Bydd datblygiad diweddaraf Cymoedd i'r Arfordir yn cael ei adeiladu ar Heol Eweni ym Mhen-y-bont ar Ogwr ‒ bydd y gweithiau'n dechrau yn Chwefror 2021.
Lleolir y datblygiad ar y gyffordd â Stryd St Marie, sy'n arwain i ganol y dref, a bydd yn creu tai fforddiadwy, mawr eu hangen ar gyfer y gymuned, gan ddarparu cartrefi lle gall pobl deimlo'n ddiogel a hapus.
O'r blaen, roedd hwn yn safle’r gwerthwr ceir, Leslie Griffiths Motors. Agorodd y busnes yn 1975 ac, yn eu dydd, roeddent yn noddi nifer o ddigwyddiadau pencampwriaethau rasio ceir Cymreig. Yn ddiweddarach, defnyddiwyd yr adeilad fel siop ffenestri dwbl. Trwy adfer y safle segur hwn a rhoi pwrpas newydd iddo, mae Cymoedd i'r Arfordir yn gobeithio hyrwyddo ein gweledigaeth o adeiladu Cymru well.
Bydd y datblygiad yn cynnwys saith o fflatiau un ystafell wely ar dri llawr a bydd hefyd yn cynnwys tri man parcio y tu ôl i'r eiddo.
Ar gyfer y prosiect hwn, rydym yn gweithio gyda Tylux, sef cwmni adeiladu o Borthcawl. Amcangyfrifir y bydd yn cymryd blwyddyn i gwblhau’r gwaith, a disgwylir y bydd tenantiaid yn symud i mewn tua mis Ionawr 2022.
I gael mwy o wybodaeth am y prosiect adeiladu, bwriwch olwg ar y pecyn gwybodaeth yma.
Os hoffech rannu rai o'ch storïau am Heol Eweni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Efallai y prynoch eich beic modur cyntaf gan Leslie Griffiths Motors, neu gallai fod gennych fwy o wybodaeth am hanes y safle. Gallwch rannu eich storïau trwy anfon e-bost atom yn comms@v2c.org.uk neu drwy roi eich sylwadau ynglŷn â'r safle a'r datblygiad ar ein postiadau Facebook a Twitter.