maent yn rhoi yn rhydd i wella ansawdd bywyd pobl eraill.
Tenantiaid V2C yw rhai o’r derbynwyr ac hefyd rhai o’r ennillwyr ac mae hyn oll yn helpu i greu 'cymunedau ffyniannus lle mae pobl am fyw ynddynt'.
Dyma Amy Jones (Swyddog Ymgysylltu Cwsmeriaid yn V2C) yn cyflwyno Sarah Boswell-Jones gyda ei Gwobr Cyfeillio a Mentora.
Mae Canolfan Gwirfoddoli newydd BAVO yn 2 Heol y Frenhines yng nghanol dref Penybont ar Ogwr yn cynnig adnodd-un-stop ar gyfer pob agwedd o wirfoddoli gyda dros 300 o sefydliadau gwirfoddol cofrestredig yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i gyfateb â sgiliau a diddordebau pobl.
Am fanylion pellach ffoniwch BAVO ar: 01656 660372
Derbyniodd tenantiaid plês eu hallweddi i un o ddeg byngalo newydd eu hadeiladu ar ddatblygiad V2C yn The Mercies, Y Porthcawl.
Roedd preswylwyr newydd a'u teuluoedd yn bresennol yn y bore agored, gan roi cyfle i staff V2C a United Living, y contractwr datblygu, i groesawu'r tenantiaid newydd i'w cartrefi newydd. Roedd y digwyddiad hefyd yn rhoi cyfle i drigolion y cwmpasoedd gael cipolwg ar y meddiannau roedden wedi eu gwylio'n amyneddgar wrth iddynt gael eu hadeiladu dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae'r byngalos o safon uchel yn cynnig hygyrchedd hawdd drwyddynt ac maent yn darparu gwell ansawdd bywyd i'r preswylwyr sydd â materion symudedd amrywiol, ac mae gan bob cartref ystafell wlyb a gerddi hardd y tu ôl iddynt.
“Mae hyn yn golygu gymaint mwy na dim ond tŷ i lawer’, meddai un o denantiaid V2C, Mrs Martin. “Nawr gall fy ngŵr ddod nôl o'r ysbyty a bod yn rhan o fywyd teuluol eto ar ôl treulio blwyddyn yn yr ysbyty. Dydych chi ddim yn sylweddoli faint mae hyn yn ei olygu i mi.”
Sylwodd Paul Sawtell, Rheolwr Datblygu V2C: “Roeddwn yn falch iawn o weld datblygiad llwyddiannus arall yn cael ei gwblhau mewn ardal ble mae mawr angen datblygiad o'r math hwn. Roedd yn wych gweld o lygad y ffynnon y teuluoedd oedd yn derbyn y meddiannau ac mae'n rhoi ymdeimlad o falchder i mi wrth weld beth mae'n ei olygu i'n cwsmeriaid.”
Mesuryddion clyfar yw’r genhedlaeth newydd o fesuryddion nwy a thrydan a fydd yn disodli’r mesuryddion traddodiadol yn ein cartrefi . Bydd mesurydd clyfar yn cael ei gynnig i bob cartref yng Nghymru, Lloegr a’r Alban gan eu cyflenwyr ynni heb unrhyw gost ychwanegol rhwng nawr a 2020. Bydd eich cyflenwr yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad pan fyddant yn barod i osod un i chi.
Bydd mesuryddion clyfar yn eich galluogi chi i weld yn union faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio, wrth i chi ei ddefnyddio, a faint mae’n costio mewn punnoedd a cheiniogau. Maent hefyd yn rhannu darlleniadau rheolaidd gyda’ch cyflenwr ynni trwy rwydwaith diwifr diogel, gan ddod â biliau wedi’u hamcangyfrif ac ymweliadau i ddarllen y mesurydd i ben.
Ynni Clyfar GB yw llais yr ymgyrch cyflwyno mesuryddion clyfar.
I gael mwy o wybodaeth am fesuryddion clyfar a sut y gallant eich helpu chi, ewch i smartenergyGB.org/cy
Cyfarwyddwr Gweithrediadau/Dirprwy Brif Weithredwr
tua £85k ynghyd â phecyn cefnogol deniadol.
Fel rhan o gam datblygu nesaf Cymoedd i’r Arfordir, rydym wedi creu rôl a fydd yn arwain y cydweithio rhwng pob un o'n gwasanaethau rheng flaen. Wrth wneud hynny, y nod yw wir drawsnewid profiad y cwsmer. Ein nod yw optimeiddio perfformiad drwy ddefnyddio technoleg smart a dyfeisgarwch dull a fydd yn gwneud i ni sefyll allan oddi wrth y gweddill.
Bydd eich proffil proffesiynol yn eich galluogi i ddeall cymhlethdodau rheoli tai a darparu gwasanaeth atgyweirio o'r radd flaenaf. Eich 'Gweledigaeth', ar gyfer gwasanaeth cwsmeriaid gwych, fydd yn arwain at y timau a fyddwch yn rheoli yn cychwyn newid ac yn mynnu ar weithio ar flaen y gad.
