Rydym wedi penodi Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Chyfarwyddwr Adnoddau newydd.
Penodwyd Paul Ryall-Friend yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau ac mae'n Ddirprwy Brif Weithredwr V2C. Ymunodd â'r cwmni ym mis Mawrth.
Mae Paul wedi gweithio o’r blaen fel Cyfarwyddwr Strategaeth a Chynllunio yng Ngrŵp Tai Curo yng Nghaerfaddon. Cyn ymuno â'r sector tai yn 2012 roedd Paul yn gweithio mewn cysylltiadau cwsmeriaid yn y diwydiant bancio.
Mae penodiad Paul yn rhan o raglen trawsnewid sylweddol ble bydd y cwmni'n hybu arloesedd, dylunio sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ac ymagwedd ‘digidol yn gyntaf’ at fusnes. Bydd hefyd yn arwain y cwmni wrth gyrraedd ei nodau a'i gynlluniau strategol.
Penodwyd Sarah Prescott yn Gyfarwyddwr Adnoddau ac mae'n Ysgrifennydd Cwmni i V2C. Ymunodd Sarah â'r cwmni ym mis Gorffennaf 2017, yn olynydd i Alun Rawlins a fydd yn ymddeol ym mis Medi.
Swydd flaenorol Sarah oedd Cyfarwyddwr Cyllid a TGCh ar gyfer Cymdeithas Dai Cymunedol Caerdydd, a chyn hynny roedd yn Gyfarwyddwr Cyllid Cynorthwyol yn Gwalia (a elwir y ‘People Group’ nawr), a hefyd yn Gyfarwyddwr Cyllid i Tenovus, yr elusen ganser.
Meddai Cadeirydd Cymoedd i'r Arfordir, Neil Harries: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi gwneud dau benodiad mor gryf yn ein Tîm Gweithredol ac rydym yn credu y bydd y ddau yn ased mawr i Gymoedd i'r Arfordir a'i gwsmeriaid.”
Ychwanegodd Stephen Cook, y Prif Swyddog Gweithredol: “Mae Paul a Sarah yn ffitio'n dda iawn yn niwylliant a gwerthoedd Cymoedd i'r Arfordir, gan fod ganddynt ffocws cryf ar wasanaeth i gwsmeriaid a'n pwrpas elusennol, ar y cyd â ffocws masnachol craff hefyd.”