Ar ôl i'r Prif Weinidog gyhoeddi'n gynharach yr wythnos hon y byddwn yn mynd i mewn i gyfnod clo cenedlaethol, neu ‘gyfnod atal’ fel y'i galwodd, rydyn ni'n awyddus i'ch diweddaru ar sut fydd hyn yn effeithio ar ein gwasanaethau.
Bydd y cyfnod clo 17 diwrnod yn dechrau ddydd Gwener 23 Hydref am 18:00, tan ddechrau dydd Llun 9 Tachwedd. Yn ystod y cyfnod hwn bydd cyfres o reolau yn eu lle i arafu cyfradd heintio'r coronafeirws.
Fel rhan o'r rheolau hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i gymdeithasau tai gynnal ymweliadau a gwaith atgyweirio argyfwng a brys yn unig yn ystod y 17 diwrnod hyn.
Mae hyn yn golygu:
Gallwch ein ffonio o hyd i ofyn am waith atgyweirio ond bydd ceisiadau am waith atgyweirio newydd yn cael eu bwcio ar ôl y cyfnod clo, o 9 Tachwedd ymlaen;
Bydd gwaith atgyweirio argyfwng a brys newydd yn cael ei fwcio cyn gynted ag y gallwn; a
Byddwn yn adolygu'r holl apwyntiadau presennol ac yn penderfynu a ydyn nhw'n rhai brys.
Os oes gennych apwyntiad y teimlwn nad yw'n un brys bellach, ac a all aros tan ar ôl y cyfnod atal, byddwn yn cysylltu â chi cyn hir i drefnu slot newydd.
Hefyd, os nad ydych yn teimlo'n gyffyrddus i ni ddod i mewn i'ch cartref yn ystod y cyfnod hwn ac rydych yn teimlo y gall eich gwaith atgyweirio neu apwyntiad aros tan ar ôl 9 Tachwedd, cysylltwch â ni ar 0300 123 2100 rhwng 09:00 a 17:00 a byddwn yn gweithio gyda chi i drefnu apwyntiad arall.
Hoffem ddiolch i chi ymlaen llaw am eich dealltwriaeth wrth i ni geisio gweithio o fewn ysbryd y cyfnod atal a dilyn neges y Prif Weinidog i chwarae ein rhan yn helpu i arafu'r gyfradd heintio.
Bydd unrhyw gamau a gymerwn nawr o fudd mawr i ni wrth i ni nesáu at fisoedd y gaeaf a thymor y Nadolig. Ein blaenoriaeth yw sicrhau ein bod yn eich cadw chi a'ch cartrefi yn hapus ac yn ddiogel.
Yn olaf, rydw i eisiau diolch i bob un ohonoch am eich cydweithrediad wrth i ni ymaddasu ac ymateb i'r cyngor diweddaraf. Mae'r gwaith paratoi yn golygu y gallwn barhau â'r rhan fwyaf o'n gwasanaethau mewn ffordd ddiogel, ac rwy'n gwybod y bydd hyn o gymorth i chi a'ch cymunedau sy'n dibynnu ar y gwasanaethau pwysig a gyflenwn.
Joanne Oak
Prif Weithredwr