Arweinydd o newid, ysbrydolwr o bobl, gydag angerdd i greu lle gwych i weithio, byddwch yn fedrus wrth gyfuno'r nodweddion hyn gyda chraffter busnes a fydd yn ychwanegu gwerth gwirioneddol y tu hwnt i arwain eich cyfarwyddiaeth.
Os yw hyn yn rôl yr ydych wedi bod yn aros am, byddem yn falch dros ben i glywed wrthoch ble bynnag yr ydych yn gweithio ar hyn o bryd o fewn y Deyrnas Unedig. Gellir gweld y pecyn ymgeisydd drwy www.campbelltickell.com/jobs. Am sgwrs anffurfiol gyda'n hymgynghorwyr, Campbell Tickell, cysylltwch â'u ymgynghorwr arweiniol, Mark Glinwood, ar 07944-411484 or 020 3434 0990.
Dyddiad cau: 31 Hydref, 2016
Mae Cymoedd i’r Arfordir bob amser wedi croesawu ac cofleidio amrywiaeth yn ein cymunedau ac ymhlith ein gweithlu.
Un o'n hegwyddorion allweddol yw 'Gwerthfawrogi Gwahaniaethau' ac rydym yn pryderu ac yn gofidio o weld cynnydd mewn troseddau casineb yn dilyn bleidlais y Refferendwm.
Rydym am ei gwneud yn glir i'n cwsmeriaid, staff a phartneriaid ein bod yn cefnogi hawl yr unigolyn i fyw heb ofn a chasineb ac ni fyddwn yn goddef gwahaniaethu o unrhyw fath.
Byddwn yn gwneud beth bynnag a allwn i helpu pobl sy'n dioddef o wahaniaethu, a byddwn yn delio â'r rhai sy'n euog o ymddygiad annerbyniol o'r fath yma.
Ydych chi’n wneuthurwr-penderfyniad profiadol, wedi ymrwymo i lywodraethu corfforaethol rhagorol, ac yn angerddol am y rôl allweddol mai tai yn chwarae yn ein heconomi a’n cymunedau lleol?
Rydym yn chwilio yn benodol am ddiddordeb gan bobl sydd â sgiliau Ariannol a Llywodraethu Cymdeithasau Tai, Rheoli a Cynnal a Chadw tai, neu sgiliau Cyfreithiol ac Adnoddau Dynol.
Ydych chi’n credu bod gennych y sgiliau perthnasol neu yn adnabod rhywun a allai fod â diddordeb? Yna cysylltwch â ni am becyn cais.
Y Cynllun Sgilliau
Rhaglen hyfforddi a datblygu newydd ar gyfer y Wallich
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Mae’r cynllun ffrindiau Cyfeillion Cymunedol i bobl 50+ a gefnogir gan Y Loteri Fawr yn edrych am gyfeillion wirfoddol yn yr ardal Maesteg
Am fwy o fanylion cysylltwch â BAVO, tel:01656 810400 ebost: bavo@bavo.org.uk
Bydd staff swyddfa Cymoedd i'r Arfordir yn dangos eu denim ar ddydd Gwener y 23 Medi i helpu i godi arian ar gyfer y diwrnod Jeans for Genes blynyddol.
Gofynnir i'r staff roddi £2 i gael gwisgo'u jîns i'r swyddfa! Ni fydd rhai o'n crefftwyr yn gallu gwisgo jîns oherwydd natur eu swydd, felly rydym yn bwriadu eu gwisgo mewn ategolion denim/glas a thynnu eu llun yn ein bwth lluniau.
Mae Lindsey Barrett, y Swyddog Prosiectau yn V2C, yn awyddus i gefnogi'r elusen oherwydd, “Mae rhywun yn waeth eu byd na chi bob amser, pan fyddwch yn gweld plant gyda phob math o glefydau yn hollol ddi-fai, a'r pethau maent yn gorfod dioddef yn eu bywyd, rwy'n meddwl bod hynny'n rheswm digonol.”
Os byddwch yn ymweld â swyddfa V2C ddydd Gwener 23 Medi, cofiwch y bydd y staff yn gwisgo’u denim dros yr achos da hwn. Os hoffech wneud rhodd i'r elusen, bydd blychau casglu yn y derbynfeydd.
Bob blwyddyn, y mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i Gymoedd i’r Arfordir adolygu ei berfformiad.
Dyma sut yr ydym yn credu ein bod yn perfformio:
A ydych chi’n cytuno gyda ni?
Rhannwch eich barn gyda Michael Hughes ar 01656 727948 neu e-bostiwch michael.hughes@v2c.org.uk
Gallech ennill £50 o dalebau siopa am ddim ond rhoi eich barn!
Pa ffordd well o ddathlu diwedd y gaeaf na phlannu 30 coeden flodeuol yn barod ar gyfer yr haf. Roedd yn reit oer pan aeth staff Cymoedd i'r Arfordir (V2C) ati â'u rhofiau, i blannu 30 ceiriosen flodeuol mewn cynlluniau gwarchod lleol.
Cliciwch yma i gael gwybod mwy.
Cafodd pawb hwyl a mwynhad ar y diwrnod ‘V2C gyda’n gilydd’, cliciwch yma i gael gwybod mwy