Mae'r Cynllun Prynu Nôl yn ystyried prynu cyn-dai cyngor neu eiddo Cymoedd i'r Arfordir a werthwyd dan yr Hawl i Brynu. Mae hyn yn ein helpu i gynyddu nifer y tai fforddiadwy yn ardal Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Pa fathau o eiddo fydden ni'n ystyried eu prynu?
Mae'n rhaid i'r mathau o eiddo rydym eisiau eu prynu fodloni'r amodau canlynol:
- Hen eiddo’r cyngor neu Gymoedd i'r Arfordir
- Rhaid bod y perchennog wedi gwneud eu trefniadau eu hun o ran ailgartrefu
Byddwn hefyd yn ystyried:
- A yw'r eiddo'n rhoi perchenogaeth fwyafrifol i ni unwaith eto yn y bloc hwnnw
- A allwn gynnwys yr eiddo yn ein rhaglenni buddsoddi mewn tai yn y dyfodol
- Faint fyddai'n costio i adfer yr eiddo i Safon Ansawdd Tai Cymru
Beth sy'n digwydd os ydym yn dod o hyd i eiddo addas?
Bydd Prisiwr Ardal yn cynnal arolwg ar yr eiddo i benderfynu beth yw ei farchnadwerth presennol a faint fydd yn costio i adfer yr eiddo i Safon Ansawdd Tai Cymru.
Ni fyddwn yn rhoi cynnig ar bob eiddo sy’n cael ei arolygu. Bydd unrhyw gynnig a wnawn o fewn yr ystod prisiau a roddwyd gan y Prisiwr Ardal.
Byddwn yn gweithredu fel "unrhyw brynwr arall". Mae'r gwerthwr yn gyfrifol am eu ffioedd cyfreithiol eu hun.
Os oes diddordeb gennych yn y cynllun hwn, cysylltwch â ni ar 0300 123 2100 a gofynnwch am y tîm Datblygu.